Stori newyddion

Ffeilio eich cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau yn gynnar ac ar-lein er mwyn osgoi cosbau

Os ydych chi i fod i ffeilio eich cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Medi, defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein lle bo modd a chaniatáu digon o amser cyn eich dyddiad cau.

Ffeilio yn gynnar

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon ei gwmni. Gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwysiad os nad ydych yn cyflwyno eich cyfrifon mewn pryd.

Ffeiliwch ar-lein cyn eich dyddiad cau. Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon. Byddwn yn anfon e-bost arall atoch pan fyddwn wedi cofrestru eich cyfrifon.

Os ydych chi’n gwmni bach, ni allwch ffeilio cyfrifon talfyredig bellach.

Darganfyddwch eich opsiynau ffeilio cyfrifon ar gyfer cwmnïau bach.

Bydd dal angen i chi ffeilio cyfrifon os yw eich cwmni’n segur.

Ffeilio ar-lein

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - ac mae gwiriadau adeiledig i’ch helpu i osgoi camgymeriadau.

Gall gymryd cyn lleied â 15 munud o’r dechrau i’r diwedd a byddwch yn gwybod bod eich cyfrifon wedi’u derbyn mewn pryd.

I ffeilio ar-lein, bydd angen Cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

Osgoi gwrthodiad

Dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein y dylech anfon cyfrifon papur. Mae angen gwirio cyfrifon sy’n cael eu ffeilio ar bapur â llaw. Dim ond yn ystod oriau agor y swyddfa y gallwn eu gwirio, a gallant gymryd dros wythnos i’w prosesu.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro eich cyfrifon a’u hail anfon os cânt eu gwrthod. Dylech hefyd ystyried defnyddio darpariaeth warantedig y diwrnod nesaf a nodi unrhyw anghydfodau diwydiannol neu ffactorau a allai ei gwneud hi’n anodd i gludydd gyflawni ar amser. Ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel rheswm i apelio cosb ffeilio hwyr.

Arweiniad a chefnogaeth

Cofrestrwch am negeseuon atgoffa e-bost i’ch hysbysu pryd mae dyddiad cau eich cyfrifon. Gallwch hefyd wirio’ch dyddiad cau ffeilio ar ein Gwasanaeth dod o hyd i wybodaeth am gwmni a’i ddiweddaru.

Cofrestrwch ar gyfer ein cyfres cnoi cil newydd o weminarau am gyfrifoldebau cyfarwyddwyr a gwylio recordiadau o weminarau blaenorol Tŷ’r Cwmnïau.

Gwyliwch ein fideos YouTube i gael arweiniad ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

Rhagor o wybodaeth am:

Yn fuan, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cyflwyno cyfrif WebFiling newydd a fydd yn gwneud ffeilio’ch cyfrifon yn gyflymach ac yn haws.

Cyhoeddwyd ar 26 August 2022