Stori newyddion

Yn fuan, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cyflwyno cyfrif WebFiling newydd

Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cyflwyno'r cyfrif WebFiling newydd ar ddydd Llun 12 Medi. Dyma'r cam cyntaf i greu un ffordd o arwyddo i mewn ar draws holl wasanaethau Tŷ'r Cwmnïau.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cyflwyno’r cyfrif WebFiling newydd ar ddydd Llun 12 Medi. Bydd gan eich cyfrif newydd nodweddion diogelwch gwell ac mi fydd yn rhoi mwy o ryddid i chi hunanreoli eich cyfrif.

Mae’r manteision newydd yn cynnwys:

  • dilysu aml-ffactor
  • y gallu i gysylltu eich cwmni â’ch cyfrif WebFiling i roi mwy o reolaeth i chi dros eich ffeilio
  • y gallu i awdurdodi pobl i ffeilio yn ddigidol ar eich rhan ar WebFiling, a dileu awdurdodiad lle bo angen
  • y gallu i weld yn hawdd pwy sydd wedi’u hawdurdodi’n ddigidol i ffeilio ar gyfer eich cwmni
  • opsiwn i gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost a fydd yn eich helpu i redeg eich cwmni

Unwaith y byddwch wedi cysylltu eich cwmni â’ch cyfrif, ni fydd angen i chi nodi eich cod dilysu bob tro y byddwch yn ffeilio ar-lein.

Os ydych yn berchen ar neu yn ffeilio ar ran mwy nag un cwmni, byddwch yn gallu rheoli eich holl gwmnïau o un cyfrif.

Unwaith y bydd y cyfrif newydd yn cael ei gyflwyno, byddwch hefyd yn gallu awdurdodi eich hun yn ddigidol a chyfarwyddwyr eraill i ffeilio ar gyfer eich cwmni newydd fel rhan o’r broses ymgorffori ar-lein. Dyma’r cam cyntaf i greu un ffordd i arwyddo i mewn ar draws holl wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau, ac mae’n garreg filltir bwysig yn ein strategaeth 2020 i 2025.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

Pan fyddwch yn mewngofnodi i WebFiling ar ôl i’r cyfrif newydd gael ei gyflwyno, bydd angen i chi roi rhai manylion ychwanegol inni alluogi dilysu aml-ffactor ar eich cyfrif presennol. Ni fydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif newydd, ac mi fyddwch yn gallu defnyddio’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair presennol.

Ar ôl i chi wneud hyn, byddwch yn gallu cael mynediad i holl fanteision eich cyfrif WebFiling.

Os nad oes gennych gyfrif WebFiling, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif WebFiling yn y dyfodol, bydd gennych fynediad i’r manteision hyn.

Os oes gennych gyfrif Gwasanaeth dod o hyd i wybodaeth am gwmni a’i ddiweddaru ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y cyfrif hwn ar hyn o bryd.

Changes to your WebFiling account

Cyhoeddwyd ar 23 August 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 September 2022 + show all updates
  1. Updated to include introduction date of Monday 12 September.

  2. Added translation