Mynediad at gyfrifon WebFiling Tŷ'r Cwmnïau yn symud i GOV.UK One Login
O 13 Hydref 2025, bydd angen i gwsmeriaid ddefnyddio GOV.UK One Login i fewngofnodi i'w cyfrif WebFiling Tŷ'r Cwmnïau.

Rydym yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau a pherchnogion busnes gael mynediad at ein gwasanaethau gydag un set o fanylion mewngofnodi.
Mae’r symudiad i GOV.UK One Login yn golygu y bydd cwmnïau o bob maint yn elwa o ffordd fwy diogel a chyson o gael mynediad at ein gwasanaethau – gan roi mwy o sicrwydd ynghylch pwy sy’n sefydlu, rhedeg a rheoli cwmnïau yn y DU.
O 13 Hydref 2025, bydd angen i chi ddefnyddio GOV.UK One Login i fewngofnodi i’ch cyfrif WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.
O’r dyddiad hwn, pan fyddwch yn mewngofnodi i WebFiling, gofynnir i chi gysylltu eich cyfrif WebFiling â GOV.UK One Login. Ni fyddwch yn gallu cyrchu WebFiling heb gysylltu â GOV.UK One Login.
Fe ddechreuon ni symud ein gwasanaethau ar-lein i GOV.UK One Login yn hydref 2024, gan ddechrau gyda’r opsiwn i gysylltu cyfrif Tŷ’r Cwmnïau, y cyfrif a ddefnyddir i fewngofnodi i’r gwasanaeth Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni.
Manteision GOV.UK One Login
Mae GOV.UK One Login yn darparu:
- mynediad i nifer o wasanaethau’r llywodraeth gyda’r un manylion mewngofnodi
- mynediad mwy diogel trwy ddilysiad dau ffactor
- yr opsiwn i ddefnyddio GOV.UK One Login i gwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Dros amser, bydd GOV.UK One Login yn amnewid holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar GOV.UK, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.
Paratowch am y newid
I wneud yn siŵr eich bod yn dal i gael mynediad i’ch cyfrif ar ôl y newid ac y bydd eich gwybodaeth rydych wedi cadw ar gael o hyd, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- gwneud yn siŵr bod y cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio i fewngofnodi i WebFiling yn gyfredol ac mae gennych fynediad ato - gallwch ddiweddaru’r cyfeiriad e-bost trwy ddewis ‘Newid manylion cyfrif’ ar ôl mewngofnodi i’ch cyfrif WebFiling
- os oes gennych cyfrif Tŷ’r Cwmnïau hefyd ar gyfer Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni , gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer y ddau gyfrif - gallwch newid naill ai’r cyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich cyfrif Tŷ’r Cwmnïau neu’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir i fewngofnodi i WebFiling
- os nad oes gennych GOV.UK One Login, ystyriwch greu un cyn 13 Hydref 2025 gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost â’ch cyfrif WebFiling
- os oes gennych cyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni, ystyriwch gysylltu hyn â GOV.UK One Login nawr (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes)
Sut i gysylltu eich cyfrif WebFiling â GOV.UK One Login ar neu ar ôl 13 Hydref 2025
Pan fyddwch chi’n ceisio mewngofnodi i WebFiling o 13 Hydref 2025, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i gysylltu eich cyfrif â GOV.UK One Login.
Os:
- oes gennych cyfrif GOV.UK One Login, byddwch yn gallu mewngofnodi a chysylltu eich cyfrif
- nad oes gennych cyfrif GOV.UK Un One Login, byddwch yn cael eich annog i greu un
- oes gennych cyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni nad ydych wedi cysylltu â GOV.UK One Login, byddwch yn gallu cysylltu’r ddau gyfrif ar yr un pryd
Efallai y bydd angen i chi cofnodi cod dilysu pob cwmni i gadarnhau eich bod yn dal i fod wedi’ch awdurdodi i ffeilio ar gyfer y cwmni.
Nid oes angen i chi cwblhau gwiriad hunaniaeth i gysylltu eich cyfrif WebFiling â GOV.UK One Login.
Os ydych chi’n rhannu cyfrif WebFiling gydag eraill
Un person yn unig all gysylltu pob cyfrif WebFiling â’u GOV.UK One Login.
Bydd angen i unrhyw un arall sy’n rhannu mynediad i’r cyfrifon hyn greu eu GOV.UK One Login eu hunain, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd modd iddynt bellach cael mynediad i’r wybodaeth yn y cyfrifon.
Gwiriad hunaniaeth
O 18 Tachwedd 2025, bydd gwiriad hunaniaeth yn dod yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau newydd a phresennol a phobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA). Gall unigolion wirio eu hunaniaeth yn wirfoddol nawr.
Gallwch gwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau:
- gan ddefnyddio GOV.UK One Login trwy ein gwasanaeth Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Ty’r Cwmnïau
- trwy Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig, er enghraifft cyfrifydd neu gyfreithiwr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau.