Stori newyddion

Ffeilio eich Cyfrifon Tŷ’r Cwmnïau yn gynnar ac ar-lein er mwyn osgoi oedi

Os yw ffeilio eich cyfrifon yn ddyledus gyda Thŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Rhagfyr, defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein lle bo hynny'n bosibl a chaniatáu digon o amser cyn eich dyddiad cau.

Mae mis Rhagfyr bob amser yn gyfnod prysur i lawer o gwmnïau oherwydd mae ‘n amser iddynt ffeilio eu cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau cyn diwedd y mis.

Rydym yn parhau i ddilyn canllawiau’r llywodraeth ar gyfer gweithio’n ddiogel yn ystod coronafeirws (COVID-19). Mae hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser nag arfer i brosesu dogfennau papur a anfonir drwy’r post.

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - ac mae gwiriadau ar gael i’ch helpu i osgoi camgymeriadau.

Gall gymryd cyn lleied â 15 munud o’r dechrau i’r diwedd a byddwch yn gwybod bod eich cyfrifon wedi’u derbyn yn brydlon. Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon, ac e-bost arall pan fyddwn wedi’u cofrestru.

I ffeilio ar-lein, bydd angen cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

Dylech anfon cyfrifon papur dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein. Mae angen i gyfrifon sydd wedi’u ffeilio ar bapur gael eu gwirio a’u prosesu â llaw gan ein timau yn ystod oriau agor y swyddfa.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro eich cyfrifon a’u hail anfon os cânt eu gwrthod. Dylech hefyd ystyried defnyddio darpariaeth warantedig y diwrnod nesaf, ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel esgus dros ffeilio’n hwyr.

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon y cwmni. Gallwch dderbyn cofnod troseddol, dirwy ac anghymhwysiad os nad ydych yn cyflwyno eich cyfrifon yn brydlon.

Rhaid i chi ffeilio cyfrifon hyd yn oed os yw eich cwmni’n segur neu ddim yn masnachu.

Cyfarwyddyd a chefnogaeth

Cofrestrwch am negeseuon atgoffa e-bost i wybod pryd mae’ch cyfrifon yn ddyledus. Gallwch hefyd wirio eich dyddiad cau ffeilio ar ein gwasanaeth dod o hyd i wybodaeth am gwmni a’i ddiweddaru.

Gwyliwch recordiadau o weminarau cyfrifoldebau cyfarwyddwyr a chofrestrwch ar gyfer gweminarau Tŷ’r Cwmnïau yn y dyfodol.

Gwyliwch ein fideos YouTube am gyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

Mwy o wybodaeth am:

Cyhoeddwyd ar 1 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 December 2021 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.