Stori newyddion

Anogir cwmnïau i ffeilio cyfrifon yn gynnar ac ar-lein er mwyn osgoi cosbau

Os ydych i fod i ffeilio eich cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Rhagfyr, defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein lle bo modd a chaniatáu digon o amser cyn eich dyddiad cau.

Gall rhedeg eich cwmni eich hun fod yn gyffrous ond hefyd yn heriol. Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau gan gynnwys cadw cofnodion cwmnïau’n gyfoes a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, p’un a ydynt yn masnachu ai peidio, ddarparu cyfrifon blynyddol i ni bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur.

Ffeilio yn gynnar

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon cwmni. Gallwch gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwysiad os nad ydych yn cyflwyno eich cyfrifon yn brydlon. Hyd yn oed os yw cyfrifydd yn ffeilio cyfrifon eich cwmni ar eich rhan, peidiwch ag anghofio mai eich cyfrifoldeb chi o hyd yw sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.

Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon. Byddwn yn anfon e-bost arall atoch pan fyddwn wedi cofrestru eich cyfrifon.

Os ydych chi’n gwmni bach, ni allwch ffeilio cyfrifon cryno mwyach. Darganfyddwch eich dewisiadau ffeilio cyfrifon ar gyfer cwmnïau bach.

Ffeilio ar-lein

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - ac mae gwiriadau mewnol i’ch helpu i osgoi camgymeriadau.

Gall gymryd cyn lleied â 15 munud o’r dechrau i’r diwedd a byddwch yn gwybod bod eich cyfrifon wedi’u danfon yn brydlon.

I ffeilio ar-lein, bydd angen cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

Osgoi gwrthodiadau

Dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein y dylech anfon cyfrifon papur.

Mae angen gwirio cyfrifon sy’n cael eu ffeilio ar bapur â llaw. Dim ond yn ystod oriau agor y swyddfa y gallwn eu gwirio, a gallant gymryd dros wythnos i’w prosesu.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro eich cyfrifon a’u hail anfon os ydyn nhw’n cael eu gwrthod. Dylech hefyd ystyried defnyddio gwasanaeth gwarantedig y diwrnod nesaf a nodi unrhyw anghydfodau diwydiannol neu ffactorau eraill, a allai ei gwneud hi’n anodd i gariwr gyflawni ar amser.

Ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel rheswm i apelio cosb ffeilio hwyr.

Canllawiau a chefnogaeth

Cofrestrwch am negeseuon atgoffa e-bost i wybod pryd mae eich cyfrifon yn ddyledus. Gallwch hefyd wirio eich dyddiad cau ffeilio ar ein gwasanaeth Dod o hyd i wybodaeth cwmni a’u diweddaru.

Gwyliwch ein fideos YouTube a recordiadau o weminarau blaenorol Tŷ’r Cwmnïau i gael arweiniad ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein a gwybodaeth am gyfrifoldebau cyfarwyddwyr.

Rhagor o wybodaeth am:

Cyflwynodd Tŷ’r Cwmnïau’r cyfrif WebFiling newydd ym mis Medi. Mae ganddo nodweddion diogelwch gwell ac yn rhoi mwy o ryddid i chi hunanreoli eich cyfrif.

Darllenwch am gyflwyno’r cyfrif WebFiling newydd yma.

Cyhoeddwyd ar 22 November 2022