Stori newyddion

Atgoffa cludwyr anifeiliaid i adnewyddu eu tystysgrifau awdurdodi cludwyr

Rhaid i dystysgrifau awdurdodi cludwyr gael eu hadnewyddu bob 5 mlynedd.

Cows in a field

Mae tystysgrifau awdurdodi cludwyr yn ddilys am 5 mlynedd, a bydd yn amser i nifer sylweddol gael eu hadnewyddu yn 2022.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn atgoffa pob cludwr anifeiliaid i edrych i weld ar ba ddyddiad y daw ei dystysgrif awdurdodi cludwyr gyfredol i ben, a gwneud cais i’w hadnewyddu cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i fod wedi’i awdurdodi.

Mae angen tystysgrifau awdurdodi cludwyr yn y DU ar unrhyw rai sy’n cludo anifeiliaid, fel rhan o weithgarwch economaidd, ar deithiau sy’n bellach na 65km o fewn Prydain Fawr ac ohoni, iddi a thrwyddi. Mae’r cludwyr sy’n ymwneud â gweithgarwch economaidd yn cynnwys ffermwyr, cludwyr da byw a dofednod, cludwyr ac elusennau achub anifeiliaid anwes a’r rhai sy’n symud ceffylau mewn cysylltiad â marchogaeth broffesiynol a’u cadw mewn stablau hurio a chadw.

Ceir dau fath o dystysgrif awdurdodi cludwyr; Math 1 (taith fer) sy’n ofynnol ar gyfer teithiau sy’n bellach na 65km ac sy’n para hyd at 8 awr a Math 2 (taith hir) sy’n ofynnol ar gyfer y rhai sy’n cludo anifeiliaid ar gyfer teithiau sy’n para dros 8 awr.

Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau lles wrth gludo cyfredol, rhaid i gludwyr anifeiliaid wneud cais i adnewyddu eu tystysgrifau awdurdodi. Os na wnânt hynny, gallent wynebu cosbau llym am weithredu heb dystysgrifau awdurdodi ddilys.

Contact APHA’s Welfare in Transport team to obtain a renewal application pack or to discuss any queries.

Cysylltwch â thîm Lles wrth Gludo APHA i gael pecyn cais i adnewyddu neu i drafod unrhyw ymholiadau.

Mae rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Awdurdodi Cludwyr i’w gweld ar GOV.UK.

Os nad oes gennych dystysgrif awdurdodi cludwyr a roddwyd yn y DU ar hyn o bryd, ond eich bod yn cludo anifeiliaid fel rhan o weithgarwch economaidd, cysylltwch â’r tîm Lles wrth Gludo i gael rhagor o wybodaeth a manylion ynghylch sut i wneud cais.

Cyhoeddwyd ar 12 November 2021