Terfyn amser ffeilio cyfrifon 30 Medi
Mae’n rhaid i 300,000 o gwmnïau ffeilio eu cyfrifon erbyn diwedd mis Medi. Os ydych chi’n un ohonyn nhw, peidiwch â’i gadael tan y funud olaf.

Mae’n haws ffeilio’ch cyfrifon ar lein. Ofyn am god os nad oes un gennych. Caiff ei anfon at swyddfa cofrestredig y cwmni trwy’r post a gall cymrud 5 diwrnod i gyrraedd.
Ffeiliwch yn gynnar a ffeilio ar lein
Ffeilio’ch cyfrifon ar lein cyn y terfyn amser a byddwch yn dawel eich meddwl eu bod wedi’u ffeilio mewn pryd - byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn cadarnhau eu bod wedi dod i law ac un arall yn cadarnhau eu bod wedi’u cofrestru.
Gall ffeilio cyfrifon ar lein gymryd cyn lleied â 15 munud o’r dechrau i’r diwedd,- does dim angen trafferthu gyda phapur, amlenni, llythyrau esboniadol a’r ansicrwydd ychwanegol ynghylch a fydd y cyfrifon yn cyrraedd yn brydlon.
Os ydych yn gwmni bach, ni allwch ffeilio cyfrifon cryno mwyach. I ddarganfod beth yw’ch opsiynau, darllenwch ein stori newyddion
Osgoi gwrthodiadau
Gyda gwiriadau’n rhan o’r broses i sicrhau bod eich cyfrifon yn bodloni’r gofynion, mae ein gwasanaeth ffeilio ar lein yn eich helpu i osgoi gwrthodiadau.
Mae’n bosibl y bydd angen i gyfrifon a gyflwynir gael eu gwirio â llaw a dim ond yn ystod oriau swyddfa mae hyn yn cael ei wneud.
Dyddiadau prosesu cyfredol ar gyfer dogfennau papur.
Os oes rhaid i chi ffeilio cyfrifon papur, efallai y byddwch am ddefnyddio gwasanaeth cyflenwi gwarantedig y diwrnod nesaf.
Gallai fod yn rhy hwyr i osgoi cosb os caiff eich cyfrifon eu gwrthod a bod angen eu hailgyflwyno. Ffeiliwch ar lein gryn dipyn cyn y dyddiad cau er mwyn caniatáu digon o amser i ymdrin â gwrthodiad pe bai hynny’n digwydd.
Argaeledd gwasanaethau ar-lein
Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24/7, ond dylech wirio bod eich cwmni wedi’i gofrestru ar gyfer ffeilio ar lein a bod y cyfrifon rydych eisiau eu ffeilio wedi’u galluogi ar y gwasanaeth.
Ffeilio cyfrifon yn ein swyddfeydd
Gall ein swyddfa yng Nghymru dderbyn dogfennau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae gan Llundain a Chaeredin blwch llythyrau ar gyfer dosbarthiadau y tu allan i oriau. Dim ond mewn oriau swyddfa y gall ein swyddfa Belfast dderbyn dogfennau.
Gallwch wirio ein hamserau agor cyn ffeilio’ch cyfrifon yn un o’n swyddfeydd.
Mwy o wybodaeth
Gallwch gael gwybod mwy am ein gwasanaeth ffeilio ar lein (yn Saesneg yn unig yw’r tudalen hwn ar hyn o bryd) a chod dilysu’r cwmni mae’n rhaid ei gael er mwyn ffeilio ar lein.
Gallwch gael gwybod mwy am baratoi’ch cyfrifon (yn Saesneg) neu ddarllen canllawiau manwl ar gyfrifon a chosbau ffeilio hwyr.
Os na allwch ffeilio’ch cyfrifon ar amser, anfonwch e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk cyn gynted â phosib. Cynnwys enw, rhif y cwmni a’ch rhesymau am angen estyniad.