Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Roedd y mwyafrif llethol o ymatebion yn cefnogi cynnig y llywodraeth i greu cenhedlaeth ddi-fwg.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr o blaid y mesurau arfaethedig i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc, yn enwedig cyfyngu arddangosfeydd man gwerthu a chyfyngu deunydd pacio. Ond roedd safbwyntiau cymysg ar y ffordd orau o wneud hyn.
Roedd cefnogaeth hefyd i ymestyn y rheoliadau hyn i gynnwys fêps heb nicotin yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr, fel bagiau bach nicotin, i osgoi diangfeydd ac i gefnogi gorfodi cryfach.
Roedd ymatebwyr yn gryf o blaid cyflwyno gwaharddiad ar werthu a chyflenwi cynhyrchion fepio tafladwy.
Roedd cefnogaeth sylweddol i orfodi ar draws y mesurau tybaco a fepio gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig newydd yn Lloegr.
Bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig bellach yn cyflwyno mesurau i greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf a mynd i’r afael â’r cynnydd i fepio ymhlith pobl ifanc.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn cwestiynau am gamau y bwriedir eu cymryd i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed smygu, drwy greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf. Mae hefyd yn holi ynghylch cynigion i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc ac i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gorfodi.
Amlinellir y camau arfaethedig yn fanylach yn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau am 3 maes y byddai angen deddfwriaeth newydd ar eu cyfer, sef:
- Creu cenhedlaeth ddi-fwg: ymgynghori ar y polisi cenhedlaeth ddi-fwg a chwmpas y polisi.
- Mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc: ymgynghori ar sawl opsiwn i sicrhau ein bod yn cymryd y camau mwyaf priodol ac effeithiol, gan adeiladu ar ddadansoddiad Lloegr o’r alwad am dystiolaeth ar fepio ymhlith pobl ifanc.
- Gorfodi: ymgynghori ar y cynnig i gyflwyno pwerau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr allu rhoi hysbysiadau cosb benodedig er mwyn gorfodi deddfwriaeth ynghylch oedran gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps.