Publication

Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc: eich barn

Updated 12 February 2024

Crynodeb

Y Cefndir

Smygu yw’r achos unigol mwyaf – a chwbl ataliadwy – o salwch, anabledd a marwolaeth yn y DU. Mae’n gyfrifol am oddeutu 80,000 o farwolaethau bob blwyddyn, gan gynnwys tua:

Nid oes unrhyw gynnyrch arall i ddefnyddwyr yn lladd hyd at ddwy ran o dair o’i ddefnyddwyr. Yn ôl adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol Arferion smygu oedolion yn y DU 2022 roedd 6.4 miliwn o bobl yn y DU yn smygwyr ar y pryd. Roedd hyn yn 12.9% o bobl yn y DU, ac yn:

  • 12.7% yn Lloegr
  • 14.1% yng Nghymru
  • 14.0% yng Ngogledd Iwerddon
  • 13.9% yn yr Alban

Mae smygu yn achosi niwed drwy gydol bywydau pobl, nid yn unig i’r rhai sy’n smygu ond i’r bobl o’u cwmpas hefyd. Mae’n ffactor risg mawr sy’n arwain at ganlyniadau gwael ymhlith mamau a babanod, gan gynyddu’r posibilrwydd o farw-enedigaethau yn sylweddol a gall sbarduno asthma mewn plant. Smygu sy’n achosi tua 1 o bob 4 o holl farwolaethau canser y DU ac mae’n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o achosion canser yr ysgyfaint. Smygu hefyd yw un o brif achosion clefyd cynamserol y galon, strôc a methiant y galon ac mae’n cynyddu’r risg o ddementia ymhlith yr henoed. Mae smygwyr yn colli 10 mlynedd o’u disgwyliad oes ar gyfartaledd, neu tua 1 flwyddyn am bob 4 o flynyddoedd smygu.

O ganlyniad, mae smygu yn rhoi pwysau sylweddol ar y GIG. Yn Lloegr, bron bob munud o bob dydd mae rhywun yn cael ei dderbyn i’r ysbyty oherwydd smygu, a gellid priodoli hyd at 75,000 o apwyntiadau meddyg teulu i smygu bob mis – sy’n cyfateb i dros 100 o apwyntiadau bob awr.

Dyna pam, ar 4 Hydref 2023, y cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn Lloegr bapur gorchymyn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation sy’n nodi camau arfaethedig i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed smygu drwy greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf. Dyma’r papur y mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig bellach yn bwrw ati i ymgynghori arno.

Y gweinyddiaethau datganoledig yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyrff gweithredol Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, sef Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

Mae’r papur gorchymyn hefyd yn nodi mesurau i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Mae’r adroddiad Ar ddefnydd o e-sigaréts gan bobl ifanc ym Mhrydain Fawr gan Action on Smoking and Health (ASH) yn dangos bod nifer y plant sy’n defnyddio fêps wedi treblu yn ystod y 3 blynedd diwethaf a bod 20.5% o blant ym Mhrydain Fawr wedi rhoi cynnig ar fepio yn 2023. Yn ôl yr arolwg o ymddygiad ac agweddau pobl ifanc yng Ngogledd Iwerddon 2022 dywedodd 21.3% o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Ngogledd Iwerddon eu bod wedi defnyddio e- sigarét ar ryw adeg.

Oherwydd eu bod yn cynnwys nicotin ac oherwydd nad yw’r niwed hirdymor y gallent ei achosi yn hysbys, mae fêps yn peri risg i iechyd plant ynghyd â risg o ddibyniaeth gydol oes. Mae’r cyngor iechyd yn glir: ni ddylai pobl ifanc na phobl nad ydynt erioed wedi smygu ddefnyddio fêps.

Mae gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ddyletswydd i amddiffyn ein plant rhag y niwed posibl sy’n gysylltiedig â fepio o dan oed, tra bod eu hysgyfaint a’u hymennydd yn dal i ddatblygu. Felly, mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ymgynghori ar sawl cynnig ar fepio ymhlith pobl ifanc gan gynnwys:

  • cyfyngu ar flasau
  • rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu
  • rheoleiddio’r ffordd y cânt eu pecynnu a’u cyflwyno
  • ystyried cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu fêps tafladwy
  • a ddylid ehangu’r rheoliadau i gynnwys fêps nad ydynt yn cynnwys nicotin
  • gweithredu ar fforddiadwyedd fêps

Bydd angen i’r cynigion hyn daro cydbwysedd rhwng sicrhau’r effaith fwyaf ar fepio ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod fêps yn parhau i helpu oedolion sy’n smygu i roi’r gorau iddi.

Roedd y papur gorchymyn hefyd yn canolbwyntio ar fesurau newydd i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gorfodi. Mae gwerthu tybaco’n anghyfreithlon ac i bobl o dan oed, sydd erbyn hyn yn wir am fêps hefyd, yn tanseilio gwaith Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i reoleiddio’r diwydiant a diogelu iechyd y cyhoedd. Yng Nghymru a Lloegr, mae’r llywodraeth yn ceisio cyflwyno pwerau newydd i awdurdodau lleol roi hysbysiadau cosb benodedig (dirwyon yn y fan a’r lle) i atal y rheini sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps yn anghyfrifol i bobl o dan oed.

Trosolwg o’r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau mewn 3 maes y byddai angen deddfwriaeth newydd ar eu cyfer:

  1. Creu cenhedlaeth ddi-fwg: o ran smygu, mae’r achos dros newid yn glir ac mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ymgynghori ar bolisi ynghylch cenhedlaeth ddi-fwg a chwmpas y polisi hwnnw er mwyn llywio deddfwriaeth yn y dyfodol.
  2. Mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc: er bod cryn dipyn o dystiolaeth hefyd dros gymryd camau i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc, mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, yng nghyd-destun pob cynnig, yn ymgynghori ar sawl opsiwn i sicrhau ein bod yn cymryd y camau mwyaf priodol ac effeithiol, gan adeiladu ar ddadansoddiad Lloegr o’r alwad am dystiolaeth ar fepio ymhlith pobl ifanc.
  3. Gorfodi: mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn cwestiynau ar y cynnig i gyflwyno pwerau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr allu rhoi hysbysiadau cosb benodedig i orfodi deddfwriaeth ynghylch oedran gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps.

Hoffai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ddeall yr effeithiau ar fusnesau ac ar bobl, ac a oes unrhyw effeithiau ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig (gweler Gwahaniaethu: eich hawliau). Rydym eisiau clywed gan:

  • y cyhoedd – gan bobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac athrawon
  • y sector manwerthu a’r diwydiant fepio annibynnol
  • awdurdodau lleol ar draws y Deyrnas Unedig
  • clinigwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol
  • rhanddeiliaid iechyd y cyhoedd ac arbenigwyr academaidd
  • cyflogwyr ac undebau llafur

Hoffai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gael cymaint o fanylion â phosibl o dan bob un o themâu’r ymgynghoriad. Ar gyfer pob cwestiwn amlddewis, bydd modd ichi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi’ch ateb mewn blychau testun rhydd.

Ni fydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn gwneud unrhyw benderfyniadau ar y mesurau arfaethedig hyn cyn ystyried yn llawn:

  • yr ymatebion a ddaw i law i’r ymgynghoriad
  • y dystiolaeth a ddarperir yn yr ymatebion hynny
  • adolygiad pellach o’r sail dystiolaeth ryngwladol.

Yn dilyn hyn, bydd asesiadau effaith yn cael eu cyhoeddi.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn llywio penderfyniadau’r rhai a ddaw i swyddi gweinidogol a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, neu yn absenoldeb gweinidogion, y penderfyniadau hynny y gellir eu gwneud o dan Ddeddf Gogledd Iwerddon (Ffurfio Gweithrediaeth etc) 2022. Mae hyn yn berthnasol i bob cynnig yn y ddogfen ymgynghori.

Rhychwant tiriogaethol

Mae iechyd y cyhoedd wedi’i ddatganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae DHSC yn Lloegr, y Gyfarwyddiaeth Iechyd Poblogaethau yn yr Alban, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru a’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon i gyd yn gyfrifol am wella iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r defnydd o dybaco drwy roi strategaethau rheoli tybaco cynhwysfawr ar waith a lleihau’r risgiau iechyd i bobl ifanc yn sgil fepio.

Mae polisi amgylcheddol, yn yr un modd â pholisi iechyd, yn fater datganoledig. Bydd DHSC, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r gweinyddiaethau datganoledig yn gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar bolisi ar draws y 4 gwlad ar gyfyngu ar fêps tafladwy a mesurau priodol eraill.

Er bod y cynigion deddfwriaethol yn y papur gorchymyn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation yn nodi dull gweithredu ar gyfer Lloegr yn unig, mae llywodraethau ledled y DU bellach yn ymgynghori er mwyn barnu a ddylent weithredu yn y meysydd a amlinellir yn y papur. Felly, gyda chytundeb y gweinyddiaethau datganoledig, DHSC sy’n arwain yr ymgynghoriad hwn ledled y DU.

Datganiad ar y diwydiant tybaco

Mae’r Deyrnas Unedig yn rhan o Gonfensiwn Fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar Reoli Tybaco ac felly mae rhwymedigaeth arni i amddiffyn datblygiad polisi iechyd y cyhoedd rhag buddiannau breintiedig y diwydiant tybaco.

Er mwyn cyflawni’r rhwymedigaeth hon, gofynnwn i’r holl ymatebwyr ddatgelu a oes ganddynt unrhyw gysylltiadau uniongyrchol neu uniongyrchol â’r diwydiant tybaco neu a ydynt yn derbyn cyllid ganddo.

Deddfu i greu cenhedlaeth ddi-fwg

Nid oes unrhyw gynnyrch mwy caethiwus yn cael ei werthu’n gyfreithlon yn ein siopau na thybaco. Dywedodd tri chwarter o smygwyr na fyddent wedi dechrau smygu pe baent yn cael y dewis eto.

Fel yr amlinellir yn y papur gorchymyn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation, rydym am atal pobl rhag mynd yn gaeth i dybaco drwy eu hatal rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf, gan ei bod yn llawer haws peidio â dechrau smygu, na gorfod rhoi’r gorau iddi. Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn drosedd i werthu cynnyrch tybaco i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009, neu ar ôl y dyddiad hwn.

Bydd y gyfraith yn atal gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon am byth i blant sy’n cael eu pen-blwydd yn 14 eleni, a phlant sy’n ieuengach na hynny. Mewn gwirionedd, bydd hyn yn codi’r oedran smygu fesul blwyddyn bob blwyddyn, nes y bydd yn berthnasol i’r boblogaeth gyfan. Bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried mesurau sy’n ymwneud â chenhedlaeth ddi-fwg yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Crynodeb o’r polisi

Bydd y polisi hwn yn ei gwneud yn drosedd i werthu cynnyrch tybaco i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009, neu wedi hynny (ac yn yr Alban, bydd hefyd yn drosedd i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009, neu wedi hynny, brynu cynnyrch tybaco).

Mae hyn yn dilyn dull tebyg i Seland Newydd, a ddaeth y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno cyfyngiad ar werthu tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl dyddiad penodol, fel rhan o’i Chynllun Gweithredu Di-fwg 2025. Mae deddfwriaeth Seland Newydd yn ei gwneud yn drosedd i werthu cynnyrch tybaco i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009, neu wedi hynny, a daw i rym ym mis Ionawr 2027.

Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un sydd wedi cyrraedd neu wedi pasio’r oedran cyfreithiol i brynu cynnyrch tybaco ar ran rhywun a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny (‘pryniant procsi’). Bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried mesurau priodol yn ymwneud â chenhedlaeth ddi-fwg yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Bydd y cynhyrchion sydd o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth newydd yn adlewyrchu cwmpas presennol y ddeddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco. Mae hyn yn cynnwys ystod ehangach o gynhyrchion (gweler ‘Cwmpas y cynnyrch’ isod) na deddfwriaeth Seland Newydd, sy’n cynnwys tybaco i’w smygu yn unig. Fodd bynnag, mae Seland Newydd yn cyflwyno mesurau eraill nad yw Llywodraeth y DU yn eu cynnig, gan gynnwys cynllun trwyddedu i leihau’n sylweddol nifer y lleoliadau manwerthu sy’n cael gwerthu tybaco, a therfynau newydd i leihau cryfder nicotin sigaréts

Cwmpas y cynnyrch

Yng Nghymru a Lloegr, gosodir y cyfyngiad oedran gwerthu presennol gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae’r cyfyngiad oedran gwerthu yn berthnasol i gynhyrchion tybaco a phapurau sigaréts.

Yn yr Alban, nodir y cyfyngiadau oedran gwerthu yn Rhan 1 o Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010. Mae’r cyfyngiadau hynny’n berthnasol i gynhyrchion tybaco a phapurau sigaréts, fel y’u diffinnir yn adran 35 o’r ddeddf honno.

Yng Ngogledd Iwerddon, nodir y cyfyngiadau oedran gwerthu ar gyfer tybaco yng Ngorchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1978 a’r diwygiadau dilynol.

Rydyn ni’n cynnig y byddai’r oedran gwerthu arfaethedig yn berthnasol i’r holl gynhyrchion tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol.

Mae’r cynhyrchion a fyddai’n rhan o’r newid yn cynnwys:

  • sigaréts
  • papurau sigaréts
  • tybaco rholio â llaw
  • sigârs
  • sigarilos
  • tybaco pib
  • cynhyrchion tybaco pibell ddŵr (er enghraifft, shisha)
  • tybaco cnoi
  • tybaco wedi’i gynhesu
  • tybaco trwynol (snwff)
  • cynhyrchion smygu llysieuol

Byddai pob cynnyrch arall fel fêps a therapïau disodli nicotin y tu allan i gwmpas y cynnig ar gyfer cenhedlaeth ddi-fwg gan nad ydynt yn cynnwys tybaco, a’u bod yn aml yn cael eu defnyddio i helpu rhai sy’n smygu i roi’r gorau iddi.

Datganiadau oedran gwerthu

Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991 yn ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr sy’n gwerthu tybaco arddangos hysbysiad mewn safle amlwg yn y man gwerthu yn nodi “ei bod yn anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un o dan 18 oed”.

Yn yr Alban, mae’r gofyniad hwn wedi’i gynnwys yn Neddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r gofyniad wedi’i gynnwys yng Ngorchymyn Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) (Gogledd Iwerddon) 1991.

O ganlyniad i hyn, mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn cynnig y bydd angen newid y datganiadau sy’n cael eu harddangos, ac y bydd yn ofynnol iddynt ddarllen “mae’n anghyfreithlon i werthu cynnyrch tybaco i unrhyw un a anwyd ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009”.

Bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried y mesurau sy’n ymwneud â datganiadau oedran gwerthu yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Bydd y gwaharddiad ar werthu cynnyrch tybaco i unrhyw un a anwyd ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009 (a’u gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco yn yr Alban yn ogystal) yn effeithio ar blant sy’n cael eu pen-blwydd yn 14 neu ieuengach yn 2023. Bydd gosod y dyddiad hwn yn golygu y daw’r newid yn y gyfraith i rym ymhen 3 i 4 blynedd, o fis Ionawr 2027, pan fydd y grŵp hwn o blant yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed.

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid newid yr oedran ar gyfer gwerthu cynnyrch tybaco fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny (a’u gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon yn yr Alban yn ogystal)?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Ystyr gwerthiant procsi yw pan fydd person sydd wedi cyrraedd yr oedran gwerthu cyfreithiol, neu wedi pasio’r oedran hwn, yn prynu cynnyrch ar ran rhywun sydd o dan oed. Caiff gwerthiant procsi ei wahardd o dan y ddeddfwriaeth oedran gwerthu tybaco presennol. Yn y cyd-destun hwn, byddai gwahardd gwerthiant procsi yn golygu y byddai unrhyw un a anwyd cyn 1 Ionawr 2009 yn cael eu gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco ar ran unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny.

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylid gwahardd gwerthiant procsi hefyd?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Byddai’r cynhyrchion canlynol o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth newydd:

  • sigaréts
  • papurau sigaréts
  • tybaco rholio â llaw
  • sigârs
  • sigarilos
  • tybaco pib
  • cynhyrchion tybaco pibell ddŵr (er enghraifft, shisha)
  • tybaco cnoi
  • tybaco wedi’i gynhesu
  • tybaco trwynol (snwff)
  • cynhyrchion smygu llysieuol

Mae hyn yn adlewyrchu cwmpas presennol y ddeddfwriaeth oedran gwerthu yng Nghymru a Lloegr. Mae’r gofynion oedran gwerthu presennol yn yr Alban yn ymwneud â chynhyrchion sy’n cynnwys tybaco yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar hyn o bryd, ac y bwriedir iddynt gael eu smygu, eu sniffian, eu sugno neu eu cnoi. I’r graddau na fyddai’r cynhyrchion a restrir o fewn cwmpas y cyfyngiadau presennol, cynigir y dylid ehangu cwmpas deddfwriaeth yr Alban i’w cynnwys.

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai pob cynnyrch tybaco, papurau sigarét a chynhyrchion smygu llysieuol gael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth newydd?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Ar hyn o bryd mae’n ofyniad cyfreithiol i safleoedd manwerthu arddangos y datganiad canlynol ‘mae’n anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un o dan 18 oed’. Byddai angen newid y datganiad hwn i gyd-fynd â’r oedran gwerthu newydd.

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y bydd angen newid y rhybuddion sy’n cael eu harddangos mewn safleoedd manwerthu i ddarllen ‘mae’n anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009’ pan ddaw’r gyfraith i rym?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Mynd i’r afael â’r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc

Mae fêps yn ddull effeithiol i oedolion sy’n smygwyr roi’r gorau iddi, yn enwedig pan fyddant yn eu cyfuno â chymorth arbenigol. Mae’n hanfodol sicrhau bod fêps yn parhau i fod ar gael i smygwyr sy’n oedolion ar hyn o bryd i’w cynorthwyo i roi’r gorau iddi. Fodd bynnag, nid yw fepio’n cael ei argymell i blant, nac ychwaith i unigolion nad ydynt yn smygu, ac mae’n arwain at risg o niwed a chaethiwed yn y dyfodol. Mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y plant sy’n fepio dros y blynyddoedd diwethaf. Yn Lloegr, cynhaliwyd galwad am dystiolaeth ynghylch fêpio ymhlith pobl ifanc ac fe awgrymwyd nifer o fesurau i leihau atyniad ac argaeledd fêps i blant.

Mae Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 yn gosod safonau cynnyrch ar gyfer fêps nicotin gan gynnwys cyfyngiadau ar yr uchafswm cryfder nicotin, cyfyngiadau ar faint tanciau a photeli y gellir eu hail-lenwi, deunyddiau pecynnu, a hysbysebu (gan gynnwys gwahardd hysbysebu ar y teledu ac ar y radio) yn y DU.

Yn 2022, ymgynghorodd Llywodraeth yr Alban ar gynigion i wneud rheoliadau o dan bwerau presennol yn Neddf Iechyd (Tybaco, Nicotin ac ati a Gofal) (Yr Alban) 2016 i gyfyngu ar hysbysebu a hyrwyddo cynhyrchion fepio nicotin (mae cynhyrchion fepio nicotin yn cynnwys fêps nicotin a fêps heb nicotin). Roedd y cynigion yn cynnwys cyfyngiadau ar hysbysebu, rhannu brand ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau, dosbarthu am ddim a nawdd a phris enwol.

Yng Nghymru, cyflwynodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 bwerau rheoleiddio i gyflwyno cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Deddf Iechyd (Darpariaethau Amrywiol) (Gogledd Iwerddon) 2016 yn rhoi pŵer i wahardd gwerthu fêps o beiriannau gwerthu.

Fel yr amlinellir yn y papur gorchymyn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation, mae’n bwysig ymgynghori ar gyfres o gynigion i leihau faint o bobl ifanc sy’n fepio, gan sicrhau ein bod yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng amddiffyn plant a chefnogi oedolion sy’n smygu i roi’r gorau iddi. Mae’r cynigion yr ymgynghorir arnynt yn cynnwys:

  • cyfyngu ar flasau fêps
  • rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps a’r ffordd mae’r cynnyrch yn cael ei gyflwyno
  • rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu
  • cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu fêps tafladwy
  • archwilio cyfyngiadau pellach ar gyfer fêps heb nicotin, a chynhyrchion defnyddwyr nicotin eraill, fel bagiau bach nicotin.
  • gweithredu ar fforddiadwyedd fêps, ac edrych ar osod toll newydd ar fêps

Mae’r papur ‘Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation’ hefyd yn nodi cynllun sy’n bodoli eisoes i ddeddfu er mwyn cau’r man gwan yn ein cyfreithiau sy’n caniatáu i’r diwydiant roi samplau am ddim o fêps nicotin a fêps heb nicotin (a chynhyrchion nicotin eraill) i rai o dan 18 oed, yn ogystal â chyflwyno cyfyngiad oedran ar fêps heb nicotin. Byddai’r rhain yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ond byddwn yn archwilio’r posibilrwydd o gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn darpariaethau o’r fath lle bo hynny’n briodol.

Cyfyngu ar flasau fêps

Tystiolaeth ar flasau fêps

Mae ymchwil yn dangos bod plant yn cael eu denu at flasau ffrwythau a blasau melys fêps, o ran eu blas a’u harogl, yn ogystal â sut maent yn cael eu disgrifio. Mae gan gyfyngu ar flasau y potensial i leihau fepio ymhlith pobl ifanc yn sylweddol.

Ym Mhrydain Fawr, mae adroddiad ASH ar y Defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc ym Mhrydain Fawr (2023) yn dangos mai’r blas fêp a ddefnyddir amlaf ymysg plant yw ‘blas ffrwythau’, gyda 60% o blant presennol yn eu defnyddio. Mae 17 y cant o blant sy’n fepio yn dewis blasau melys fel siocled neu gandi.

Fodd bynnag, mae ymchwil gan Brifysgol South Bank Llundain wedi canfod bod tystiolaeth y gall cynhyrchion fepio â blas helpu oedolion i roi’r gorau i smygu. Felly, mae angen cydbwyso unrhyw gyfyngiad ar flasau yn ofalus gan sicrhau bod fêps yn parhau i fod ar gael a’u bod yn hygyrch i helpu oedolion i roi’r gorau i smygu.

Dyna pam mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiynau ar gyfer sut y gellid cyfyngu mewn deddfwriaeth ar flasau fêps a disgrifiadau ohonynt. Bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried mesurau sy’n ymwneud â blasau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystod o flasau a mathau o ddyfeisiau ar gael yn Atodiad 1: fêps o wahanol fathau a blasau.

Opsiynau ar gyfer sut y gallwn gyfyngu ar flasau fêps

Opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio.

Gellir cyfyngu ar flasau fêps yn y ffordd y maent yn cael eu disgrifio. Er enghraifft, mae Seland Newydd wedi gwneud hyn drwy gyfyngu disgrifiadau o flasau fêps, yn eu Rheoliadau Diwygio Amgylcheddau Di-fwg a Chynhyrchion Rheoleiddiedig 2023, i restr benodol sy’n cynnwys enwau blasau generig fel ‘tybaco’ neu ‘aeron’. Mae hyn yn golygu y gellid galw fêps yn ‘llus’, ond nid ‘myffin llus’ er enghraifft.

Opsiwn 2: cyfyngu ar gynhwysion fêps.

Gellir cyfyngu ar flasau fêps drwy ganiatáu i rai cynhwysion penodol yn unig gael eu defnyddio yn y cynnyrch. Yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, mae rhestr benodol o gynhwysion y caniateir eu defnyddio mewn fêps, sef y rhai sy’n cynhyrchu blas ‘tybaco’ ac sy’n achosi bron dim niwed i iechyd.

Opsiwn 3: cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (blas ac arogl).

Gellir cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (y ffordd y mae fêp yn arogli neu’n blasu i ddefnyddiwr). Yn 2020, pan waharddwyd sigaréts â blas menthol yn y DU, cawsant eu cyfyngu yn seiliedig ar flas nodweddiadol menthol. Mae’r Ffindir, er enghraifft, wedi cyflwyno cyfyngiad ar bob blas nodweddiadol ar gyfer fêps, ar wahân i flas tybaco.

Opsiynau ar gyfer pa flasau y dylid cyfyngu fêps iddynt

Yn ogystal ag ymgynghori ar sut y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu ar flasau fêps, rydym hefyd yn gofyn pa flasau y dylid cyfyngu fêps iddynt. Rydym yn ystyried cyfyngu blasau i un o’r opsiynau canlynol:

  • Opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig
  • Opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig
  • Opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig

Byddwn hefyd yn ystyried rheoleiddio fêps heb nicotin yn yr un modd.

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu ar flasau fêps?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Pa opsiwn neu opsiynau ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig weithredu cyfyngiadau ar flasau? Cewch ddewis mwy nag un ateb.

  • Opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio
  • Opsiwn 2: cyfyngu ar y cynhwysion mewn fêps
  • Opsiwn 3: cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (blas ac arogl)
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu blasau fêps i blant a phobl ifanc?

  • Opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig
  • Opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig
  • Opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n credu bod yna unrhyw opsiynau eraill, o ran blasau, y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n credu y dylid hefyd cynnwys e-hylif heb nicotin, er enghraifft e-hylifau llenwad byr (shortfills), mewn cyfyngiadau ar flasau fêps?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu

Yn wahanol i gynhyrchion tybaco, caniateir arddangos fêps yn y man gwerthu ar hyn o bryd. Gall plant weld fêps a gafael ynddyn nhw mewn siopau ac mae’r fêps yn aml yn cael eu harddangos ochr yn ochr â melysion ac ar silffoedd hygyrch. Canfu adroddiad ASH ar Gefnogaeth gyhoeddus i gamau gweithredu gan y llywodraeth ynghylch tybaco fod 74% o oedolion yn Lloegr yn cefnogi gwahardd hyrwyddo fêps yn y man gwerthu.

Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eisiau cyfyngu ar faint y mae plant yn dod i gysylltiad â fêps a’u cadw y tu hwnt i olwg a chyrraedd plant. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â rhwystro pobl sy’n smygu ar hyn o bryd rhag cael at fêps i’w helpu i roi’r gorau iddi, felly rhaid iddynt aros yn ddigon gweladwy.

Mae siopau fêps arbenigol yn siopau manwerthu sy’n arbenigo mewn gwerthu cynhyrchion fepio. Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eisiau ystyried a ddylent fod yn eithriad i unrhyw gyfyngiadau, gan fod ganddynt fel arfer ddetholiad ehangach o ddyfeisiau a chynhyrchion ar gael. Hefyd, mae gan rai siopau staff sydd wedi’u hyfforddi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Rhoi’r Gorau i Smygu a Hyfforddiant, i gynnig cyngor mwy pwrpasol i smygwyr sydd am roi’r gorau iddi. Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn awyddus i glywed ymatebion am y pwnc hwn ac rydym wedi cynnwys cwestiwn penodol yn ei gylch.

Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried rheoleiddio fêps heb nicotin ac e-hylifau heb nicotin yn yr un modd. Bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried mesurau sy’n ymwneud â fêps heb nicotin yn dilyn yr ymgynghoriad. Mae cyfle ichi roi’ch barn a thystiolaeth am hyn yn yr adran ar fêps heb nicotin.

Mae 2 opsiwn ar gyfer rheoleiddio arddangosfeydd fêps yn y man gwerthu:

  • Opsiwn 1: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ac ni chaniateir eu harddangos, fel cynhyrchion tybaco
  • Opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos

Cwestiwn

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o gyfyngu ar fêps i blant a phobl ifanc?

  • Opsiwn 1: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ac ni chaniateir eu harddangos, fel cynhyrchion tybaco
  • Opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylid gwneud eithriadau ar gyfer siopau fêps arbenigol?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Os ydych chi’n anghytuno â rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu, pa fesurau eraill y credwch y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps a’r ffordd mae’r cynnyrch yn cael ei gyflwyno

Dangosodd yr alwad am dystiolaeth ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc yn Lloegr fod plant yn cael eu denu at fêps drwy gynhyrchion a deunyddiau pecynnu lliwgar a delweddau sy’n atyniadol i blant, megis cartwnau. Maent wedi’u dylunio i apelio at blant, a rhaid i hynny stopio.

Mae ymchwil ar ddeunyddiau pecynnu fêps a gyhoeddwyd gan Rwydwaith JAMA wedi dangos y gall deunyddiau pecynnu safonol ar gyfer fêps gyda llai o ddelweddau brand leihau’r apêl i bobl ifanc nad ydynt wedi smygu na fepio o’r blaen, heb leihau apêl fêps i oedolion sy’n smygu.

Opsiynau ar gyfer rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn ystyried rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps ymhellach. Bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried mesurau sy’n ymwneud â rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Rydym am sicrhau nad oes unrhyw ran o ddyfais fêp, na’r deunydd pecynnu, wedi’u targedu at blant. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw becyn uned (gorchudd neu gynhwysydd cyntaf eitem)
  • unrhyw becyn cynhwysydd (y ddyfais gludadwy y mae deunydd yn cael ei storio, ei gludo, ei waredu neu ei drin ynddi)
  • y ffordd y mae dyfais fêp yn cael ei chyflwyno

Mae sawl opsiwn posibl ar gyfer sut y gellir cyfyngu ar ddeunyddiau pecynnu fêps a’r ffordd maent yn cael eu cyflwyno.

Opsiwn 1: gwahardd y defnydd o gartwnau, cymeriadau, anifeiliaid, gwrthrychau difywyd a delweddau eraill sy’n atyniadol i blant, ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Byddai hyn yn dal i ganiatáu’r defnydd o liwiau a dyluniadau penodol i frand.

Opsiwn 2: gwahardd y defnydd o bob delwedd a lliw ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Byddai hyn yn dal i ganiatáu’r defnydd o frand fel logos ac enwau.

Opsiwn 3: gwahardd y defnydd o bob delwedd, lliw a brand ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Mae hyn yn cyfateb i’r rheolau ar gyfer deunyddiau pecynnu safonol tybaco.

Cwestiwn

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu’r ffordd y gellir pecynnu a chyflwyno fêps i leihau fepio ymhlith pobl ifanc?

  • Opsiwn 1: gwahardd y defnydd o gartwnau, cymeriadau, anifeiliaid, gwrthrychau difywyd a delweddau eraill sy’n atyniadol i blant, ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Byddai hyn yn dal i ganiatáu’r defnydd o liwiau a dyluniadau penodol i frand
  • Opsiwn 2: gwahardd y defnydd o bob delwedd a lliw ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps ond dal i ganiatáu’r defnydd o frand fel logos ac enwau
  • Opsiwn 3: gwahardd y defnydd o bob delwedd, lliw a brand (deunyddiau pecynnu safonol) ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Os ydych chi’n anghytuno â rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps, pa fesurau eraill y credwch y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu cynhyrchion fepio tafladwy

Mae’r defnydd o gynhyrchion fepio tafladwy (y cyfeirir atynt weithiau fel fêps untro) wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae fêps tafladwy yn gynhyrchion nad oes modd eu hailwefru, nad oes modd eu hail-lenwi neu’n rhai nad oes modd eu hailwefru na’u hail-lenwi. Mewn cyferbyniad, mae fêp amldro yn gynnyrch y gall y defnyddiwr ei ailwefru a’i ail-lenwi’n llawn yn ddiderfyn. Gall y cynhyrchion gynnwys hylif fepio gyda neu heb nicotin.

Mae pryder cynyddol ynghylch effeithiau amgylcheddol fêps tafladwy o ystyried eu batris lithiwm a chydrannau anodd eu hailgylchu, ynghyd â’r amlder cynyddol y caiff y cynhyrchion hyn eu taenu’n sbwriel neu eu taflu yn y bin. Canfu ymchwil ddiweddar ar waredu fêps gan YouGov wedi’i chomisiynu gan Material Focus bod bron i 5 miliwn o fêps tafladwy naill ai’n cael eu taenu’n sbwriel neu’n cael eu taflu mewn biniau gwastraff cyffredinol bob wythnos.

Mae camau eisoes ar waith i sicrhau y caiff eitemau trydanol ac electronig gwastraff eu cynhyrchu a’u gwaredu’n gyfrifol drwy Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 (Rheoliadau 2013) a rhwymedigaethau o dan Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod lefelau cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hyn yn isel, o ystyried y cynnydd diweddar yn y busnesau sy’n cyflenwi fêps tafladwy. Mae Rheoliadau 2013 a rheoliadau batris yn cael eu hadolygu, gydag ymgynghoriadau wedi’u cynllunio.

Yn 2023, comisiynodd Llywodraeth yr Alban y sefydliad Zero Waste Scotland i archwilio effaith amgylcheddol fêps untro ac ystyried opsiynau i fynd i’r afael â’r mater. Mae’r effeithiau amgylcheddol a amlygwyd gan adolygiad Zero Waste Scotland o Effaith amgylcheddol e-sigaréts untro yn cynnwys:

  • effaith taenu sbwriel
  • risgiau tân yn gysylltiedig â gwaredu’n anniogel eu cynnwys gan gynnwys batris lithiwm a chemegau
  • allyriadau nwyon tŷ gwydr a defnydd dŵr a gynhyrchir wrth eu gweithgynhyrchu

Mae tystiolaeth hefyd o gynnydd sylweddol a chyffredin yn y defnydd o fêps tafladwy ymhlith plant. Canfu arolwg ASH ar ddefnydd e-sigaréts ymhlith pobl ifanc ym Mhrydain Fawr bod 69% o ddefnyddwyr fêps rhwng 11 ac 17 oed yn bennaf yn defnyddio fêps tafladwy yn 2023. Mae arolwg Gogledd Iwerddon ar ymddygiad ac agwedd y person ifanc 2022 yn dangos bod 85.7% o bobl ifanc 11 i 16 oed yng Ngogledd Iwerddon sydd ar hyn o bryd yn defnyddio e-sigaréts wedi adrodd eu bod yn defnyddio rhai tafladwy.

Mae ystod o opsiynau polisi i fynd i’r afael ag effaith amgylcheddol fêps untro, gan gynnwys dylunio cynnyrch yn well, cynyddu mynediad at opsiynau gwaredu cyfrifol, ymgyrchoedd cyfathrebiadau cyhoeddus, yn ogystal â chyfyngiadau posibl ar fêps untro.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi cynhyrchion fepio tafladwy (gan gynnwys fêps heb nicotin), gan gynnwys gwahardd gwerthu’r cynhyrchion hyn, oherwydd effeithiau amgylcheddol fêps tafladwy. Bydd Gogledd Iwerddon yn ystyried mesurau sy’n ymwneud â fêps tafladwy yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Mater i’r gwledydd unigol fyddai pennu’r dull gweithredu ar gyfer gorfodi unrhyw gyfyngiadau, gyda sancsiynau sifil fel hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu ffafrio ar gyfer y drefn orfodi pan fo’n briodol.

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai fod cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy?

Hynny yw, y rhai nad oes modd eu hailwefru, nad oes modd eu hail-lenwi, neu’r rhai nad oes modd eu hailwefru na’u hail-lenwi.

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai cyfyngiadau ar fêps tafladwy fod ar ffurf gwahardd eu gwerthu a’u cyflenwi?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Oes unrhyw fathau eraill o gynnyrch neu ddisgrifiadau o gynnyrch y dylid eu cynnwys yn y cyfyngiadau hyn yn eich barn chi?

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai cyfnod gweithredu ar gyfer cyfyngiadau ar fêps tafladwy fod yn ddim llai na 6 mis ar ôl i’r gyfraith gael ei chyflwyno?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Oes camau eraill a fyddai’n ofynnol, ochr yn ochr â’r cyfyngiadau ar gyflenwi a gwerthu fêps tafladwy, i sicrhau bod y polisi yn effeithiol o ran gwella deilliannau amgylcheddol?

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr

Fêps heb nicotin

Ymdrinnir â fêps heb nicotin (neu fêps nad ydynt yn cynnwys nicotin) gan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol (GPSR) 2005 yn y DU.

Yn yr un modd â fêps nicotin, gall fêp heb nicotin ddod ar ffurf hylif i’w ddefnyddio mewn dyfais neu wedi’i gynnwys eisoes fel hylif mewn dyfais. Mae 3 chategori o’r mathau hyn o fêps heb nicotin:

  • fêps llenwad byr (shortfill) a llenwad hir (longfill)
  • fêps tafladwy (untro)
  • fêps heb nicotin amgen.

Mae fêps heb nicotin amgen yn aml yn cael eu hysbysebu fel fêps llesiant. Nid ydynt ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau oedran na safonau cynnyrch â fêps sy’n cynnwys nicotin ac mae rhai galwadau i reoleiddio fêps heb nicotin yn yr un ffordd â fêps nicotin.

Mae tystiolaeth bod plant yn cael gafael ar y cynhyrchion hyn ac mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig am atal niwed posibl i iechyd yn y dyfodol yn sgil fêps heb nicotin. Mae’r Alban eisoes wedi cyflwyno gofynion oedran gwerthu ar gyfer fêps heb nicotin.

Felly, bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i wahardd gwerthu fêps heb nicotin i blant dan 18 oed fel cam gyntaf i amddiffyn plant rhag cael gafael ar y fêps hyn a’u defnyddio. Bydd Adran Iechyd Gogledd Iwerddon yn ystyried mesurau sy’n ymwneud â fêps heb nicotin i blant dan 18 oed yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Mae gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig hefyd ddiddordeb mewn safbwyntiau ynghylch pa un a ddylem hefyd osod cyfyngiadau pellach ar fêps heb nicotin yr ydym wedi’u hamlinellu yn yr ymgynghoriad hwn ar gyfer fêps nicotin.

Cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr

Mae yna gynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr ym marchnad y DU fel bagiau bach nicotin. Nid ydynt yn cael eu rheoleiddio o dan Reoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 ond gan GPSR. Nid oes cyfyngiadau oedran gwerthu mandadol yn y DU, ond mae gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru bwerau gwneud rheoliadau i orchymyn y rhain.

Mae ymchwil ddiweddar ar y defnydd o fagiau bach nicotin heb dybaco ym Mhrydain yn awgrymu, er bod y defnydd o fagiau bach nicotin yn isel ymhlith oedolion (0.26% neu 1 ym mhob 400 o ddefnyddwyr ym Mhrydain Fawr), maent yn fwy poblogaidd ymhlith dynion ieuengach a chanol oed sydd hefyd yn defnyddio cynhyrchion nicotin eraill ac y mae ganddynt hanes o smygu. Mae arolwg Gogledd Iwerddon ar ymddygiad ac agweddau y person ifanc yn dangos bod 4.8% o ddisgyblion blwyddyn 11 a blwyddyn 12 wedi adrodd eu bod wedi defnyddio bagiau bach nicotin yn 2022.

Cwestiwn

Oes gennych unrhyw dystiolaeth y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried o ran niwed cysylltiedig â fêps heb nicotin neu’r defnydd ohonynt?

  • Oes
  • Nac oes
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig reoleiddio fêps heb nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Oes gennych unrhyw dystiolaeth y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried o ran niwed cysylltiedig â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin neu’r defnydd ohonynt?

  • Oes
  • Nac oes
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig reoleiddio cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Fforddiadwyedd

Gwahaniaeth pris rhwng fepio a smygu

Mae gwahaniaeth sylweddol ar hyn o bryd yn y pris rhwng fêps a chynhyrchion tybaco, yn rhannol oherwydd bod fêps ond yn ddarostyngedig i dreth ar werth, lle mae gan dybaco dreth ar werth a tholl (o leiaf £7.87 o doll ar becyn o 20 sigarét). Mae smygu 3 gwaith yn ddrutach na fepio, ac amcangyfrifir y gallai’r smygwr cyffredin yn Lloegr arbed tua £670 y flwyddyn o newid i fepio. Mae’r gwahaniaeth hwn mewn pris yn bwysig, gan y gall annog smygwyr i newid o sigaréts i fêps.

Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod fêps yn fwy hygyrch i bobl ifanc a rhai eraill nad ydynt yn smygwyr, yn enwedig dyfeisiau tafladwy a rhai y mae modd eu hail-lenwi.

Cost fêps

Mae fêps tafladwy yn llawer rhatach i’w prynu na chynhyrchion fepio eraill. Y fêp tafladwy mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc yn 2022 oedd yr Elf Bar, sy’n costio tua £5, o gymharu ag Elf Bar amldro sy’n costio tua £8. Mae dyfeisiau mod neu ddyfeisiau tanc yn amrywio mewn pris, ond maent yn costio tua £40 i £50, gyda chostau ychwanegol am yr e-hylif.

Tabl 1: cost gyfartalog fêps ar draws gwahanol gategorïau cynnyrch

Categori cynnyrch Cost uned (cyfartaledd)
Tafladwy £6
Amldro: pecynnau pod wedi ei lenwi’n barod £12
Amldro: pecynnau fepio (cetris y gellir eu hail-lenwi) £40

Toll a threthi ar fêps

Mae pymtheg o wledydd Ewropeaidd gan gynnwys yr Almaen a’r Eidal wedi cyflwyno treth genedlaethol ar fêps ac mae Canada wedi cyflwyno toll fepio. Mae ymchwil yn America ar effeithiau bwriadol ac anfwriadol trethi e-sigaréts ar y defnydd o dybaco ymhlith pobl ifanc yn dangos bod trethi ar fêps yn gysylltiedig â gostyngiadau mewn fepio, ond gyda’r risg bosibl o gynyddu smygu ymhlith pobl ifanc.

Effaith cynyddu prisiau fêps

Dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr (64%) yng ngalwad am dystiolaeth ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU y byddai cynnydd mewn pris yn lleihau’r galw am fêps. Dywedodd tri deg chwech y cant o ymatebwyr bod fêps yn fforddiadwy ac o fewn pŵer prynu y plentyn cyffredin a bod gan bris effaith sylweddol ar apêl fêps, gyda 22% arall yn nodi bod fêps tafladwy yn benodol yn fforddiadwy.

Roedd chwarter yr ymatebwyr yn meddwl bod risg y gallai cynyddu’r pris gael effaith negyddol ar gynnydd o ran rhoi’r gorau i smygu, o ystyried y defnydd o fêps i helpu i roi’r gorau i smygu. Nododd un ar ddeg y cant o ymatebwyr bod y gwahaniaeth mewn pris rhwng fêps a sigaréts yn cynyddu apêl fepio.

Ystyriaethau polisi

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin ag ystod o gamau i leihau apêl ac argaeledd fêps i blant. I gefnogi’r agenda hon, mae Llywodraeth y DU o’r farn bod achos cryf dros gymryd camau ar fforddiadwyedd ac felly mae’n archwilio opsiynau, gan gynnwys toll newydd ar fêps fel y mae gwledydd eraill wedi’i wneud, gan sicrhau bod gwahaniaeth sylweddol rhwng toll ar fêps a tholl ar gynhyrchion tybaco.

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y byddai cynnydd ym mhris fêps yn lleihau nifer y bobl ifanc sy’n fepio?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Gorfodi

Mae ymagwedd gref at orfodi yn hanfodol os bwriedir i’r polisi ar gyfer cenhedlaeth ddi-fwg a fepio ymhlith pobl ifanc gael effaith wirioneddol. Mae gwerthu tybaco o dan oed ac yn anghyfreithlon, ac yn fwy diweddar fêps, yn tanseilio gwaith i reoleiddio’r diwydiant a diogelu iechyd y cyhoedd. 

Yn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation, nodwyd camau ychwanegol i fod yn llym gyda’r rhai sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco ac e-sigaréts i bobl o dan oed ac i atal cynhyrchion anghyfreithlon rhag cael eu gwerthu.

Un o’r mesurau hyn yw cyflwyno pwerau newydd i’r awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig i orfodi deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps yng Nghymru a Lloegr.

Yn yr Alban, mae gan yr awdurdodau lleol eisoes bwerau i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i fanwerthwyr ac unigolion sy’n cyflawni trosedd o dan Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010. Yng Ngogledd Iwerddon, mae gorfodaeth leol drwy Ddeddf Manwerthwyr Tybaco (Gogledd Iwerddon) 2014. Cynigir y byddai’r drefn orfodi bresennol yn parhau i fod yn gymwys i gyfyngiadau oedran gwerthu.

Cyflwyno dirwyon yn y fan a’r lle ar gyfer gwerthu i bobl o dan oed

Mae’r awdurdodau lleol yn cymryd ymagwedd gymesur at orfodi cyfyngiadau oedran gwerthu ar gynhyrchion tybaco a fêps, sy’n adlewyrchu lefel y drosedd a gyflawnwyd. Er enghraifft, yn Lloegr gellir cynyddu cosbau, gan ddechrau gyda rhybudd hyd at uchafswm dirwy o £2,500. Yn achos y troseddau mwyaf difrifol neu ailadroddus, gall yr awdurdodau lleol wneud cais am orchymyn llys i atal y manwerthwr sy’n troseddu rhag agor am gyfnod.

Mae’r drefn gosbi bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau lleol erlyn yr unigolyn neu’r busnes o dan sylw ac i’r unigolyn neu’r busnes o dan sylw gael ei euogfarnu mewn llys ynadon. Mae swyddogion safonau masnach yn dweud bod gweithdrefn llys hirfaith yn cyfyngu ar eu gallu i roi dirwyon a’i fod yn fwlch sylweddol yn eu galluoedd gweithredol.

Cwestiwn

Ydych chi’n credu y dylid rhoi hysbysiadau cosb benodedig am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps?

Byddai pwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig yn darparu ffordd amgen i’r awdurdodau lleol orfodi deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps yn ogystal â’r cosbau presennol.

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Pa lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei roi ar gyfer gwerthu tybaco i bobl o dan oed?

  • £100
  • £200
  • Arall

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Cwestiwn

Pa lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei roi ar gyfer gwerthu fêps i bobl o dan oed?

  • £100
  • £200
  • Arall

Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth neu’ch barn i helpu i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach (dim mwy na 300 gair)

Sut mae ymateb

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio adborth ar y mesurau arfaethedig, er mwyn llywio deddfwriaeth yn y dyfodol. O ran defnyddio fêps ymhlith pobl ifanc, cynigir nifer o opsiynau, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cymryd y camau mwyaf priodol ac effeithiol, gan adeiladu ar y dystiolaeth bresennol.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6 Rhagfyr 2023 am 11:59pm a gallwch ymateb drwy ein harolwg ar-lein.

Y camau nesaf

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn llywio penderfyniadau’r rhai a ddaw i swyddi gweinidogol a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, neu yn absenoldeb gweinidogion, y penderfyniadau hynny y gellir eu gwneud o dan Ddeddf Gogledd Iwerddon (Ffurfio Gweithrediaeth etc) 2022.

Atodiad 1: fêps o wahanol fathau a blasau

Dyfeisiau fepio

Gall dyfeisiau fepio gael eu gweithgynhyrchu mewn gwahanol ffyrdd, gyda rhai yn edrych fel sigaréts confensiynol, sigârs neu bibellau smygu. Mae rhai yn edrych fel pinnau ysgrifennu neu yriannau fflach USB. Mae dyfeisiau mwy, megis systemau tanc neu fodiau (mods) yn tueddu i fod â rhannau y gellir eu hailddefnyddio.

Dyfeisiau i’w hail-lenwi a’u hailwefru

Mae fêps i’w hail-lenwi a’u hailwefru yn ‘aml-ddefnydd’ yn hytrach na ‘defnydd untro’, ac maent yn para’n llawer hirach na chynhyrchion defnydd untro safonol. Nid yw’r ddyfais yn cael ei llenwi ymlaen llaw ond weithiau mae e-hylif yn cael ei werthu gyda’r ddyfais. Gall defnyddwyr ei ail-lenwi ag e-hylif ac ailwefru’r batri. Mae rhai o’r cydrannau, megis y coiliau a’r batris, yn rhai y gellir eu tynnu a rhoi rhai newydd yn eu lle.

Systemau podiau

Mae system podiau fêp yn un sy’n defnyddio pod yn hytrach na thanc fepio. Mae system podiau yn cynnwys batri bach, y gellir ei ailwefru, a phod y gellir ei ail-lenwi neu ei ddisodli sy’n cynnwys yr e-hylif.

Dyfeisiau tanc neu “mod”

Mae modiau fepio neu ddyfeisiau tanc yn fath o ddyfais fepio a gynlluniwyd ar gyfer defnyddwyr fêps sydd am gael profiad fepio sydd wedi’i deilwra ar gyfer eu hoffterau nhw.

Maent fel arfer yn cynnig mwy o nodweddion megis batri mwy o faint a mwy pwerus a phŵer y gellir ei addasu (watedd).

Blasau fêps

Blasau tybaco

Mae llawer o oedolion sy’n defnyddio fêps yn dechrau gydag e-hylifau â blas tybaco i efelychu blas sigaréts traddodiadol. Gall y rhain amrywio o ysgafn a llyfn i gryf a grymus, gan efelychu gwahanol fathau o dybaco.

Blasau menthol a mintys

Defnyddir e-hylifau mintys a menthol i roi teimlad oer i fêps pan fyddant yn cael eu defnyddio. Maent yn atgoffa rhywun o sigaréts menthol.

Blasau ffrwythau

Mae blasau ffrwythau ymhlith y dewisiadau mwyaf poblogaidd ar gyfer fêps. Maent yn cynnwys amrywiaeth eang o opsiynau, megis mefus, afal, llus a mango.

Blasau pwdinau a melysion

Yr ail ddewis mwyaf poblogaidd o e-hylif a ddefnyddir gan blant yw blasau pwdinau a chandi, megis gwm swigod, candi-fflos, fanila, caramel neu gacen gaws.

Beverage flavours

Mae rhai e-hylifau yn cyfuno blasau tybaco ag elfennau eraill fel fanila, caramel neu gnau.

Cymysgeddau tybaco

Mae rhai e-hylifau yn cyfuno blasau tybaco ag elfennau eraill fel fanila, caramel neu gnau.

Cymysgeddau personol

Mae’n well gan rai defnyddwyr fêps greu eu blas e-hylif personol eu hunain drwy gyfuno gwahanol gyfuniadau o flas i weddu i’w dewisiadau personol.

Atodiad 2: hysbysiad preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy’r alwad hon am dystiolaeth, yn ogystal â’ch hawliau fel ymatebydd o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).

Rheolydd data

DHSC yw’r rheolydd data.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi

Pan fyddwch yn ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein, byddwn yn casglu gwybodaeth am y canlynol:

  • a ydych yn ymateb fel aelod unigol o’r cyhoedd neu ar ran sefydliad
  • enw’ch sefydliad a lle mae’ch sefydliad yn gweithredu (os ydych yn ymateb ar ran sefydliad)
  • ym mha sector yr ydych yn gweithio
  • beth yw prif ffocws eich gwaith

Rydym hefyd yn gofyn am rywfaint o wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu os byddwch yn dewis ymateb. Mae hyn yn cynnwys:

  • eich oedran
  • ym mhle rydych chi’n byw
  • eich rhyw
  • eich hunaniaeth o ran rhywedd
  • eich grŵp ethnig
  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich cyfeiriad IP

Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol arall yn eich ymatebion i gwestiynau testun rhydd yn yr arolwg.

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn casglu eich sylwadau fel rhan o’r broses ymgynghori:

  • at ddibenion ystadegol, er enghraifft i ddeall pa mor gynrychioliadol yw’r canlyniadau ac a yw safbwyntiau a phrofiadau yn amrywio ar draws sefydliadau
  • er mwyn i DHSC gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth am eich ymateb
  • i leihau’r tebygolrwydd y gall unigolion gyflwyno ymatebion lluosog

Os ydych wedi rhoi caniatâd, gall DHSC gysylltu â chi i ganiatáu i chi ddiwygio neu ddileu eich ymateb neu i anfon nodyn atgoffa atoch cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben os nad ydych wedi cyflwyno eich ymateb terfynol.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth

Y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:

  • cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd. Yn yr achos hwn gofyn i’r cyhoedd ddarparu tystiolaeth i ateb ystod o gwestiynau am dybaco a fepio

  • ei bod yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd mewn iechyd y cyhoedd. Mae’n ein helpu i sicrhau bod ein cynigion ar sut y bydd y llywodraeth yn diogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag bod yn gaeth i dybaco a fepio yn ystyried safbwyntiau a phrofiadau gwahanol grwpiau demograffig sydd â phrofiadau gwahanol o dybaco a fepio

Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch data categori arbennig (yn yr achos hwn, data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu darddiad ethnig) yw ei bod yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd mewn iechyd neu ofal cymdeithasol o dan erthygl 9 o GDPR y DU. Mae’n ein helpu i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyried barn a phrofiadau grwpiau demograffig amrywiol a’r rhai sydd â gwybodaeth a phrofiadau amrywiol o ran tybaco a fepio. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau hyn ar ddata categori arbennig.

 phwy y gall eich gwybodaeth gael ei rhannu

Gallai eich ymatebion i’r ymgynghoriad ar-lein gael eu gweld gan:

  • swyddogion DHSC sy’n cynnal y broses ymgynghori
  • swyddogion mewn adrannau eraill o’r llywodraeth a’r gweinyddiaethau datganoledig a fydd yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad
  • cyflenwr trydydd parti DHSC (SocialOptic), sy’n gyfrifol am redeg a chynnal yr arolwg ar-lein

Trosglwyddiadau data rhyngwladol a lleoliadau storio

Mae DHSC yn storio data drwy seilwaith cyfrifiadurol diogel ar weinyddion sydd wedi’u lleoli yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae llwyfannau DHSC yn destun amddiffyniadau diogelwch a mesurau amgryptio helaeth.

Mae SocialOptic yn storio data trwy weinyddion diogel sydd wedi’u lleoli yn y DU.

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd at flwyddyn ar ôl i’r ymgynghoriad ar-lein ddod i ben. Caiff gwybodaeth ddienw ei chadw am gyfnod amhenodol.

Byddwn yn gofyn i SocialOptic ddileu’r wybodaeth a gedwir ar eu system yn ddiogel flwyddyn ar ôl i’r ymgynghoriad ar-lein ddod i ben.

Sut yr ydym yn diogelu eich gwybodaeth a’i chadw’n ddiogel

Mae DHSC yn defnyddio ystod o fesurau diogelwch technegol, sefydliadol a gweinyddol i ddiogelu unrhyw wybodaeth sydd gennym yn ein cofnodion rhag:

  • cael ei cholli
  • cael ei chamddefnyddio
  • mynediad heb ei awdurdodi
  • cael ei datgelu
  • cael ei newid
  • cael ei dinistrio

Mae gennym weithdrefnau a pholisïau ysgrifenedig sy’n cael eu harchwilio a’u hadolygu’n rheolaidd ar lefel uwch.

Mae SocialOptic wedi’i ardystio gan Cyber Essentials. Mae hwn yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth sy’n helpu sefydliadau i’w hamddiffyn eu hunain rhag yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin.

Eich hawliau

Yn ôl y gyfraith, mae gennych nifer o hawliau ac nid yw prosesu eich data yn dileu nac yn lleihau’r hawliau hyn, o dan GDPR y DU a Deddf Diogelu Data’r DU 2018.

Mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • gofyn am gopïau o wybodaeth amdanoch chi a chael y copïau hynny
  • trefnu bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei chywiro os ydych yn credu ei bod yn anghywir
  • cyfyngu ar sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, er enghraifft, gallwch ofyn iddi gael ei chyfyngu os credwch ei bod yn anghywir
  • gwrthwynebu i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio
  • trefnu bod gwybodaeth yn cael ei dileu

Efallai na fydd rhai o’r hawliau hyn yn gymwys pan fydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir.

Cysylltu â ni neu wneud cwyn

Byddwn bob amser yn ceisio ymateb i bryderon neu ymholiadau sydd gennych am eich data.

Os ydych yn anhapus ynghylch sut y mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych am gwyno am sut y caiff eich data ei ddefnyddio fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, dylech e-bostio data_protection@dhsc.gov.uk neu ysgrifennwch at:

Y Swyddog Diogelu Data
39 Victoria Street
Llundain
SW1H 0EU

Os nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch ddarganfod sut i gysylltu â nhw ar wefan ICO. Eu cyfeiriad post yw:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd, a byddwn yn ei ddiweddaru os oes angen. Bydd yr holl fersiynau wedi’u diweddaru yn cael eu marcio gan nodyn newid ar dudalen yr ymgynghoriad.