Publication

Ymgynghoriad creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc: ymateb y llywodraeth

Updated 12 February 2024

Crynodeb gweithredol

Pam y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn gennym

Mae tybaco yn gyfrifol am 80,000 o farwolaethau y gellid eu hatal yn y DU bobl blwyddyn ac yn achos mawr o afiechyd (gan gynnwys canser, strôc a methiant y galon) ac anabledd. Nid yw’r un cynnyrch arall i ddefnyddwyr yn lladd hyd at ddwy ran o dair o’i ddefnyddwyr hirdymor, ac mae’n lleihau disgwyliad oes y rhai sy’n ei ddefnyddio yn sylweddol. Dechreuodd dros 80% o smygwyr cyn iddynt droi’n 20 oed, llawer fel plant. A hefyd, mae smygu yn costio £17 biliwn y flwyddyn i’r economi a chymdeithas ehangach yn Lloegr, sy’n cyfateb i 6.9c o bob £1 o dreth incwm a dderbynnir. Tra bod y dreth a godir mewn refeniw toll gartref dim ond tua £10.2 biliwn y flwyddyn.

Mae’r llywodraeth a’r sector iechyd cyhoeddus yn cydnabod y gall fêps fod yn ddull effeithiol o gynorthwyo pobl i roi’r gorau i smygu, ond mae nifer y plant sy’n defnyddio fêps wedi treblu yn y 3 blynedd ddiwethaf. Oherwydd cynnwys nicotin a’r niweidiau hirdymor anhysbys, ceir perygl o niwed a chaethiwed i blant o fepio. Mae angen i ni ddiogelu ein plant a chenedlaethau’r dyfodol rhag effeithiau niweidiol smygu yn ogystal â’r niweidiau posibl o fepio ymhlith pobl ifanc.

Dyna pam, ar 4 Hydref 2023, y gwnaethom gyhoeddi Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation a oedd hefyd yn cynnwys ein cynigion i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc a gorfodi ein rheolau. Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd ymgynghoriad yn y DU gyfan gennym ar 12 Hydref gan dderbyn bron i 28,000 o ymatebion.

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno canlyniadau’r ymgynghoriad a’r mesurau dilynol y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw bellach.

Crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad

Gofynnodd yr ymgynghoriad gwestiynau mewn 3 maes:

  • creu cenhedlaeth ddi-fwg
  • mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc
  • gorfodi

Roedd y mwyafrif llethol o ymatebion yn cefnogi cynnig y llywodraeth i greu cenhedlaeth ddi-fwg.

Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr o blaid y mesurau arfaethedig i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc, yn enwedig cyfyngu arddangosfeydd man gwerthu a chyfyngu deunydd pacio. Ond roedd safbwyntiau cymysg ar y ffordd orau o wneud hyn.

Roedd cefnogaeth hefyd i ymestyn y rheoliadau hyn i gynnwys fêps heb nicotin yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr, fel bagiau bach nicotin, i osgoi diangfeydd ac i gefnogi gorfodi cryfach.

Roedd ymatebwyr yn gryf o blaid cyflwyno gwaharddiad ar werthu a chyflenwi cynhyrchion fepio tafladwy.

Roedd cefnogaeth sylweddol i orfodi ar draws y mesurau tybaco a fepio gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig newydd yn Lloegr.

Bydd y llywodraeth bellach yn cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl a fydd yn cymryd mesurau i:

  • newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol lle na fydd cynhyrchion tybaco byth yn cael eu gwerthu’n gyfreithlon i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 ochr yn ochr â gwahardd gwerthiant procsi, a newid hysbysiadau rhybudd
  • cyflwyno pwerau gwneud rheoliadau i gyfyngu blasau, man gwerthu a deunydd pacio ar gyfer cynhyrchion fepio (nicotin a heb nicotine) yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
  • cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig newydd ar gyfer Cymru a Lloegr â chosb o £100 lle credir bod trosedd wedi cael ei chyflawni o ran deddfwriaeth oedran gwerthu a dosbarthiad rhydd ar gyfer tybaco a fêps (nicotin a heb nicotin) a rheoleiddio i ymestyn y darpariaethau hyn i gynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr

Ar wahân, mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno gwaharddiad ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i archwilio gwaharddiad ar fewnforion. Mae swyddogion Gogledd Iwerddon yn cydnabod y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a byddant yn ystyried deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU yn meddwl bod dadl gref dros weithredu i leihau fforddiadwyedd fêps ac mae’n parhau i ystyried opsiynau, gan gynnwys dyletswydd newydd, i gyflawni hyn.

Bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i sicrhau cyn belled â phosibl bod argymhellion yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyson ar draws y DU, i sicrhau cysondeb rheoleiddio.

Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gwblhau’r ymgynghoriad, sydd wedi hysbysu a chryfhau penderfyniad polisi’r llywodraeth.

Cyflwyniad

Cefndir

Smygu yw’r achos sengl cwbl ataliadwy pwysicaf o afiechyd, anabledd a marwolaeth yn y wlad hon, sy’n gyfrifol am 80,000 o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn ac 1 o bob 4 o holl farwolaethau canser y DU. Mae smygwyr yn colli cyfartaledd o 10 mlynedd o ddisgwyliad oes, neu tua blwyddyn ar gyfer pob 4 blynedd o smygu. Mae smygu hefyd yn achos mawr o clefyd y galon, strôc a methiant y galon cyn pryd ac yn cynyddu’r perygl o ddementia ymhlith yr henoed.

Mae’r rhan fwyaf o smygwyr yn ymwybodol i’r risgiau hyn ac, o’u herwydd, eisiau rhoi’r gorau iddi, ond mae natur gaethiwus tybaco yn golygu na allant. Ni fyddai tri chwarter y smygwyr presennol erioed wedi dechrau pe baent yn cael y dewis eto ac ar gyfartaledd mae’n cymryd tua 30 o ymdrechion i roi’r gorau iddi i lwyddo. Mae pedwar o bob 5 smygwr yn dechrau cyn eu bod yn 20 oed ac yna’n gaeth am oes. Mae’r rhai nad ydynt yn smygu yn cael eu hamlygu i fwg ail law (smygu goddefol) sy’n golygu bod llawer o bobl yn dioddef niwed heb unrhyw ddewis eu hunain - yn enwedig plant a babanod - o ganlyniad i smygu yn ystod beichiogrwydd.

Mae smygu yn costio £17 biliwn y flwyddyn i’r economi a chymdeithas ehangach yn Lloegr, sy’n cyfateb i 6.9c o bob £1 o dreth incwm a dderbynnir. Tra bod y dreth a godir mewn refeniw toll gartref dim ond tua £10.2 biliwn y flwyddyn. Mae rhywun yn cael ei dderbyn i’r ysbyty bron i bob munud o bob dydd oherwydd smygu, a gellid priodoli hyd at 75,000 o apwyntiadau â meddygon teulu i smygu bob mis – dros 100 o apwyntiadau bob awr. Bydd lleihau cyffredinrwydd smygu yn lleihau’r costau hyn, yn gostwng pwysau ar y GIG ac yn helpu ein heconomi i fod yn fwy cynhyrchiol.

Ceir cefnogaeth gref ymhlith y cyhoedd i weithredu: yn ôl arolwg Action on Smoking and Health (ASH) a YouGov, mae 75% o oedolion yn Lloegr yn cefnogi uchelgais di-fwg y llywodraeth.

Gan fod fepio yn peri’r risg o niwed a chaethiwed posibl yn y dyfodol, nid yw byth yn cael ei argymell ar gyfer plant. Nid yw’r holl risgiau o fêps wedi cael eu hymchwilio’n llawn, gan gynnwys mewnanadlu ychwanegion ar gyfer blasau, ac nid yw effeithiau hirdymor fepio yn hysbys eto, er y bydd tystiolaeth bellach yn dod i’r amlwg yn y dyfodol. Fodd bynnag, bu ymchwydd diweddar i nifer y plant sy’n fepio, sy’n peri pryder mawr. Mae adroddiad ASH Use of e-cigarettes among young people in Great Britain yn dangos bod nifer y bobl ifanc 11 i 17 oed sy’n defnyddio fêps wedi treblu yn y 3 blynedd diwethaf a bod 20.5% o blant ym Mhrydain Fawr wedi rhoi cynnig ar fepio yn 2023. Yn ôl arolwg ymddygiad ac agweddau pobl ifanc Gogledd Iwerddon 2022, dywedodd 21% o bobl ifanc 11 i 16 oed yng Ngogledd Iwerddon eu bod wedi defnyddio fêp erioed. Er bod gwerthu fêps nicotin i bobl dan 18 oed yn anghyfreithlon, mae fêps yn cael eu hyrwyddo a’u marchnata i blant a phobl ifanc fel mater o drefn. Gall fepio fod â rhan i’w chwarae i gynorthwyo smygwyr sy’n oedolion i roi’r gorau i smygu, ond mae’r cyngor iechyd wedi bod yn eglur erioed, os na ydych yn smygu ni ddylech fepio.

Yn ogystal â chefnogaeth i weithredu i gyfyngu smygu, mae arolwg ASH a YouGov yn dangos bod cefnogaeth gref i weithredu ar fepio ymhlith pobl ifanc. Mae 75% o oedolion ym Mhrydain Fawr yn cefnogi gwahardd enwau losin, cartwnau a lliwiau llachar ar ddeunydd pacio fêps ac mae 74% o oedolion ym Mhrydain Fawr yn cefnogi hyrwyddo fêps mewn mannau gwerthu.

Ar 4 Hydref 2023, cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y papur gorchymyn Stopping the start: our new plan to create a smokefree generation. Mae’n cyflwyno camau arfaethedig i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niweidiau smygu trwy greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf ac amrywiaeth o fesurau i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc.

Yn fuan wedi hyn, ar 12 Hydref, lansiodd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yr ymgynghoriad cyhoeddus Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc, yn ceisio adborth ar y camau deddfwriaethol arfaethedig y byddai eu hangen i gyflawni’r ymrwymiadau yn y papur gorchymyn.

Yn Araith y Brenin ar 7 Tachwedd 2023, cyflwynodd Ei Fawrhydi y Brenin Charles III gynlluniau i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth yn y sesiwn seneddol hon. Bydd hyn yn cyflwyno mesurau sy’n ymateb i fwyafrif y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Yr ymgynghoriad

Rhannwyd yr ymgynghoriad y 3 maes:

  • creu cenhedlaeth ddi-fwg
  • mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc
  • gorfodi

O ran creu cenhedlaeth ddi-fwg, fe wnaethom ofyn a oedd yr ymatebwyr yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig cyffredinol ac elfennau penodol, gan gynnwys:

  • a ddylid newid yr oed ar gyfer gwerthu cynhyrchion tybaco
  • a ddylid gwahardd gwerthiant procsi ochr yn ochr â hyn
  • pa gynhyrchion ac ategolion tybaco ddylai fod o fewn y cwmpas
  • a ddylid newid hysbysiadau rhybudd ar safleoedd manwerthu

O ran fepio ymhlith pobl ifanc, fe wnaethom ofyn am safbwyntiau ar amrywiaeth o fesurau a fydd yn cydweithio i leihau’r ffyrdd amrywiol y mae fêps yn apelio i blant, tra hefyd yn sicrhau y gellir parhau i wneud fêps ar gael i smygwyr sy’n oedolion fel cymorth i roi’r gorau iddi. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfyngu blasau fêps
  • rheoleiddio arddangosfeydd man gwerthu
  • rheoleiddio deunydd pacio fêps a chyflwyniad y cynnyrch
  • archwilio cyfyngiadau pellach ar gyfer fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin
  • cyfyngu cyflenwi a gwerthu fêps tafladwy
  • gweithredu ar fforddiadwyedd fêps

O ran gorfodi, fe wnaethom ofyn i’r ymatebwyr a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno y dylid cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i orfodi deddfwriaeth oedran gwerthu tybaco a fêps, a’u barn ar beth ddylai lefel y gosb fod.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r hyn a dderbyniwyd gennym mewn ymateb i’r ymgynghoriad ac, o ganlyniad, pa fesurau y mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn bwriadu eu cyflwyno i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag peryglon tybaco, i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc ac i orfodi ein rheolau newydd. Bydd angen i Weithrediaeth a Chynulliad Gogledd Iwerddon sydd wedi’u hailgyflwyno wneud penderfyniadau am unrhyw bolisïau o fewn cymhwysedd datganoledig.

Demograffeg yr ymatebwyr

Roedd yr ymgynghoriad ar agor am 8 wythnos o 12 Hydref tan 6 Rhagfyr 2023. Cawsom gyfanswm o 118,756 o ymatebion i’r ymgynghoriad. O’r rhain, nodwyd yn ddiamwys bod 90,835 wedi cael eu cyflwyno gan raglenni wedi’u hawtomeiddio, a adnabyddir yn gyffredin fel botiau, ac felly ystyriwyd eu bod yn dwyllodrus. Dadansoddwyd 27,921 o ymatebion gennym felly. Rydym yn darparu mwy o fanylion am ein dull o ddarganfod ymatebion twyllodrus yn yr adran ddull isod.

O’r 27,921 o ymatebion, clywsom gan 896 o sefydliadau, a 27,025 o unigolion mewn swyddogaethau personol a phroffesiynol. O’r sefydliadau neu’r unigolion mewn swyddogaethau proffesiynol, cyflwynodd 148 dystiolaeth bellach hefyd fel atodiadau.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn y DU gyfan ac mae tabl 1 isod yn dangos y dadansoddiad o le ddywedodd unigolion a ymatebodd yr oeddent yn byw yn y DU. Am ddadansoddiad o ymatebion ar gyfer pob un o 4 rhan y DU, gweler atodiad 1.

Yn nhablau 1 i 3, cymerir amcangyfrifon poblogaeth o amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2021. Hefyd, oherwydd talgrynnu, nid yw’r holl ganrannau yn dod i gyfanswm o 100%.

Tabl 1: dadansoddiad o unigolion a ymatebodd yn ôl yr ardal o’r DU y maent yn byw ynddi

Lleoliad Nifer yr ymatebwyr Canran yr ymatebwyr Canran y boblogaeth sy’n byw yn yr ardal honno o’r DU
Lloegr 21,697 80.3% 84.3%
Yr Alban 3,089 11.4% 8.2%
Cymru 1,018 3.8% 4.6%
Gogledd Iwerddon 1,221 4.5% 2.8%

Ar gyfer y rhai a ddywedodd eu bod yn byw yn Lloegr, rydym hefyd wedi dadansoddi’r data fesul rhanbarth, a ddangosir yn Nhabl 2.

Tabl 2: dadansoddiad o’r rhai a ymatebodd fel unigolion yn Lloegr fesul rhanbarth

Rhanbarth Nifer yr ymatebwyr Canran yr ymatebwyr Canran y boblogaeth sy’n byw yn y rhanbarth hwnnw
De-ddwyrain Lloegr 4,607 21.4% 16.4%
De-orllewin Lloegr 3,456 16% 10.1%
Llundain 2,779 12.9% 15.6%
Gogledd-orllewin Lloegr 2,372 11% 13.1%
Swydd Efrog a Humber 1,842 8.5% 9.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1,811 8.4% 10.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 1,689 7.8% 8.6%
Dwyrain Lloegr 1,684 7.8% 11.2%
Gogledd-ddwyrain Lloegr 1,014 4.7% 4.7%
Byddai’n well gen i beidio â dweud 324 1.5% Amherthnasol

Clywsom hefyd gan unigolion ar draws amrywiaeth o oedrannau fel y dangosir yn Nhabl 3.

Tabl 3: dadansoddiad o’r rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl oed

Oed Nifer yr ymatebwyr Canran yr ymatebwyr Canran y boblogaeth yn y grŵp oed hwnnw
13 i 14 45 0.2% 2.4%
15 i 17 203 0.8% 3.4%
18 i 24 1694 6.3% 8.3%
25 i 34 5025 18.6% 13.5%
35 i 44 6305 23.4% 13.0%
45 i 54 6537 24.3% 13.2%
55 i 64 4077 15.1% 12.7%
65 i 74 2178 8.1% 10.0%
75 neu hŷn 657 2.4% 8.7%
Byddai’n well gen i beidio â dweud 231 0.9% Amherthnasol

Dull

Ar draws y 3 maes, roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau o fath blwch ticio caeedig, yn ogystal â chwestiynau penagored lle gallai’r ymatebwyr ysgrifennu sylwadau manwl. Roedd 27 o flychau testun rhydd, ac roedd gan bob un ohonynt derfyn o 300 o eiriau. Roedd sefydliadau neu unigolion a oedd yn rhannu safbwynt proffesiynol hefyd yn gallu lanlwytho dogfennau i gefnogi eu hymatebion.

Gallai’r ymatebwyr hefyd ddewis a oeddent yn dymuno ateb pob cwestiwn, ac nid oedd y cwestiynau penagored yn orfodol.

Dadansoddwyd yr ymatebion gan unigolion i’r cwestiynau penagored gan ddefnyddio system modelu pynciau a thagio. Fe wnaeth y broses modelu pynciau grwpio ymatebion tebyg i bob cwestiwn yn ôl y geiriau sy’n cymeriadu eu tebygrwydd orau. Yna, adolygwyd y grwpiau hyn o eiriau gan o leiaf 2 o swyddogion yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer pob un o’r 27 o gwestiynau, ochr yn ochr â sampl o ddyfyniadau cynrychiadol, i benderfynu ar thema briodol ar gyfer pob grŵp o eiriau. Tagiwyd themâu lluosog i nodi ymatebion ag arlliw ac aml-ffased.

Dadansoddwyd yr ymatebion gan sefydliadau i’r cwestiynau penagored trwy ddefnyddio proses â llaw i neilltuo thema i’r ymatebion. Penderfynwyd ar gryfder y themâu a nodwyd yn ymatebion y sefydliadau trwy gyfrif sawl gwaith y cododd thema yn yr ymatebion i gwestiwn.

Nodi ymatebion twyllodrus

Nodwyd ymatebion twyllodrus gennym lle nad oedd y data a gyflwynwyd yn cyd-fynd â llif yr arolwg a ddilynwyd gan ymatebwyr gwirioneddol a gwblhaodd yr ymgynghoriad â llaw. Roedd ymatebion yn aml wedi’i hailadrodd sawl gwaith ac wedi’u hanfon nifer fawr o weithiau o nifer fach o gyfeiriadau IP, sy’n gyson ag ymgyrch wedi’i hawtomeiddio dorfol, neu ‘botiau’. Nodwyd bod cyfanswm o 90,835 o ymatebion yn dwyllodrus.

Datganiad y diwydiant tybaco

Mae’r DU yn llofnodwr Confensiwn Fframwaith ar Reoli Tybaco Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac felly mae ganddi rwymedigaeth i ddiogelu datblygiad polisi iechyd cyhoeddus rhag buddiannau breintiedig y diwydiant tybaco.

I gyflawni’r rhwymedigaeth hon, roedd cwestiwn gorfodol lle gwnaethom ofyn i’r holl ymatebwyr ddatgelu a oes ganddynt unrhyw gysylltiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r diwydiant tybaco, neu’n derbyn cyllid gan y diwydiant.

Cawsom gyfanswm o 307 o ymatebion gan ymatebwyr a ddatgelodd gysylltiadau â’r diwydiant tybaco. Dadansoddwyd y rhain gennym ochr yn ochr ag ymatebion eraill gan ddefnyddio’r dull uchod.

Yn unol â gofynion erthygl 5.3 y Confensiwn Fframwaith ar Reoli Tybaco, trwy gydol yr ymgynghoriad hwn rydym yn crynhoi safbwyntiau ymatebwyr â chysylltiadau a ddatgelwyd â’r diwydiant tybaco. Ond nid ydym wedi ystyried y safbwyntiau hyn wrth benderfynu ar ein hymateb polisi oherwydd buddiannau breintiedig y diwydiant tybaco.

Ni wnaethom ofyn yn uniongyrchol a oedd ymatebwyr wedi’u hymlynu â’r diwydiant tybaco. Fodd bynnag, rydym wedi derbyn nifer o ymatebion gan y diwydiant fepio, gan gynnwys manwerthwyr fêps.

Rhychwant tiriogaethol

Mae iechyd yn fater datganoledig, ac felly ceir gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio ar draws y DU. Bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i sicrhau cyn belled â phosibl bod argymhellion a chamau gweithredu yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyson ar draws y DU i sicrhau cysondeb rheoleiddio. Bydd angen i Weithrediaeth a Chynulliad Gogledd Iwerddon sydd wedi’u hailgyflwyno wneud penderfyniadau am unrhyw bolisïau o fewn cymhwysedd datganoledig.

Deddfu i greu cenhedlaeth ddi-fwg

Mae gwerthu cynhyrchion tybaco i unigolion dan 18 oed wedi’i wahardd ar hyn o bryd. O dan y cynnig hwn, byddai gwerthu i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 yn cael ei wahardd.

Roedd y cynnig hefyd yn cynnwys newid yr oed gwerthu ar gyfer gwerthiant procsi, sydd wedi’i wahardd o dan ddeddfwriaeth oedran gwerthu tybaco presennol. Byddai hyn yn golygu y byddai unrhyw un a anwyd cyn 1 Ionawr 2009 wedi’i wahardd rhag prynu cynhyrchion tybaco ar ran unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

O ran cwmpas cynhyrchion, fe wnaethom gynnig cynnwys cynhyrchion sydd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth oedran gwerthu yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sigaréts
  • papurau sigaréts
  • tybaco rholio â llaw
  • sigârs
  • sigarilos
  • tybaco pib
  • cynhyrchion tybaco pibell ddŵr (er enghraifft, shisha)
  • tybaco cnoi
  • tybaco wedi’i gynhesu
  • tybaco trwynol (snwff)
  • cynhyrchion smygu llysieuol

Nodir deddfwriaeth oedran gwerthu presennol yn yr Alban yn Neddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010 ac nid yw’n cynnwys cynhyrchion smygu llysieuol. O dan y cynnig hwn, byddai Llywodraeth yr Alban yn ehangu’r ddeddfwriaeth i gynnwys cynhyrchion smygu llysieuol i sicrhau cysondeb rheoleiddio ar draws y DU.

Hefyd, ar draws y DU, mae’n ofynion cyfreithiol ar hyn o bryd i safleoedd manwerthu arddangos y datganiad canlynol: “mae’n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un sydd dan 18 oed”. O dan y cynnig hwn, byddai angen i’r gofyniad gael ei newid i gyd-fynd â’r oedran gwerthu newydd.

Adborth yr ymgynghoriad

Newid i ddeddfwriaeth oedran gwerthu

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid newid yr oedran ar gyfer gwerthu cynnyrch tybaco fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am godi oedran gwerthu cynhyrchion tybaco:

  • roedd 63.2% yn cytuno â’r cynnig
  • roedd 32.2% yn anghytuno â’r cynnig
  • dywedodd 4.6% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, roedd y prif themâu a godwyd yn cefnogi bwriad y polisi a’r effaith y byddai’n ei chael ar:

  • ddiogelu iechyd pobl, yn enwedig iechyd cenedlaethau’r dyfodol, â llawer o ymatebwyr yn darparu ystadegau ar glefydau a marwolaethau cysylltiedig â smygu
  • lleihau’r baich a’r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol o afiechydon a achosir gan smygu
  • helpu i leihau gwahaniaethau iechyd, gan mai smygu yw un o’u hachosion mwyaf
  • lleihau cyfraddau smygu ac atal caethiwed
  • lleihau effaith ariannol smygu ar yr economi

O ran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • llywodraeth yn mynd yn rhy bell, ac yn benodol bod y llywodraeth yn ceisio rheoli bywydau pobl, y dylai oedolion allu gwneud dewis cytbwys, ac y gallai’r polisi hwn arwain at waharddiad ehangach ar yr hyn y maent yn ei ystyried fel cynhyrchion eraill nad ydynt yn iach
  • y byddai’r polisi yn arwain at gynnydd i’r farchnad dybaco anghyfreithlon a phryderon ehangach ynghylch sut y bydd y polisi yn cael ei orfodi
  • pryderon nad yw gwahardd yn gweithio ac y byddai’r gyfraith hon yn aneffeithiol o ran lleihau cyfraddau smygu

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 56% yn anghytuno â’r newid i’r ddeddfwriaeth oedran gwerthu. Roedd gan yr ymatebwyr hyn bryderon tebyg i’r rhai a restrir uchod.

Gwerthiant procsi

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylid gwahardd gwerthiant procsi hefyd?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am wahardd gwerthiant procsi:

  • roedd 73.7% yn cytuno y dylid ei wahardd
  • nid oedd 20% yn cytuno
  • dywedodd 6.3% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • cynnal cysondeb â’r newid i’r polisi oedran gwerthu ar gyfer smygu, gan ddweud pe na bai’r gyfraith ar werthiant procsi yn cael ei newid i gyd-fynd â’r newid oedran gwerthu y byddai’n gwanhau ac yn tanseilio’r polisi cyffredinol ac yn creu diangfeydd
  • cynnal cysondeb â deddfwriaeth oedran gwerthu arall, er enghraifft ar alcohol a thoddyddion
  • bod gorfodi yn haws pe bai gwerthiant procsi yn cael ei gynnwys hefyd, er bod pryderon cyffredinol hefyd ymhlith y rhai a oedd yn cytuno am yr her orfodi gyffredinol

O ran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • y bydd yn anodd ei orfodi
  • amau ei effeithiolrwydd o ran atal gwerthiant procsi
  • ailadrodd anghytuno pellach i’r polisi newid oedran gwerthu fel y pwyntiau a nodwyd o dan y cwestiwn blaenorol, gan gynnwys cyfyngu rhyddid i ddewis

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 53% yn cytuno â gwahardd gwerthiant procsi. Fodd bynnag, i ymatebwyr a oedd yn anghytuno, y prif themâu oedd nad yw’n bosibl gorfodi gwerthiant procsi ac nad yw’n ymarferol. Thema gyffredin arall a ailadroddwyd oedd bod y polisi newid oedran gwerthu yn enghraifft o’r llywodraeth yn mynd yn rhy bell.

Rhybuddion

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y bydd angen newid y rhybuddion sy’n cael eu harddangos mewn safleoedd manwerthu i ddarllen ‘mae’n anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009’ pan ddaw’r gyfraith i rym?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am rybuddion mewn safleoedd manwerthu:

  • roedd 71.8% yn cytuno y byddai angen eu newid
  • roedd 22.6% yn anghytuno y byddai angen eu newid
  • dywedodd 5.6% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, roedd y themâu a gododd yn cynnwys:

  • nodi sut mae angen y newid i rybuddion i ddarparu neges eglur a chyson ar y polisi ac i helpu’r cyhoedd ddeall y newidiadau
  • darparu syniadau ar sut y dylid eu dylunio ac awgrymiadau ar gyfer y cynnwys, er enghraifft cyfeirio at y gwaharddiad ar werthiant procsi, adlewyrchu geiriad presennol a sicrhau hygyrchedd

Fe wnaeth y rhai a ymatebodd ar ran sefydliadau adleisio’r themâu uchod. Awgrym cyffredin arall oedd y dylid ymgysylltu â safonau masnach.

Defnyddio rhai ymatebwyr y blwch testun rhydd i ddweud er eu bod yn cytuno y byddai angen i rybuddion newid os caiff y polisi i newid yr oedran gwerthu ei weithredu, roeddent yn anghytuno â’r bwriad i newid yr oedran gwerthu.

O ran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno â diweddaru rhybuddion, y themâu a gododd oedd:

  • datganiadau yn mynegi anghytundeb pellach â deddfwriaeth oedran gwerthu
  • pryderon am y ffaith fod y neges yn aneglur ac yn peri dryswch

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 50% yn cytuno a 41% yn anghytuno â’r cwestiwn a mynegodd yr ymatebion anghytundeb cyffredinol â’r polisi oedran gwerthu ei hun.

Cwmpas cynhyrchion

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai pob cynnyrch tybaco, papurau sigarét a chynhyrchion smygu llysieuol gael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth newydd?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am y cwmpas cynhyrchion arfaethedig:

  • roedd 63.8% yn cytuno â’r cwmpas
  • roedd 30.7% yn anghytuno â’r cwmpas
  • dywedodd 5.5% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, y prif themâu oedd:

  • y dylai pob cynnyrch tybaco fod o fewn y cwmpas gan fod pob cynnyrch tybaco yn niweidiol
  • byddai gorfodi’n haws pe bai pob cynnyrch tybaco yn cael ei gynnwys, a byddai’n eglur i’r cyhoedd yr hyn y mae’r ddeddfwriaeth yn ei gynnwys
  • bydd yn osgoi unrhyw ddiangfeydd yn y ddeddfwriaeth

Hefyd, awgrymodd rhai o’r rhai a oedd yn cytuno y dylai’r cwmpas fynd ymhellach ag awgrymiadau i gynnwys pob math o gyfarpar smygu, pob cynnyrch nicotin a chynhyrchion fêp.

O ran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno, roedd y brif thema yn ymwneud â galwadau i eithrio cynhyrchion tybaco penodol. Roedd hyn yn cynnwys eithrio:

  • shisha, oherwydd ei bwysigrwydd diwylliannol i rai grwpiau
  • sigârs a thybaco wedi’i gynhesu, yn seiliedig ar y dybiaeth ymhlith rhai ymatebwyr bod y rhain yn llai niweidiol

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 53% yn anghytuno â’r cwmpas. Y cynhyrchion yr oeddent yn credu ddylai gael eu heithrio oedd cynhyrchion tybaco eraill, gan gynnwys:

  • sigârs
  • tybaco pib
  • snwff
  • shisha
  • tybaco wedi’i gynhesu

Rhoddodd llawer y rheswm bod y rhain yn gyfran fach o’r farchnad.

Ymateb y llywodraeth

Smygu yw’r achos unigol mwyaf – a chwbl ataliadwy – o salwch, anabledd a marwolaeth yn y wlad hon. Mae’r adborth i’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth eang i’r cynnig i newid yr oedran gwerthu lle na fydd modd gwerthu cynhyrchion tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 fyth. Dangosodd gefnogaeth gref i wahardd gwerthiant procsi, y cwmpas cynhyrchion arfaethedig a’r angen i newid rhybuddion.

Cwmpas y mesurau fydd unrhyw gynnyrch cyfreithlon sy’n cynnwys tybaco (mwg a di-fwg), cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts. Mae’r dystiolaeth yn eglur nad oes unrhyw lefel ddiogel o ddefnydd o dybaco. O’i smygu, mae tybaco yn lladd hyd at ddau o bob tri o’i ddefnyddwyr hirdymor, ac mae pob math o dybaco sy’n cael ei smygu, gan gynnwys shisha a sigârs, yn niweidiol. Dosbarthwyd mwg tybaco fel carsinogen grŵp 1, ac mae mwg tybaco o shisha a sigârs yn arwain at yr un mathau o glefydau â mwg sigaréts.

Ceir tystiolaeth eglur hefyd o wenwyndra o dybaco wedi’i gynhesu mewn astudiaethau labordy. Mae’r aerosol a gynhyrchir gan dybaco wedi’i gynhesu hefyd yn cynnwys carsinogenau, a bydd perygl i iechyd unrhyw un sy’n defnyddio’r cynhyrchion hyn (PDF, 232kb).

Mae papurau sigaréts wedi’u cynnwys yn y cwmpas gan fod llosgi papurau sigaréts â’u canyddion a’u lliwiau yn ychwanegu at gyfanswm y mwg a’r amrywiaeth o wenwynau yn y mwg, gan gyfrannu risgiau ychwanegol i smygwyr. Mae deunydd hyrwyddo papurau sigaréts hefyd yn aml yn cael ei dargedu at bobl ifanc ac yn boblogaidd yn eu plith. Gan fod y mwyafrif o smygwyr yn dechrau’n ifanc, bydd lleihau mynediad at bapurau sigaréts yn cefnogi ein huchelgais i atal dechrau smygu ac i leihau niwed. Yn yr un modd, mae sigaréts llysieuol wedi’u cynnwys yn y cyfyngiad gan eu bod yn niweidiol i iechyd. Er nad yw eu mwg yn cynnwys nicotin na thybaco, mae’n cynnwys cemegion sy’n achosi canser, tar a charbon monocsid, yn debyg i sigarét dybaco.

Ni fydd y polisi hwn yn gwneud smygu yn drosedd nac yn atal unrhyw un sy’n defnyddio tybaco ar hyn o bryd rhag gwneud hynny yn y dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â diogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag natur gaethiwus cynhyrchion tybaco ac atal ein plant rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf.

Rydym hefyd yn ymwybodol o’r effeithiau a’r baich ar fusnes ac awdurdodau lleol ac felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer manwerthwyr. Mae gennym system monitro ac olrhain ar waith eisoes, sy’n monitro cynhyrchion tybaco o’u gweithgynhyrchu i’w manwerthu. Yn ogystal â chynyddu effeithlonrwydd ar gyfer archwiliadau ar lawr gwlad, mae’r system hon hefyd yn galluogi Cyllid a Thollau EF (CThEF) i fonitro tueddiadau ehangach o ran smyglo tybaco a dosbarthu tybaco.

Rydym yn gwybod bod deddfwriaeth wedi bod yn ysgogwr pwysig o ostyngiadau i gyfraddau smygu, o 46% yn y 1970au i 12.9% yn 2022. Er enghraifft, pan wnaethom godi’r oedran gwerthu ar gyfer smygu o 16 i 18 oed yn 2007, fe wnaeth ymchwil i newidiadau i gyffredinrwydd smygu yn y grŵp oedran hwn ganfod ei fod wedi gostwng 30%. Mae ein tybiaethau modelu yn y papur gorchymyn yn awgrymu y gallai’r polisi hwn leihau cyfraddau smygu ymhellach yn Lloegr ymhlith pobl 14 i 30 oed i bron i 0% mor gynnar â 2040.

Codwyd pryderon ynghylch a fyddai’r polisi hwn yn arwain at gynnydd i werthu tybaco yn anghyfreithlon. Yn gyntaf, fel yr amlinellir uchod, ni fydd y polisi hwn yn atal tybaco rhag cael ei werthu i unrhyw un y gellir ei werthu iddo heddiw. Felly, nid oes unrhyw waharddiad uniongyrchol o ymddygiad sy’n gyfreithlon heddiw a allai arwain at gynnydd i werthu anghyfreithlon. Diben y polisi yw atal plant rhag dechrau smygu. Os ni fydd sigaréts byth yn cael eu gwerthu i’r genhedlaeth hon, ni fyddant yn dod yn gaeth yn y lle cyntaf, ac felly maent yn llai tebygol o chwilio am gynhyrchion tybaco yn anghyfreithlon. Mae hyn yn golygu y bydd y marchnadoedd cyfreithlon ac anghyfreithlon yn cael eu lleihau.

Hefyd, o’i gweithredu ochr yn ochr â gorfodi cryf, mae tystiolaeth yn dangos bod mesurau rheoli tybaco blaenorol wedi cael eu dilyn gan ostyngiad i dybaco anghyfreithlon. Ar y cyfan, mae defnydd o dybaco anghyfreithlon wedi lleihau o 17 biliwn o sigaréts yn 2000 i 2001 i 3 biliwn o sigaréts yn 2022 i 2023. A phan godwyd yr oedran gwerthu o 16 i 18, gostyngodd nifer y sigaréts anghyfreithlon a smygwyd 25% o 10 biliwn yn 2005 i 2006 i 7.5 biliwn yn 2007 i 2008. Yn y tymor hwy, mae llai o alw am gynhyrchion tybaco yn golygu llai o ddefnydd o dybaco anghyfreithlon.

I fynd i’r afael â’r farchnad dybaco anghyfreithlon ymhellach, mae CThEF wedi cyhoeddi Stubbing out the problem: A new strategy to tackle illicit tobacco.

Ym mis Hydref, fe wnaethom hefyd ymrwymo i gynyddu buddsoddiad ar gyfer ein hasiantaethau gorfodi o £30 miliwn y flwyddyn. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn Lloegr yn rhoi hwb i asiantaethau fel safonau masnach lleol i orfodi’r mesurau oedran gwerthu a fepio newydd. Bydd hefyd yn cynyddu gweithgarwch CThEF a Llu’r Ffiniau i roi terfyn ar gyfleoedd i droseddwyr yn y busnes tybaco anghyfreithlon.

Cyfrifoldeb gweinidogion datganoledig perthnasol yw dyrannu cyllid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd y gofyniad i newid rhybuddion mewn safleoedd manwerthu hefyd yn cynorthwyo gorfodi ac yn darparu neges eglur i’r cyhoedd. Mae hwn yn ofyniad o dan y ddeddfwriaeth oedran gwerthu presennol (Deddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991). Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae manwerthwyr a swyddogion gorfodi eisoes yn gyfarwydd ag ef. Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau a gweithio’n agos gyda safonau masnach lleol i ddarparu canllawiau i’r diwydiant ar weithredu a gorfodi’r polisi hwn, gan gynnwys ar sut y gallwn sicrhau bod y rhybuddion yn hygyrch.

Rydym wedi ymrwymo £5 miliwn eleni, ac yna £15 miliwn y flwyddyn wedi hynny, i ariannu ymgyrchoedd marchnata cenedlaethol yn Lloegr, a fydd yn cynorthwyo dealltwriaeth a gweithrediad. Cyfrifoldeb y gweinidogion datganoledig perthnasol yw dyrannu cyllid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd, rydym yn eglur nad yw ymddygiad treisgar ac ymosodol tuag at unrhyw weithiwr gyda’r cyhoedd byth yn dderbyniol ac ym mis Hydref 2023, lansiwyd Cynllun Gweithredu ar Droseddau Manwerthu gennym i fynd i’r afael â hyn.

Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y dylai’r newid hwn i ddeddfwriaeth oedran gwerthu fynd hyd yn oed ymhellach a bod yn berthnasol i gynhyrchion fêp. O ystyried bod fêps yn declyn effeithiol i gynorthwyo i roi’r gorau i smygu ac yn y byrdymor a’r tymor canolig, bod fepio yn llai niweidiol na smygu, ni fydd Llywodraeth y DU yn newid oedran gwerthu fêps. Fodd bynnag, mae’r bennod nesaf yn cyflwyno mesurau y byddwn yn bwriadu bwrw ymlaen â nhw i fynd i’r afael â’r cynnydd i fepio ymhlith pobl ifanc.

Mynd i’r afael â’r cynnydd i fepio ymhlith pobl ifanc

Ni argymhellir fepio ar gyfer plant byth, ac mae’n peri’r risg o niwed a chaethiwed yn y dyfodol. Mae’r cyngor iechyd yn eglur: ni ddylai pobl ifanc a’r rhai sydd erioed wedi smygu fepio na chael eu hannog i fepio.

Nicotin yw’r cynhwysyn gweithredol yn y rhan fwyaf o fêps (ac eithrio fêps heb nicotin), ac o’i fewnanadlu mae hwn yn gyffur hynod gaethiwus. Mae natur gaethiwus nicotin yn golygu y gall defnyddiwr ddod yn ddibynnol ar fêps, yn enwedig os yw’n eu defnyddio’n rheolaidd. 

Gall rhoi’r gorau i nicotin fod yn anodd iawn gan fod yn rhaid i’r corff ddod i arfer â gweithredu hebddo. Gall symptomau diddyfnu gynnwys:

  • ysfeydd
  • tymer flin
  • gorbryder
  • trafferth yn canolbwyntio
  • cur pen
  • symptomau meddyliol a chorfforol eraill

Mae bron i hanner y rhai sy’n defnyddio nicotin eisiau rhoi’r gorau iddi ond ddim yn gallu. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod yr ymennydd yn fwy sensitif i effeithiau nicotin yn y glasoed, ac felly gallai fod risgiau ychwanegol i bobl ifanc nag i oedolion.

Ceir rhai risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â chynhwysion eraill mewn fêps hefyd. Er enghraifft, gall propylen glycol a glyserin (elfennau o e-hylifau) gynhyrchu cyfansoddion gwenwynig os cânt eu gorgynhesu. Nid yw niweidiau iechyd hirdymor lliwiau a blasau o’u mewnanadlu yn hysbys, ond maent yn sicr yn annhebygol iawn o fod yn llesol.

Er bod y mwyafrif o fêps yn cael eu gweithgynhyrchu mewn cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol presennol, mae gwaith ymchwil ar fêps anghyfreithlon gan y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach yn dangos bod rhai fêps sydd ar werth yn anghyfreithlon ac nad ydynt yn bodloni rheoliadau ansawdd a diogelwch y DU. Yn aml, gall y cynhyrchion anghyfreithlon hyn fod yn beryglus ac yn niweidiol ac maent yn peri risg llawer mwy na fêps cyfreithlon. Mae adroddiadau newyddion diweddar ar fêps peryglus ac anghyfreithlon wedi dangos y gallant gynnwys cemegion peryglus fel plwm a nicel. Mae lefelau uchel o blwm wedi’i fewnanadlu yn niweidio prif system nerfol a datblygiad ymennydd plant.

Er gwaethaf y risgiau hyn a’n hargymhelliad na ddylai plant fyth fepio, dangosodd ymatebion i’r arolwg Youth vaping: call for evidence yn Lloegr (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023) bod cynhyrchion fepio yn cael eu hyrwyddo yn rheolaidd mewn ffordd sy’n apelio i blant. Roedd hyn yn cynnwys drwy:

  • flasau a disgrifiadau
  • cynhyrchion cyfleus rhad
  • marchnata mewn siopau

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl ifanc sy’n fepio wedi cynyddu’n sylweddol, fel yr adroddwyd gan ASH ar gyfer Prydain Fawr a thrwy’r arolwg Ymddygiad ac agweddau pobl ifanc yng Ngogledd Iwerddon. Canfu adroddiad ASH Use of e-cigarettes among young people in Great Britain bod 81% o’r bobl ifanc 11 i 17 oed sy’n fepio ar hyn o bryd yn dweud bod eu dyfais bob amser neu weithiau’n cynnwys nicotin.

Mae fepio ymhlith pobl ifanc hefyd yn dod yn broblem fyd-eang, â gwledydd ledled y byd yn gweld cynnydd i ddefnydd o fêps ymhlith eu poblogaethau iau. Fel y nodwyd yn y papur gorchymyn, mae llawer o wledydd yn y broses o gryfhau eu mesurau i fynd i’r afael â’r ymchwydd i fepio ymhlith pobl ifanc ac mae’n berygl y byddwn yn dod yn allanolyn rhyngwladol os na fyddwn yn cadw i fyny.

Mae Denmarc, y Ffindir, yr Iseldiroedd ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE wedi gwahardd blasau penodol o e-hylifau. Mae Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg a llawer o wledydd eraill wedi gwneud ymrwymiadau i wahardd fêps tafladwy. Mae Canada wedi gwahardd arddangos cynhyrchion mewn siopau. Mae Awstralia wedi gwahardd fêps oni bai eu bod wedi cael eu rhagnodi gan feddyg teulu. Mae Seland Newydd wedi cyflwyno cyfyngiadau ar ddisgrifiadau o flasau o becynnau fêps. Mae UDA wedi codi oedran gwerthu fêps i 21 oed. Mae Atodiad 2 yn cymharu cyfyngiadau fepio ar draws sawl gwlad.

Yn ein hymgynghoriad, fe wnaethom ofyn cwestiynau am bolisïau sydd â’r potensial i leihau apêl, argaeledd a fforddiadwyedd fepio i blant. Wrth wneud hyn, rydym eisiau sicrhau bod fêps yn dal i fod ar gael fel dull rhoi’r gorau i smygu defnyddiol ar gyfer smygwyr sy’n oedolion o gofio’r niweidiau llai a achosir i smygwyr o fepio. Roedd y polisïau yn cynnwys:

  • cyfyngu ar flasau fêps
  • rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu
  • rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps a’r ffordd mae’r cynnyrch yn cael ei gyflwyno
  • archwilio cyfyngiadau pellach ar gyfer fêps heb nicotin, a chynhyrchion defnyddwyr nicotin eraill, fel bagiau bach nicotin
  • cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu fêps tafladwy
  • gweithredu ar fforddiadwyedd fêps

Cyfyngu apêl ac argaeledd fêps i blant (blasau, arddangosfeydd a phecynnau)

Fel y nodir yn y papur gorchymyn, dangosodd yr alwad am dystiolaeth ar fepio ymhlith pobl ifanc i ni mai blasau yw un o’r prif resymau y mae fêps yn apelio i blant. Ceir amrywiaeth eang ac amrywiol o flasau ar farchnad y DU, llawer â geiriad deniadol (enwau disgrifiadol) a allai ddenu plant i roi cynnig ar fepio.

Mae’r dystiolaeth a gofnodwyd yn ein papur gorchymyn yn dangos bod plant yn cael eu denu at flasau ffrwythau a blasau melys fêps, o ran eu blas a’u harogl, yn ogystal â sut maent yn cael eu disgrifio. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil ar gymorth e-sigréts ar gyfer rhoi’r gorau i smygu gan Brifysgol London South Bank wedi canfod bod tystiolaeth y gall cynhyrchion fepio â blas hefyd helpu oedolion i roi’r gorau i smygu.

Yn wahanol i gynhyrchion tybaco, caniateir i fêps gael eu harddangos yn y man gwerthu ar hyn o bryd. Oherwydd hyn, gall plant weld a phigo fêps i fyny mewn allfeydd manwerthu yn rhwydd gan eu bod wedi’u harddangos ar eiliau, yn agos at losin a chynhyrchion melys ac ar silffoedd hygyrch. Canfu dadansoddiad o ffynonellau tybaco ac e-sigaréts gan Imperial College Llundain gynnydd i’r tebygolrwydd y byddai plant 11 i 18 oed yn sylwi fêps wedi’u harddangos mewn archfarchnadoedd o 57.4% yn 2018 i 66.5% yn 2022. Mewn cyferbyniad, fe wnaeth cyfyngiadau man gwerthu ar dybaco yn Lloegr leihau amlygiad sigaréts mewn siopau i blant. Gostyngodd y tebygolrwydd o blant 11 i 18 oed yn sylwi sigaréts wedi’u harddangos o 67% yn 2018 i 59% yn 2022 mewn archfarchnadoedd. Roedd hyn hefyd yn cyd-daro â gostyngiad i nifer y sigaréts a oedd yn cael eu prynu. 

Yn wahanol i becynnau tybaco, gall pecynnau fêps ddod mewn gwahanol liwiau, steiliau, a siapiau. Gallant gynnwys enwau brand a gwahanol fathau o ddelweddau a fformatio. Gellir dylunio ac arddangos y cynhyrchion eu hunain yn wahanol, mewn ffyrdd a all ddenu plant i ddechrau a pharhau i fepio. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cynhyrchion â lliwiau llachar a delweddau fel cartwnau. Er bod dyfeisiau mod neu danc yn aml wedi’u gorchuddio â phecynnau mwy niwtral, mae hylifau fêp a fêps tafladwy yn cael eu gwerthu a’u marchnata yn rheolaidd mewn amrywiaeth o ddyluniadau â lliwiau llachar. Canfu gwaith ymchwil ar farchnata e-sigaréts fod y pecynnau a’r nodweddion dylunio yn apelio i blant. 

Adborth i’r ymgynghoriad

Cyfyngu ar flasau fêps

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu ar flasau fêps?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am gyfyngu ar flasau fêps:

  • roedd 47% yn cytuno â chyfyngu ar flasau fêps
  • roedd 51% yn anghytuno
  • dywedodd 2% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • mae blasau yn gwneud fêps yn apelgar ac yn ddeniadol i blant neu’r rhai nad ydynt yn smygu
  • gallai blasau losin a ffrwythau annog y rhai nad ydynt yn smygu i fepio, normaleiddio fepio a gallai weithredu fel porth i smygu
  • pwysigrwydd y ffaith fod yr arogl yn ddeniadol
  • pryderon ynghylch ar effaith y mae fêps yn ei chael ar iechyd a’r perygl y bydd plant yn dod yn gaeth i nicotin

O ran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno, y themâu a gododd oedd:

  • pryderon am y cyfyngiadau ar flasau yn effeithio ar roi’r gorau i smygu ac yn arwain at lai o ymdrechion llwyddiannus i roi’r gorau iddi
  • y byddai cyfyngu ar flasau fêps yn achos o’r llywodraeth yn mynd yn rhy bell

Dylid nodi o ran ymatebwyr a oedd yn cytuno â’r cyfyngiadau bod llawer wedi tynnu sylw at yr effaith y gallai cyfyngiadau ar flasau ei chael ar roi’r gorau i smygu. Roedd hyn yn cynnwys tynnu sylw at y ffaith os nad yw blasau sy’n apelio i smygwyr sy’n oedolion ar gael y gallent barhau i smygu, neu ddychwelyd iddo. Ar y llaw arall, cydnabuwyd gan lawer o’r rhai a oedd yn anghytuno â’r cyfyngiadau hefyd bod rhai blasau fêps yn apelio i blant.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 65% yn anghytuno ac roedd mwyafrif yr ymatebion yn canolbwyntio ar effaith negyddol cyfyngu ar flasau ar roi’r gorau i smygu.

Gweithredu cyfyngiadau ar flasau fêps

Cwestiwn

Pa opsiwn neu opsiynau ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig weithredu cyfyngiadau ar flasau?

  • Opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio
  • Opsiwn 2: cyfyngu ar y cynhwysion mewn fêps
  • Opsiwn 3: cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (blas ac arogl)

Ar gyfer y cwestiwn hwn, gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un ateb. O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn, roedd yr ymateb mwyaf cyffredin (30.7%) gan y rhai a ddewisodd ‘opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio’ yn unig. Dilynwyd hwn gan 23.1% o ymatebwyr a oedd yn credu mai pob un o’r 3 opsiwn gyda’i gilydd fyddai’r dull mwyaf effeithiol. Mae Tabl 4 yn rhoi dadansoddiad o’r adborth i’r cwestiwn hwn.

Tabl 4: manylion ar opsiynau a ddewiswyd ar gyfer sut i gyfyngu ar flasau fêps

Opsiynau a ddewiswyd Canran yr ymatebwyr
Opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio yn unig 30.7%
Opsiwn 1, Opsiwn 2 2.6%
Opsiwn 1, Opsiwn 2, Opsiwn 3 23.1%
Opsiwn 1, Opsiwn 2, Opsiwn 3, Ddim yn gwybod 0.1%
Opsiwn 1, Opsiwn 2, Ddim yn gwybod 0.0%
Opsiwn 1, Opsiwn 3 5.6%
Opsiwn 1, Opsiwn 3, Ddim yn gwybod 0.0%
Opsiwn 1, Ddim yn gwybod 0.8%
Opsiwn 2: cyfyngu ar y cynhwysion mewn fêps yn unig 3.4%
Opsiwn 2, Opsiwn 3 3.9%
Opsiwn 2, Opsiwn 3, Ddim yn gwybod 0.0%
Opsiwn 2, Ddim yn gwybod 0.1%
Opsiwn 3: cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (blas ac arogl) yn unig 10.2%
Opsiwn 3, Ddim yn gwybod 0.1%
Ddim yn gwybod 19.4%

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cytuno â’r cwestiwn uchod ar gyfyngu ar flasau fêps yn dueddol o fod eisiau ffyrdd cryfach o weithredu cyfyngiadau ar flasau. Er enghraifft, i’r rhai a oedd:

  • yn cytuno â chyflwyno cyfyngiadau ar flasau fêps, dewisodd 19.3% ‘opsiwn 3: cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (blas ac arogl)’, a dewisodd 48.1% pob un o’r 3 opsiwn wedi’u cyfuno
  • yn anghytuno â chyflwyno cyfyngiadau ar flasau fêps, dewisodd 53.8% ‘opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio’

Yn y blwch testun rhydd yn dilyn y cwestiwn caeedig, fe wnaeth yr ymatebwyr ailbwysleisio a chyfiawnhau eu dewis yn bennaf, â llawer hefyd yn ailadrodd eu hymateb i’r cwestiynau blaenorol. Y prif themâu oedd:

  • bod blasau fêps yn apelio i blant
  • y dylai fod cyfyngiadau marchnata a hysbysebu yn ymwneud â blasau fêps, er enghraifft dylai fod gan bob blas un enw yn unig ac nid amrywiadau a allai apelio i blant
  • y gallai cyfyngiadau ar flasau effeithio ar roi’r gorau i smygu, gydag ymatebwyr yn awgrymu bod blasau yn annog ac yn galluogi ymdrechion i roi’r gorau iddi

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, yr opsiwn mwyaf poblogaidd oedd ‘opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio’ â 61% o’r ymatebwyr hyn yn ffafrio’r opsiwn hwn. Roedd y prif themâu yn cynnwys anghytuno ymhellach â chyfyngu ar flasau a’r effaith negyddol y gallai hyn ei chael ar roi’r gorau i smygu.

Cyfyngiadau ar flasau

Cwestiwn

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu blasau fêps i blant a phobl ifanc?

  • Opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig
  • Opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig
  • Opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig

O’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn:

  • dewisodd 40.6% o’r ymatebwyr ‘opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig’
  • dewisodd 16.8% o’r ymatebwyr ‘opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig’
  • dewisodd 42.6% o’r ymatebwyr ‘opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig’

Roedd y ffordd yr atebwyd y cwestiwn hwn gan yr ymatebwyr wedi’i chysylltu’n agos â sut y gwnaethant ateb y cwestiwn blaenorol am ba un a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â chyfyngu ar flasau fêps. Mae Tabl 5 yn dangos y dadansoddiad o hyn.

Tabl 5: cysylltiad rhwng cytuno ac anghytuno â chyfyngu ar flasau fêps a sut y dylid cyfyngu ar y blasau hyn

Cytuno neu anghytuno Opsiynau Canran yr ymatebwyr
Cytuno Opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig 63.2%
Cytuno Opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig 24.3%
Cytuno Opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig 12.5%
Anghytuno Opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig 7.6%
Anghytuno Opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig 5.4%
Anghytuno Opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig 87%

Sylwer: ni ddangosir y rhai a ymatebodd ‘ddim yn gwybod’ i ba un a ydynt yn cytuno â chyfyngu ar flasau fêps.

O ran ymatebwyr a ddewisodd ‘opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig’, defnyddiwyd y blwch testun rhydd yn bennaf i ailbwysleisio’r safbwynt hwn ac i dynnu sylw at apêl blasau eraill i blant, gyda llawer o ymatebwyr yn nodi y dylid defnyddio fêps fel cymorth i roi’r gorau i smygu yn unig.

O ran ymatebwyr a ddewisodd ‘opsiwn B: tybaco, mintys a menthol’, roedd yr ymatebion yn canolbwyntio ar apêl blasau fêps i blant, gan gynnwys ffrwythau, a’r angen i’r blasau gael eu cyfyngu. Dywedodd rhai bod ychwanegu mintys a menthol yn ddefnyddiol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu.

O ran ymatebwyr a ddewisodd ‘opsiwn C: tybaco, mintys a menthol a ffrwythau’, roedd yr ymatebion yn canolbwyntio’n bennaf ar effaith cyfyngu ar flasau ar roi’r gorau i smygu o ystyried y gallent annog smygwyr sy’n oedolion i newid i fêps. Fodd bynnag, fe wnaeth llawer o ymatebwyr a ddewisodd opsiwn C ddweud bod fêps yn apelio i blant gan awgrymu y gallai cyfyngu ar ddisgrifiadau o fêps a chyfyngiadau pellach ar becynnau a hysbysebu helpu i liniaru hyn.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, yr opsiwn mwyaf poblogaidd oedd ‘opsiwn C: tybaco, mintys, menthol a ffrwythau’, ac roedd 68% o’r ymatebwyr hyn yn ffafrio’r opsiwn hwn. Y brif thema oedd yr effaith y gallai’r cyfyngiadau hyn ei chael ar roi’r gorau i smygu. Fodd bynnag, soniwyd ganddynt hefyd sut y byddai cyfyngu ar flasau fêps yn dal i leihau’r apêl i blant.

Opsiynau blas amgen

Cwestiwn

Ydych chi’n credu bod yna unrhyw opsiynau eraill, o ran blasau, y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am opsiynau blas eraill:

  • dywedodd 18.4% eu bod
  • dywedodd 53.6% nad oeddent
  • dywedodd 28% nad ydynt yn gwybod

Defnyddiodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y blwch testun rhydd i ailbwysleisio eu safbwyntiau ar ba un a ddylid cyfyngu ar flasau, gan gynnwys trafod yr effaith ar roi’r gorau i smygu a sut mae blasau yn apelio i blant. Fodd bynnag, cafwyd rhai awgrymiadau o opsiynau eraill, er enghraifft cyflwyno fêps di-flas a di-arogl, neu flasau annymunol.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, dywedodd 48% eu bod yn meddwl nad oedd unrhyw opsiynau blas eraill y dylid eu hystyried, a dywedodd 27% bod rhai. Ni ddarparwyd esboniadau pellach o opsiynau blas eraill.

Arddangosfeydd yn y man gwerthu

Cwestiwn

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o gyfyngu ar fêps i blant a phobl ifanc?

  • Opsiwn 1: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ac ni chaniateir eu harddangos, fel cynhyrchion tybaco
  • Opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn:

  • dewisodd 68.3% ‘opsiwn 1: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ac ni chaniateir eu harddangos, fel cynhyrchion tybaco’
  • dewisodd 31.7% ‘opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos’

O ran y rhai a ddewisodd ‘opsiwn 1: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ac ni chaniateir eu harddangos, fel cynhyrchion tybaco’, y prif themâu a godwyd yn y blwch testun rhydd oedd:

  • gall arddangosfeydd fêps fod yn ddeniadol ac yn apelgar i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu, ac awgrymodd rhai ymatebwyr y gall yr arddangosfeydd hyn ei gwneud i ymddangos ei bod yn iawn fepio
  • pryderon oherwydd natur gaethiwus nicotin na ddylid hyrwyddo fêps
  • pwysleisio ymhellach nad ddylai fêps gael eu harddangos, gan ddefnyddio’r ddadl allan o olwg, allan o feddwl yn aml
  • y bydd y rhai sy’n defnyddio fêps yn gwybod beth i ofyn amdano, felly nid oes angen eu harddangos

O ran ymatebwyr a ddewisodd ‘opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos’, y prif themâu a gododd oedd:

  • yn debyg i’r uchod, pryderon am y ffaith fod arddangosfeydd presennol yn ddeniadol a phwysleisio ymhellach y dylai fêps fod y tu ôl i’r cownter
  • yr effaith y gallai ei chael ar roi’r gorau i smygu

Ar y thema olaf hon, dywedodd llawer o ymatebwyr bod dal i fod angen i fêps fod yn amlwg ac yn hygyrch i brynwyr sy’n oedolion sydd eisiau prynu fêps fel cymorth i roi’r gorau i smygu. Nodwyd ganddynt hefyd na ddylai fêps fod yn ddarostyngedig i’r un rheolau â chynhyrchion tybaco gan ei fod yn gwneud iddynt ymddangos yr un mor niweidiol yn hytrach na’n gynnyrch llai niweidiol.

Yn ogystal â’r themâu uchod, thema gyffredin gan sefydliadau a gyflwynodd ymatebion oedd ni waeth pa opsiwn a ddewiswyd, bydd cadw fêps y tu ôl i’r cownter yn ei gwneud yn haws i fanwerthwyr wirio oed y cwsmer.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, yr opsiwn mwyaf poblogaidd oedd ‘opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos’, gyda 64% o’r ymatebwyr hyn yn ffafrio’r opsiwn hwn. Roedd y prif themâu yn cynnwys y bydd cyfyngiadau i gadw y tu ôl i’r cownter yn ddefnyddiol i gyfyngu ar fynediad i blant, ond mae angen iddynt fod yn hygyrch i oedolion o hyd fel cymorth i roi’r gorau i smygu a gallai peidio â’u harddangos wneud i fêps ymddangos mor niweidiol â thybaco.

Mesurau eraill o reoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu

Cwestiwn

Os ydych chi’n anghytuno â rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu, pa fesurau eraill y credwch y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

Gadawyd y blwch testun rhydd hwn yn wag gan lawer o ymatebwyr unigol a sefydliadau. Ail-bwysleisiodd llawer o ymatebwyr eraill eu bod yn cefnogi rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu. Fodd bynnag, o’r rhai a wnaeth gynnig opsiynau eraill, y prif awgrymiadau oedd:

  • cyflwyno cynllun cofrestru neu drwyddedu ar gyfer manwerthwyr sy’n gwerthu fêps
  • gwerthu e-hylifau mewn siopau fêps yn unig
  • cyfyngu ar farchnata fêps fel nad ydynt yn weledol i blant

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, dim ond canran fach gwblhaodd y cwestiwn hwn. Roedd y prif themâu yn yr ymatebion hyn yn cynnwys awgrymu cynllun trwyddedu manwerthwyr a chyfyngiadau oed ar gyfer mynediad.

Eithriadau ar gyfer siopau fêps arbenigol

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylid gwneud eithriadau ar gyfer siopau fêps arbenigol?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am wneud eithriadau ar gyfer siopau fêps arbenigol:

  • dywedodd 48.5% eu bod
  • dywedodd 46.1% nad ydynt
  • dywedodd 5.5% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn meddwl y dylai fod eithriadau, y prif themâu a gododd oedd:

  • er bod yr ymatebwyr yn cytuno ag eithriadau, tynnodd llawer sylw at y ffaith y dylai fod cyfyngiadau oed a gwiriadau prawf adnabod ar gyfer mynd i mewn i siopau fêps arbenigol i’w gwneud yn llai hygyrch i blant
  • dylai siopau fêps arbenigol fod yn drwyddedig
  • dylai fod cyfyngiadau marchnata i’r siopau fêps arbenigol sydd wedi’u heithrio, fel nad ydynt yn apelio i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu, er enghraifft cyfyngiadau ar ffryntiau siopau a byrddau marchnata ar y stryd

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd nad ydynt, nid oedd eu hymatebion yn y blwch testun rhydd yn esbonio’n benodol pam roeddent yn meddwl hyn, yn hytrach fe wnaethant ei ddefnyddio i awgrymu cyfyngiadau pellach i leihau apêl fêps i blant. Roedd hyn yn cynnwys:

  • nodi’r angen am gyfyngiadau marchnata a hysbysebu fel nad yw plant yn cael eu hamlygu i fêps ac nad yw cynhyrchion nicotin yn cael eu hyrwyddo
  • awgrymu ffyrdd o leihau mynediad at siopau fêps, er enghraifft trwy gyfyngiad oedran a gwneud trwyddedau yn ofynnol

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 57% yn meddwl y dylai fod eithriadau i siopau fêps arbenigol. Roedd y prif themâu yn cynnwys awgrymu y dylai fod cyfyngiadau oedran ar gyfer mynd i mewn iddynt i leihau mynediad ar gyfer plant.

Cyfyngu pecynnau fêps a’r ffordd y’u cyflwynir

Cwestiwn

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu’r ffordd y gellir pecynnu a chyflwyno fêps i leihau fepio ymhlith pobl ifanc?

  • Opsiwn 1: gwahardd y defnydd o gartwnau, cymeriadau, anifeiliaid, gwrthrychau difywyd a delweddau eraill sy’n atyniadol i blant, ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Byddai hyn yn dal i ganiatáu’r defnydd o liwiau a dyluniadau penodol i frand
  • Opsiwn 2: gwahardd y defnydd o bob delwedd a lliw ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps ond dal i ganiatáu’r defnydd o frand fel logos ac enwau
  • Opsiwn 3: gwahardd y defnydd o bob delwedd, lliw a brand (deunyddiau pecynnu safonol) ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps

Yr opsiwn mwyaf poblogaidd ymhlith yr holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn oedd Opsiwn 3: gwahardd y defnydd o bob delwedd, lliw a brand (deunyddiau pecynnu safonol) ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Mae Tabl 6 yn dangos dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd i’r cwestiwn hwn.

Tabl 6: adborth ar gyfyngu pecynnau fêps a’r ffordd y’u cyflwynir

Opsiwn a ddewiswyd Canran yr ymatebwyr
Opsiwn 1: gwahardd y defnydd o gartwnau, cymeriadau, anifeiliaid, gwrthrychau difywyd a delweddau eraill sy’n atyniadol i blant, ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Byddai hyn yn dal i ganiatáu’r defnydd o liwiau a dyluniadau penodol i frand 35.8%
Opsiwn 2: gwahardd y defnydd o bob delwedd a lliw ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps ond dal i ganiatáu’r defnydd o frand fel logos ac enwau 18.2%
Opsiwn 3: gwahardd y defnydd o bob delwedd, lliw a brand (deunyddiau pecynnu safonol) ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps 46.1%

Ni waeth pa opsiwn a ddewiswyd gan yr ymatebwr, thema gyffredin ar draws yr holl flychau testun am ddim oedd bod pecynnau presennol fêps yn apelio i blant a bod angen gweithredu i leihau’r atyniad hwn.

O ran yr ymatebwyr a ddewisodd opsiwn 1, tynnodd yr ymatebwyr sylw at apêl cartwnau i blant a’r angen i gael gwared ar y dyluniadau hyn.

O ran yr ymatebwyr a ddewisodd opsiwn 2, yn ogystal â’r pwyntiau a nodir uchod, galwodd yr ymatebwyr i liwiau safonol gael eu defnyddio ar becynnau. Nododd rhai bod y lliwiau presennol yn rhy drawiadol i blant ac y bydd cael gwared arnynt yn lleihau’r dybiaeth o fêps fel ychwanegiad ffasiwn. Nododd ymatebwyr hefyd y gallai caniatáu rhywfaint o frandio helpu oedolion i ddewis pa fêps i’w defnyddio wrth roi’r gorau i smygu.

O ran y rhai a ddewisodd opsiwn 3, roedd y prif themâu yn amlygu sut mae’r pecynnau presennol yn apelio i blant a’r angen am becynnau safonol i fynd i’r afael â hyn, gyda llawer yn dweud y dylai’r pecynnau fod yn gyson â chynhyrchion tybaco.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, yr opsiwn mwyaf poblogaidd oedd opsiwn 1, â 63% o’r ymatebwyr hyn yn ffafrio’r opsiwn hwn. Roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • y pwysigrwydd o ddewis i oedolion sy’n defnyddio fêps fel dull o roi’r gorau i smygu, gan gynnwys mynegi cefnogaeth i gadw logos a brandio
  • amlygu y dylid gwneud y pecynnau yn llai deniadol neu apelgar i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu

Mesurau eraill yn hytrach na rheoleiddio pecynnau fêps

Cwestiwn

Os ydych chi’n anghytuno â rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps, pa fesurau eraill y credwch y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

Roedd y prif themâu gan yr holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cynnwys:

  • cyfyngiadau ar hysbysebu a marchnata wedi’u hanelu at blant neu bobl ifanc
  • cyflwyno cynllun trwyddedu i fanwerthwyr allu gwerthu fêps
  • darparu rhagor o wybodaeth a chymorth i bobl ifanc
  • gwahardd fêps tafladwy
  • gorfodi’r rheoliadau presennol yn well
  • cyfyngu gwerthu i siopau fêps arbenigol â chyfyngiad oedran i fynd i mewn iddynt

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • gorfodi’r rheoliadau presennol yn well
  • cyfyngu lle mae fêps yn cael eu gwerthu i siopau fêps arbenigol neu gyflwyno cynllun trwyddedu
  • gwahardd fêps tafladwy

Ymateb y llywodraeth

Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi ymrwymo i gael yr effaith fwyaf posibl i leihau fepio ymhlith pobl ifanc. Mae’r adborth o’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth i bolisïau i reoleiddio blasau fêps, arddangosfeydd yn y man gwerthu, a phecynnau a chyflwyniad cynhyrchion.

Felly, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth, gan weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, a fyddai’n galluogi blasau fêps, pecynnau ac arddangosfeydd yn y man gwerthu i gael eu rheoleiddio ar draws y DU.

O ran pob un o’r mesurau, trafododd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn aml am risg o gynyddu’r farchnad anghyfreithlon a byddwn yn gweithio’n agos gydag asiantaethau gorfodi i liniaru’r risg hon. Fe wnaethant hefyd godi’r angen am gynllun trwyddedu, ond rydym yn ystyriol o’r effeithiau a’r baich ar fusnes ac awdurdodau lleol ac felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer manwerthwyr.

Yn Lloegr, rydym eisoes yn darparu cymorth i asiantaethau gorfodi trwy ddarparu £30 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer gorfodi a chyflwyno dirwyon yn y fan a’r lle am werthu cynhyrchion tybaco a fêps i bobl dan oed. Cyfrifoldeb y gweinidogion datganoledig perthnasol yw dyrannu cyllid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae risgiau wrth gwrs, o gyflwyno rheoliadau i gyfyngu ar fêps, bod niweidion fepio yn cael eu hystyried yr un faint â niweidion smygu. Fodd bynnag, bydd y cyfyngiadau newydd hyn ar fêps yn cael eu gwneud ochr yn ochr â mesurau caletach fyth ar dybaco, a fydd yn arwain yn y pen draw at gael gwared yn raddol ar gynhyrchion tybaco yn gyfan gwbl.

Cynigiodd rhai ymatebwyr y dylai’r llywodraeth sicrhau bod fêps yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn unig. Nid oes unrhyw gynlluniau presennol i wneud hyn, ond mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn barod i gefnogi cynnyrch fepio wedi’i drwyddedu’n feddyginiaethol yn y dyfodol, os bydd y diwydiant yn cyflwyno ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r MHRA yn parhau i ddarparu cyngor technegol a gwyddonol i gwmnïau sydd â diddordeb mewn datblygu fêps meddyginiaethol.

Byddai gofynion cyfreithiol pellach yn cael eu gwneud trwy offerynnau statudol, yn amodol ar basio’r ddeddfwriaeth. Cyn gwneud rheoliadau o dan y ddeddfwriaeth, byddwn yn cynnal ymgynghoriad pellach ac asesiad effaith llawn o unrhyw fesurau.

Rheoleiddio fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr

Mae’r rhan fwyaf o fêps a werthir yn y DU yn cynnwys nicotin. Mae pob fêp sy’n cynnwys nicotin yn y DU yn dod o dan Reoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016. Caiff fêps heb nicotin eu cwmpasu gan Reoliadau Diogelwch Cynhyrchion Cyffredinol 2005. Mae’r Rheoliadau Diogelwch Cynhyrchion Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyd sicrhau mai dim ond cynhyrchion diogel sy’n cael eu rhoi ar y farchnad, ynghyd ag unrhyw rybuddion angenrheidiol ar gyfer defnyddio’r cynnyrch yn ddiogel.

Prin iawn yw’r wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ar gyfran marchnad lawn fêps heb nicotin. Fodd bynnag, mae data a ddarparwyd gan y cwmni mesur y farchnad Nielsen yn dangos y gwerthwyd gwerth cyfanswm o £575,000 o gynhyrchion heb nicotin mewn archfarchnadoedd a siopau cyfleustra ym Mhrydain Fawr yn y 26 wythnos hyd at 1 Gorffennaf 2023. Nid yw’r data hyn yn cynnwys siopau fêps pwrpasol nac ar-lein, lle mae’r rhan fwyaf o fêps llenwad byr heb nicotin yn cael eu gwerthu yn ôl Cymdeithas Busnes Fêps Annibynnol Prydain.

Felly, yn y DU, nid yw fêps heb nicotin yn ddarostyngedig i’r un safonau cynnyrch â fêps nad ydynt yn cynnwys nicotin ac nid ydynt, ac eithrio yn yr Alban, yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau oedran. Mae cyfyngiadau oedran yr Alban ar gyfer fêps heb nicotin yn cael eu gweithredu o dan Ddeddf Iechyd (Tybaco, Nicotin ac ati a Gofal) (Yr Alban) 2016.

Mae adroddiad ASH Use of e-cigarettes among young people in Great Britain yn dangos yn eglur bod pobl ifanc yn defnyddio fêps heb nicotin ym Mhrydain Fawr. Yn rhyngwladol, mae tua 30 o wledydd wedi gwahardd gwerthu fêps heb nicotin, ac mae 50 o wledydd eraill yn caniatáu iddynt gael eu gwerthu ond gyda chyfyngiadau oedran. Ym mis Mai 2023, cyflwynodd Prif Weinidog y DU ymrwymiad y llywodraeth i adolygu’r rheolau ar werthu fêps heb nicotin i bobl dan 18 oed i sicrhau bod ein rheolau yn cadw i fyny â sut y mae fêps yn cael eu defnyddio. O dan y cynigion hyn, byddai fêps heb nicotin yn cael eu rheoleiddio o dan fframwaith tebyg i fêps nicotin.

Ceir cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr ar farchnad y DU fel bagiau bach nicotin. Yn yr un modd â fêps heb nicotin, nid ydynt yn cael eu rheoleiddio o dan y Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig chwaith, ond o dan y Rheoliadau Diogelwch Cynhyrchion Cyffredinol. Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran gwerthu yn y DU chwaith, ond mae gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon bwerau deddfu presennol i gyflwyno’r rhain ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffai Llywodraeth yr Alban ei gyflwyno.

Mae astudiaeth ddiweddar ar fagiau bach nicotin yn awgrymu er bod defnydd o fagiau bach nicotin yn isel ymhlith oedolion (0.26% neu 1 o bob 400 o ddefnyddwyr ym Mhrydain Fawr), mae’n gynyddol boblogaidd ymhlith dynion iau. Roedd yr alwad am dystiolaeth ar fepio ymhlith pobl ifanc yn cynnwys sylwadau am blant yn defnyddio bagiau bach nicotin ond mae’r data ar blant yn eu defnyddio yn brin. O dan y cynigion hyn, byddem yn rheoleiddio cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr o dan fframwaith tebyg i fêps nicotin.

Adborth i’r ymgynghoriad

Cyfyngiadau ar flasau e-hylif heb nicotin

Cwestiwn

Ydych chi’n credu y dylid hefyd cynnwys e-hylif heb nicotin, er enghraifft e-hylifau llenwad byr (shortfills), mewn cyfyngiadau ar flasau fêps?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am gyfyngu ar e-hylif heb nicotin:

  • dywedodd 40.9% eu bod
  • dywedodd 47.2% nad ydynt
  • dywedodd 11.8% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod, roedd y prif themâu a gododd yn cynnwys:

  • ailbwysleisio eu cred bod angen cysondeb â fêps nicotin, â llawer yn nodi y byddai’n gwneud gorfodi yn symlach ac yn osgoi dryswch ynghylch rheoliadau
  • amlygu sut y byddai’r cysondeb hwn yn osgoi diangfeydd mewn rheoliadau marchnata a hysbysebu, ac yn atal y posibilrwydd o ychwanegu nicotin â llaw at e-hylifau blas
  • pryderon ynghylch yr effaith y gallai e-hylif heb nicotin ei chael ar iechyd

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd nad ydynt, y brif thema a oedd yn codi oedd pryderon ynghylch yr effaith y gallai hyn ei chael ar roi’r gorau i smygu. Dywedodd llawer o ymatebwyr bod fêps yn gymorth defnyddiol i roi’r gorau i smygu ac y gallai pobl ddychwelyd i smygu os caiff fêps eu cyfyngu. Roedd hyn yn cynnwys na ddylid cyfyngu opsiynau i smygwyr sy’n oedolion sy’n dymuno rhoi’r gorau iddi.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 61% yn meddwl na ddylid cynnwys e-hylifau heb nicotin mewn cyfyngiadau ar flasau fêps. Defnyddiwyd y blwch testun rhydd i ailbwysleisio’r safbwynt hwn ac i amlygu pryderon am yr effaith negyddol y gallai ei chael ar roi’r gorau i smygu.

Tystiolaeth o niweidiau fêps heb nicotin neu’r defnydd ohonynt

Cwestiwn

Oes gennych unrhyw dystiolaeth y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried o ran niwed cysylltiedig â fêps heb nicotin neu’r defnydd ohonynt?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am ba un a oedd ganddynt dystiolaeth yn ymwneud â niweidiau fêps heb nicotin neu’r defnydd ohonynt y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried:

  • dywedodd 17.8% bod ganddynt
  • dywedodd 62.4% nad oedd ganddynt
  • dywedodd 19.8% nad ydynt yn gwybod

Mae’n bwysig nodi mai diben y cwestiwn hwn oedd casglu tystiolaeth ac ni ddylid dehongli’r ffigurau fel cynrychiolaeth o ba un a oedd yr ymatebwyr yn meddwl bod fêps heb nicotin yn niweidiol.

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd bod ganddynt dystiolaeth, y themâu allweddol a gododd oedd:

  • effaith fêps hab nicotin ar iechyd, yn enwedig yr effaith y mae’r cemegion yn ei chael ar iechyd anadlol ac amlygu’r effeithiau hirdymor anhysbys
  • swyddogaeth fêps o ran rhoi’r gorau i smygu a’r effaith negyddol y gallai gwahardd fêps heb nicotin ei chael ar hyn, gyda rhai ymatebwyr yn amlygu bod fêps yn llai niweidiol na sigaréts ac yn rhannu profiadau personol o iechyd gwell ers newid o smygu i fepio
  • apêl fêps i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu, a gwnaed galwad am gyfyngiadau pellach ar fêps heb nicotin i sicrhau nad yw plant yn cael mynediad atynt

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd nad oedd ganddynt dystiolaeth, defnyddiodd rhai y blwch testun rhydd i fynegi eu safbwyntiau cyffredinol ar fêps heb nicotin yn hytrach na thystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys eu barn ar effaith fêps heb nicotin ar iechyd a rhoi’r gorau i smygu.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd yr ymatebion yn gymysg. Roedd y prif themâu a godwyd yn cynnwys yr effaith ar iechyd, eu swyddogaeth o ran rhoi’r gorau i smygu, eu hapêl i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu a’r llywodraeth yn mynd yn rhy bell.

Rheoleiddio fêps heb nicotin

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig reoleiddio fêps heb nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am ba un a ddylem reoleiddio fêps heb nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin:

  • dywedodd 59.6% y dylem
  • dywedodd 32.7% na ddylem
  • dywedodd 7.8% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd y dylem, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • mae fêps heb nicotin yn apelio i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu
  • gall fêps heb nicotin ddal i gael effaith negyddol ar iechyd oherwydd mewnanadliad sylweddau
  • angen am gysondeb â pholisïau ar gyfer sylweddau eraill gan y byddai hyn yn cynorthwyo dealltwriaeth y cyhoedd
  • cael gwared ar y posibilrwydd o greu eithriadau gan y gallai gweithgynhyrchwyr a masnachwyr fêps ddefnyddio’r rhain fel dihangfa, er enghraifft wrth hyrwyddo fêps

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd na ddylem, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • y rhan bwysig y mae fêps heb nicotin yn ei chwarae o ran rhoi’r gorau i smygu, yn enwedig o ran torri’r arfer ‘llaw i’r geg’ heb gymryd nicotin, a’r effaith gadarnhaol ar iechyd smygwyr sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi
  • awgrymiadau y byddai’r cyfyngiadau hyn yn golygu bod y llywodraeth yn mynd yn rhy bell, ac y gallai cyfyngiadau effeithio ar nifer y smygwyr sy’n dymuno rhoi’r gorau iddi fyddai’n manteisio

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, atebodd 56% y dylem i’r cwestiwn hwn. Roedd yr ymatebion a ddarparwyd yn gymysg ac roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • mae fêps heb nicotin yn apelio i blant a’r rhai nad ydynt yn smygu
  • mae fêps heb nicotin yn effeithio ar iechyd
  • angen am bolisïau sy’n gyson â sylweddau eraill
  • eithriadau posibl
  • y llywodraeth yn mynd yn rhy bell

Tystiolaeth ar niweidiau cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr neu’r defnydd ohonynt

Cwestiwn

Oes gennych unrhyw dystiolaeth y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried o ran niwed cysylltiedig â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin neu’r defnydd ohonynt?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn ar ba un a oedd ganddynt dystiolaeth yn ymwneud â niweidiau cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr neu’r defnydd ohonynt:

  • dywedodd 21.9% bod ganddynt dystiolaeth
  • ni ddarparodd 58.4% unrhyw dystiolaeth
  • dywedodd 19.7% nad ydynt yn gwybod

Roedd y prif themâu gan yr ymatebwyr a ddywedodd bod ganddynt dystiolaeth yn cynnwys:

  • amlygu bod bagiau bach nicotin yn cael eu marchnata’n gynyddol at blant
  • pryderon am niweidiau iechyd nicotin, gan gynnwys ei natur gaethiwus a’r cysylltiad posibl rhwng rhai cynhyrchion ac iechyd y geg
  • tystiolaeth ar bwysigrwydd cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr ar gyfer rhoi’r gorau i smygu

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, dim ond nifer fach o ymatebwyr ychwanegodd wybodaeth at y blwch testun rhydd. Roedd y prif awgrymiadau yn canolbwyntio ar y ffaith fod cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr yn llai niweidiol na sigaréts ac yn ddefnyddiol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu.

Rheoleiddio cynhyrchion nicotin i ddefnyddwyr

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig reoleiddio cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am reoleiddio cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin:

  • dywedodd 52.9% eu bod
  • dywedodd 29.4% nad ydynt
  • dywedodd 17.7% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod, y prif themâu a gododd oedd:

  • ail-bwysleisio cefnogaeth bod angen rheoleiddio pob cynnyrch nicotin, gan gynnwys cynhyrchion nicotin newydd, a sicrhau bod y rheoliad wedi’i ddiogelu at y dyfodol os bydd cynhyrchion nicotin newydd yn cyrraedd y farchnad
  • effaith nicotin ar iechyd gan ei fod yn dal i fod yn niweidiol ac yn gaethiwus
  • er eu bod yn cytuno y dylai fod rheoliadau, roedd rhai ymatebwyr yn dal i dynnu sylw at y ffaith eu bod yn ddefnyddiol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd nad ydynt, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • pryderon y byddai’r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar roi’r gorau i smygu gan y gall y cynhyrchion eraill i ddefnyddwyr hyn fod yn gymorth defnyddiol i roi’r gorau iddi
  • awgrymiadau y byddai’r cyfyngiadau hyn yn golygu bod y llywodraeth yn mynd yn rhy bell, gan gyfyngu dewis rhydd unigolyn

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 47% yn meddwl y dylid rheoleiddio cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr o dan fframwaith tebyg i fêps nicotin, gyda 42% yn ateb nad ydynt i’r cwestiwn hwn. Roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • trafodaethau ynghylch niwed cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
  • pwysigrwydd cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr o ran rhoi’r gorau i smygu
  • y syniad bod y llywodraeth yn mynd yn rhy bell

Ymateb y llywodraeth

Er bod y farchnad ar gyfer fêps nicotin yn ffracsiwn o’r farchnad fêps gyffredinol ar hyn o bryd, mae’r defnydd o fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr yn cynyddu ymhlith pobl ifanc a dynion iau. Mae’r adborth i’r ymgynghoriad hwn yn dangos cefnogaeth eang i reoleiddio fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i fêps nicotin. Bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cyflwyno amrywiaeth o bwerau gwneud rheoliadau i amddiffyn pobl ifanc rhag y cynhyrchion hyn.

O ran fêps heb nicotin, bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi cyfyngiadau oedran gwerthu i’r rhai sy’n 18 oed neu’n hŷn, yn gwahardd prynu’r cynhyrchion hyn gan bobl eraill i’r rhai sy’n iau na 18 oed ac yn gwahardd dosbarthiad y cynhyrchion hyn am ddim (er enghraifft, samplau). Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu cyflwyno rheoliadau a fydd yn ymestyn yr holl gyfyngiadau hyn i gynhyrchion nicotin eraill (er enghraifft, bagiau bach).

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu cynnwys fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr yng nghwmpas rheoliadau yn y dyfodol i:

  • gyfyngu ar flasau
  • cyfyngu arddangosfeydd yn y man gwerthu a phecynnau a chyflwyniad cynhyrchion
  • galluogi hysbysiadau cosb benodedig i gael eu cyflwyno yn rhan o gamau gorfodi
  • atal y potensial ar gyfer diangfeydd a allai danseilio ein cenhadaeth ehangach i leihau apêl a hygyrchedd fêps i blant

Bydd hyn yn golygu bod pob cynnyrch nicotin i ddefnyddwyr a fêps heb nicotin yn cael eu cynnwys o dan fframwaith rheoleiddio tebyg. Cyn gwneud unrhyw reoliadau, byddai asesiad o effaith y ddeddfwriaeth arfaethedig ac ymgynghori pellach.

Cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu cynhyrchion fepio tafladwy

Mae’r defnydd o gynhyrchion fepio tafladwy (y cyfeirir atynt weithiau fel fêps untro) wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Canfu adroddiad ASH Use of e-cigarettes among adults in Great Britain fod 31% o ddefnyddwyr fêps sy’n oedolion yn defnyddio rhai tafladwy yn bennaf yn 2023 o’i gymharu â 2.3% yn 2021.

Nid oes modd ailwefru nac ail-lenwi fêps tafladwy ac fe’u teflir pan fyddant yn rhedeg allan o wefr neu e-hylif. Maent yn cynnwys:

  • plastig
  • copr
  • rwber
  • batris lithiwm

Gallwch ailgylchu rhai rhannau o fêp tafladwy os cânt eu gwahanu a’u trin yn gywir, fel y batri. Ond nid yw’n hawdd ailgylchu darnau eraill, fel darnau rwber. O dan y cynigion hyn, gallai gwerthu a chyflenwi fêps tafladwy gael eu cyfyngu.

Pan gânt eu taenu fel sbwriel, mae fêps tafladwy yn cyflwyno plastig, halen nicotin, metelau trwm, plwm, mercwri a batris ïon lithiwm fflamadwy i’r amgylchedd naturiol. Mae hyn yn halogi dyfrffyrdd a phridd, gan beri risg i’r amgylchedd ac iechyd anifeiliaid.

Mae fêps tafladwy yn peri risg o dân pan nad ydynt yn cael eu casglu ar wahân i’w hailgylchu’n arbenigol, gan y gall batris ïon lithiwm fynd ar dân pan fyddant yn cael eu gwasgu mewn cerbyd sbwriel neu mewn gweithfeydd prosesu gwastraff.

Hefyd, mae fêps tafladwy wedi cael eu cysylltu â chynnydd cyflym i nifer y bobl ifanc sy’n fepio, yn enwedig oherwydd eu pris isel.

Gofynnodd yr ymgynghoriad gwestiynau am werthu a chyflenwi fêps tafladwy a pha un a ddylid eu cyfyngu.

Adborth i’r ymgynghoriad

Cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai fod cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am gyfyngu ar fêps tafladwy:

  • roedd 79.6% yn cytuno y dylai fod cyfyngiadau
  • roedd 18% yn anghytuno
  • dywedodd 2.4% nad ydynt yn gwybod

Ni waeth sut yr atebodd yr ymatebwyr y cwestiwn caeedig, y themâu cyffredin a gododd yn y blychau testun rhydd oedd pryderon am effaith amgylcheddol fêps tafladwy neu y dylai fod gwelliannau i ailgylchu fêps.

O ran yr ymatebion a oedd yn cytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • gwaharddiad ar bob fêp tafladwy
  • mae fêps tafladwy yn rhatach ac yn fwy apelgar i blant a phobl ifanc
  • dylid gwerthu fêps mewn siopau arbenigol â thrwydded yn unig
  • dylid gwahardd mewnforion hefyd

O ran yr ymatebion a oedd yn anghytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • dylai fêps ddal i fod ar gael fel teclyn rhoi’r gorau i smygu
  • y dylai rheoliadau presennol gael eu gorfodi’n well

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 64% yn meddwl y dylai fod cyfyngiadau ar fêps tafladwy. Roedd y prif themâu yn awgrymu y dylid cyfyngu gwerthiant fêps i siopau fêps arbenigol neu siopau â thrwydded i werthu fêps. Pwysleisiodd y grŵp hwn hefyd y defnydd o fêps tafladwy fel teclyn rhoi’r gorau i smygu a’r angen i gynyddu gorfodaeth o reoliadau presennol.

Gwahardd gwerthu a chyflenwi fêps tafladwy

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai cyfyngiadau ar fêps tafladwy fod ar ffurf gwahardd eu gwerthu a’u cyflenwi?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am wahardd gwerthu a chyflenwi fêps tafladwy:

  • roedd 69% yn cytuno
  • roedd 26.2% yn anghytuno
  • dywedodd 4.9% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • niweidiau amgylcheddol, gan gynnwys yr angen i leihau gwastraff plastig a batris
  • pryderon bod fêps tafladwy yn apelio i blant
  • dylid gwerthu fêps y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na fêps tafladwy ac ystyrir nad yw’r olaf yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu

O ran y rhai a oedd yn anghytuno, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • awgrymiadau y dylai fêps tafladwy gael eu gwerthu mewn siopau arbenigol yn unig
  • galwadau am fwy o gyfleusterau ailgylchu, cymhellion a gwybodaeth
  • amlygu y dylai smygwyr barhau i gael mynediad at fêps fel teclyn rhoi’r gorau i smygu

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 54% yn meddwl y dylai cyfyngiadau fod ar ffurf gwahardd eu gwerthu a’u cyflenwi. Roedd y prif themâu a gododd yn eang iawn ac yn mynd y tu hwnt i gwmpas y cwestiwn. Roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • cyfyngu mynediad at fêps, gan gynnwys trwy werthu mewn siopau fêps arbenigol yn unig
  • pryderon am effaith amgylcheddol fêps tafladwy, gan gynnwys awgrymiadau y dylai fod mwy o gyfleusterau ailgylchu
  • yr angen i fêps barhau i fod ar gael fel dull i helpu i roi’r gorau i smygu, yn enwedig fêps y gellir eu hail-wefru neu eu hail-ddefnyddio
  • pryderon am dwf marchnadoedd anghyfreithlon

Cynhyrchion eraill neu ddisgrifiadau o gynhyrchion

Cwestiwn

Oes unrhyw fathau eraill o gynnyrch neu ddisgrifiadau o gynnyrch y dylid eu cynnwys yn y cyfyngiadau hyn yn eich barn chi?

Roedd y prif themâu gan ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cynnwys:

  • sicrhau cysondeb trwy gyfyngu ar bob cynnyrch tybaco a nicotin neu gynhyrchion tybaco a nicotin eraill, er enghraifft gwahardd cynhyrchion tybaco defnydd untro
  • gwahardd fêps tafladwy

Er nad oedd yn gysylltiedig â’r cwestiwn hwn yn uniongyrchol, fe wnaeth ymatebwyr hefyd ddefnyddio’r blwch testun rhydd i godi materion yn ymwneud â niweidiau amgylcheddol fêps tafladwy a’r effaith ar iechyd.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd y prif themâu yn ymwneud â:

  • gwahardd fêps tafladwy
  • cynyddu camau gweithredu a gymerir ar gynhyrchion anghyfreithlon
  • cefnogaeth i gynyddu argaeledd cynhyrchion eraill sy’n cynnwys nicotin
  • safoni cynhyrchion defnydd untro

Defnyddiodd yr ymatebwyr â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco y blwch testun rhydd i godi materion yn ymwneud â gorfodi rheoliadau presennol hefyd.

Cyfnod gweithredu

Cwestiwn

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai cyfnod gweithredu ar gyfer cyfyngiadau ar fêps tafladwy fod yn ddim llai na 6 mis ar ôl i’r gyfraith gael ei chyflwyno?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn y dylai unrhyw gyfnod gweithredu fod yn ddim llai na 6 mis:

  • roedd 59.5% yn cytuno
  • roedd 25.8% yn anghytuno
  • dywedodd 14.7% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a oedd yn cytuno, y brif thema yn yr ymatebion oedd bod gweithgynhyrchwyr, busnesau, manwerthwyr a defnyddwyr i gyd angen amser i addasu i’r newidiadau ac felly ni ddylai fod yn llai na 6 mis.  

O ran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno, fe wnaethant alw’n bennaf i’r cyfyngiadau ddod i rym cyn gynted â phosibl neu ar unwaith, ac roedd llawer yn teimlo bod 6 mis yn ddigonedd o amser i baratoi ar gyfer gweithredu. Fodd bynnag, fe wnaeth rhai alw am gyfnod sylweddol hwy na 6 mis sy’n awgrymu nad oeddent wedi deall y cwestiwn. Ailbwysleisiodd eraill eu bod yn anghytuno â gwahardd gwerthu a chyflenwi fêps tafladwy.

Er nad yw’n gysylltiedig â’r cwestiwn hwn yn uniongyrchol ac ni waeth a oedd pobl yn cytuno neu’n anghytuno â’r cyfnod gweithredu, thema gyffredin drwy’r ymatebion oedd yr angen i gau’r ddihangfa yn ein cyfreithiau sy’n caniatáu i fanwerthwyr roi samplau fêps am ddim.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd 58% yn cytuno y dylai’r cyfnod gweithredu fod yn ddim llai na 6 mis. Y prif themâu oedd:

  • galwadau am gyfnod gweithredu hwy na 6 mis
  • yr angen i werthu stoc bresennol
  • amser i ganiatáu i gynhyrchion gyd-fynd â safonau cynnyrch eraill a allai fod yn newid
  • amser ar gyfer ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y cyfyngiadau

Mesurau eraill

Cwestiwn

Oes camau eraill a fyddai’n ofynnol, ochr yn ochr â’r cyfyngiadau ar gyflenwi a gwerthu fêps tafladwy, i sicrhau bod y polisi yn effeithiol o ran gwella deilliannau amgylcheddol?

Roedd y prif themâu gan ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn cynnwys awgrymiadau ynghylch ailgylchu a gwaredu, er enghraifft:

  • dylai’r diwydiant tybaco dalu i gael gwared ar gynhyrchion gwastraff tybaco
  • dylai’r diwydiant dalu am ailgylchu fêps
  • mwy o hyrwyddo cynlluniau ailgylchu neu fwy o safleoedd ailgylchu
  • biniau gwaredu diogel ar gyfer batris

Cafwyd awgrymiadau hefyd ynghylch gorfodi’r cyfyngiadau, er enghraifft dirwyon a chosbau mwy am daflu sbwriel, mewnforion, gwerthu anghyfreithlon a masnach anghyfreithlon.

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, roedd y prif themâu yn cynnwys:

Ymateb y llywodraeth

Mae’r adborth i’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth eang i wahardd gwerthu a chyflenwi fêps tafladwy.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion sy’n cynnwys nicotin a heb nicotin gan fod y pryderon amgylcheddol yn bodoli i’r ddau fath o gynnyrch. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i archwilio gwaharddiad ar fewnforion.

Bydd unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei datblygu yn caniatáu cyfnod gweithredu o 6 mis o leiaf, sy’n cymryd pryderon y bydd y diwydiant angen amser i addasu i ystyriaeth.

Mae swyddogion Gogledd Iwerddon yn cydnabod y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a byddant yn ystyried deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol.

Bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio cyn belled â phosibl i sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu’n gyson.

Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at angen i ganolbwyntio ar wella systemau rheoli gwastraff ac ailgylchu ar gyfer cynhyrchion fêp. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ystyried hyn yn rhan o ymgynghoriad ar ddiwygio’r system cyfrifoldeb y cynhyrchydd am gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gyhoeddwyd ar 28 Rhagfyr 2023. Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi’r ymateb hwnnw maes o law.

Rydym yn cydnabod dadleuon a godwyd yn yr ymgynghoriad bod fêps tafladwy yn gymorth rhoi’r gorau i smygu i oedolion a hefyd yn apelio i blant. Mae’r ddadl dros weithredu wedi’i chydbwyso’n agos felly. Fodd bynnag, rydym wedi’n perswadio bod gweithredu yn angenrheidiol o ran fêps tafladwy, nid yn unig oherwydd materion amgylcheddol ond hefyd pris isel a chyfleustod y cynhyrchion hyn. Bydd gan oedolion fynediad at fêps nad ydynt yn rhai tafladwy o hyd i’w cynorthwyo i roi’r gorau i smygu, ond bydd gwahardd fêps tafladwy yn effeithio ar fforddiadwyedd a mynediad i blant.

Fforddiadwyedd cynhyrchion fepio

Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng pris fêps a chynhyrchion tybaco ar hyn o bryd, yn rhannol gan fod fêps yn destun TAW yn unig, tra bod tybaco yn cynnwys TAW a tholl gartref. Mae canllawiau ar ardrethi a lwfansau ar gyfer y Doll Cynhyrchion Tybaco yn amcangyfrif toll gartref o £8.46 o leiaf ar baced o 20 o sigaréts. Mae’r gwahaniaeth pris hwn yn bwysig gan y gall annog smygwyr i newid o sigaréts i fêps. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod fêps ar gael yn fwy parod i bobl ifanc a phobl eraill nad ydynt yn smygu, yn enwedig dyfeisiau tafladwy ac y gellir eu hail-lenwi.

Archwiliodd yr ymgynghoriad a fyddai newid i’r pris yn lleihau nifer y plant sy’n defnyddio cynhyrchion fepio.

Adborth i’r ymgynghoriad

Cwestiwn

Ydych chi’n meddwl y byddai cynnydd ym mhris fêps yn lleihau nifer y bobl ifanc sy’n fepio?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am ba un a fyddai cynyddu pris fêps yn lleihau nifer y bobl ifanc sy’n fepio:

  • dywedodd 42.2% eu bod
  • dywedodd 50.4% nad ydynt
  • dywedodd 7.4% nad ydynt yn gwybod

O rannu’r data fesul grŵp oedran, mae 70.2% o bobl ifanc 15 i 17 oed a 73.5% o bobl ifanc 13 i 14 oed a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn meddwl y byddai cynnydd i’r pris yn gwneud gwahaniaeth.

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • byddai cynyddu prisiau yn gwneud fêps yn llai fforddiadwy i bobl ifanc ac yn lleihau mynediad at fêps - roedd awgrymiadau yn cynnwys cynnydd i brisiau fêps tafladwy, gan fod y cynhyrchion hyn yn apelio i bobl ifanc ac y gallai hyn eu cymell i ddefnyddio fêps amldro
  • yr angen i gydbwyso cynnydd i brisiau sy’n gweithredu fel rhwystr, gyda sicrhau bod fepio yn dal i fod yn opsiwn mwy fforddiadwy na smygu, i annog oedolion sy’n smygwyr i newid
  • er bod yr ymatebwyr yn cytuno y byddai cynyddu prisiau yn gwneud gwahaniaeth, roedd pryderon am effeithiolrwydd codi prisiau ac awgrymiadau y byddai mesurau eraill, ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad, yn fwy effeithiol i leihau fepio ymhlith pobl ifanc

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd nad ydynt, y prif themâu a gododd oedd:

  • amheuaeth o’r effeithiolrwydd y byddai cynyddu prisiau yn rhwystr sylweddol i fepio ymhlith pobl ifanc - dywedodd yr ymatebwyr mai’r prif reswm i ddechrau fepio yw dylanwad gan gyfoedion ac unwaith y bydd pobl ifanc yn gaeth, byddant yn blaenoriaethu gwario ar fêps beth bynnag fo’r pris
  • yr effaith negyddol bosibl ar roi’r gorau i smygu - roedd yr ymatebwyr yn meddwl y dylai fêps barhau i fod yn declyn ar gyfer rhoi’r gorau i smygu ac y byddai cynyddu prisiau yn cosbi oedolion sy’n fepio ac y gallai arwain at y canlyniad anfwriadol o yrru cyn-smygwyr yn ôl i ddefnyddio cynhyrchion tybaco
  • byddai cynyddu prisiau yn lleihau mynediad at fêps gan na fyddent yn fforddiadwy

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, dywedodd 58% nad ydynt ac roeddent yn credu na fyddai cynnydd i bris fêps yn lleihau nifer y bobl ifanc sy’n fepio. Roedd y prif themâu yn debyg i’r rhai uchod.

Ymateb y llywodraeth

Mae’r ymateb hwn yn dangos cefnogaeth gymysg i gynyddu prisiau fêps i leihau nifer y bobl ifanc sy’n fepio. Mae cynnydd i bris tybaco wedi helpu i leihau nifer y bobl ifanc sy’n smygu, felly rydym yn gwybod bod y math hwn o bolisi yn effeithiol. Gall prisiau uchel rwystro plant rhag smygu, gan nad oes gan bobl ifanc incwm gwario mawr. Fodd bynnag, rydym yn ystyriol o’r angen i gydbwyso cynnydd i brisiau sy’n rhwystro pobl ifanc rhag fepio gyda sicrhau bod fepio yn parhau i fod yn opsiwn mwy fforddiadwy na smygu, i annog smygwyr sy’n oedolion i roi’r gorau iddi.

Mae Llywodraeth y DU yn meddwl bod dadl gref dros weithredu i leihau fforddiadwyedd fêps ac mae’n parhau i ystyried opsiynau, gan gynnwys toll newydd, i gyflawni hyn.

Gorfodi

Bydd y mesurau gorfodi sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth, ochr yn ochr â’r cyllid ychwanegol yn Lloegr a gyhoeddwyd yn ein papur gorchymyn, yn sicrhau na fydd y buddion iechyd yn cael eu tanseilio gan werthiant dan oed ac anghyfreithlon o dybaco a fêps. Cyfrifoldeb y gweinidogion datganoledig perthnasol yw dyrannu cyllid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

O dan adran 7 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933, gall swyddogion safonau masnach awdurdodau lleol yn Lloegr, yn dilyn euogfarn mewn llys ynadon, godi dirwy o hyd at £2,500 am werthu cynnyrch tybaco neu bapurau sigaréts i rywun dan oed.

Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio pwerau o dan y Ddeddf Plant a Phobl Ifanc i wneud cais i lys am orchymyn gwerthiant neu eiddo wedi’i gyfyngu lle mae busnes wedi gwerthu cynhyrchion tybaco yn gyson i bobl dan 18 oed. Mae gorchymyn o’r fath yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco o’r busnes neu unigolyn a enwyd am gyfnod penodedig o amser.

Gall awdurdodau lleol eisoes gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £90 i unigolion sy’n prynu ar sail procsi, pan mai’r oedolyn sy’n prynu sy’n cyflawni’r drosedd, nid y manwerthwr. 

Gofynnodd yr ymgynghoriad a ddylem gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am fynd yn groes i ddeddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps ac ar ba lefel y dylai’r hysbysiadau cosb benodedig hyn gael eu pennu. Bydd unrhyw hysbysiadau cosb benodedig newydd yn ategu sancsiynau presennol eraill fel yr amlinellir uchod, gan ganiatáu safonau masnach lleol gyflwyno dirwyon yn y fan a’r lle i fanwerthwyr yn hytrach nag uwchgyfeirio i broses llys. Roedd y cwestiynau hyn yn agored i ymatebwyr o Gymru a Lloegr yn unig, gan fod yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am werthu tybaco a fêps i bobl dan oed.

Adborth i’r ymgynghoriad

Cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu

Cwestiwn

Ydych chi’n credu y dylid rhoi hysbysiadau cosb benodedig am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps?

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am ba un a ddylid cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps

  • dywedodd 88.3% eu bod
  • dywedodd 8.8% nad ydynt
  • dywedodd 2.8% nad ydynt yn gwybod

O ran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • cefnogaeth i hysbysiadau cosb benodedig fel dull effeithiol o orfodi cyfyngiadau oedran gwerthu a rhoi adnoddau effeithiol i awdurdodau lleol fel bod hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu gorfodi
  • cytundeb y byddai hysbysiadau cosb benodedig yn rhwystr effeithiol ar gyfer lleihau gwerthu i bobl dan oed

Casglwyd safbwyntiau cydweithwyr Safonau Masnach Cenedlaethol a detholiad o swyddogion safonau masnach ochr yn ochr â’r ymgynghoriad. Roedd consensws y byddai cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer gwerthu fêps i bobl dan oed yn helpu swyddogion safonau masnach i weithio’n fwy effeithiol a chyflym i fynd i’r afael â gwerthu i bobl dan oed, ac yn opsiwn a fyddai’n defnyddio llai o adnoddau nag achos llys.

O ran yr ymatebwyr nad ydynt, roedd y prif themâu yn cynnwys:

  • pryderon y byddai hysbysiadau cosb benodedig yn rhy anodd eu gorfodi oherwydd diffyg adnoddau awdurdodau lleol a chyfyngiadau cyllid, gan roi baich anghymesur ar fanwerthwyr ac awdurdodau lleol
  • awgrymiadau bod angen rhwystrau cryfach i atal achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu

O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, dywedodd 80% eu bod ac roeddent yn meddwl y dylid cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps. Roedd y prif themâu yn cynnwys yr angen i orfodi fod yn effeithiol.

Lefel o hysbysiad cosb benodedig ar gyfer gwerthu tybaco i bobl dan oed

Cwestiwn

Pa lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei roi ar gyfer gwerthu tybaco i bobl o dan oed?

  • £100
  • £200
  • Arall

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am ba lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei rhoi ar gyfer gwerthu tybaco i bobl dan oed:

  • dywedodd 44% £200
  • dywedodd 17.8% £100
  • dywedodd 38.3% ‘arall’

Roedd yr awgrymiadau gan ymatebwyr yn y categori ‘arall’ yn cynnwys:

  • llai na £100
  • £500
  • £1,000
  • £5,000
  • £10,000

Roedd y prif themâu gan yr ymatebwyr yn cynnwys awgrymiadau y dylai’r ddirwy fod:

  • yn ddigon i weithredu fel rhwystr
  • yn swm sy’n amrywio sy’n cynyddu yn dilyn troseddau ailadroddus

Defnyddiodd yr ymatebwyr y blwch testun rhydd hefyd i godi amheuon y byddai dirwyon yn ddull gorfodi effeithiol.

O ran yr ymatebwyr i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, £200 oedd y lefel fwyaf cyffredin o hysbysiad cosb benodedig a ddewiswyd, wrth i 37% ddewis hon, ac yna £100 gyda 22% yn dewis hon. Roedd y prif themâu yn debyg i’r rhai a amlinellir uchod.

Lefel o hysbysiad cosb benodedig ar gyfer gwerthu fêps i bobl dan oed

Cwestiwn

Pa lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei roi ar gyfer gwerthu fêps i bobl o dan oed?

  • £100
  • £200
  • Arall

O’r holl ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn am ba lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei rhoi ar gyfer gwerthu fêps i bobl dan oed:

  • dywedodd 42.7% £200
  • dywedodd 19.0% £100
  • dywedodd 38.3% ‘arall’

Yr awgrymiadau eraill gan yr ymatebwyr yn y categori ‘arall’ oedd:

  • £500
  • £1,000
  • £5,000
  • symiau dros £5,000

Roedd y prif themâu gan yr ymatebwyr yn cynnwys awgrymiadau:

  • y dylai’r ddirwy fod yn ddigon i weithredu fel rhwystr
  • y dylai’r dull fod yn gyson â sylweddau eraill sydd â chyfyngiadau oedran, fel tybaco neu alcohol
  • y dylai’r ddirwy fod yn swm sy’n amrywio sy’n cynyddu yn dilyn troseddau ailadroddus

O ran yr ymatebwyr i’r cwestiwn hwn â chysylltiadau â’r diwydiant tybaco, £200 oedd y lefel fwyaf cyffredin o hysbysiad cosb benodedig a ddewiswyd, wrth i 36% ddewis hon, ac yna £100 gyda 24% yn dewis hon. Adlewyrchwyd y prif themâu yn y rhai a amlinellir uchod, a chodwyd rhai amheuon am effeithiolrwydd y dull gorfodi hwn.

Ymateb y llywodraeth

Mae’r adran ganlynol yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig gan fod yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer gwerthu tybaco a fêps i bobl dan oed.

Mae’r ymatebion hyn yn dangos cefnogaeth eang i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps. Ceir cymysgedd o gefnogaeth i’r gwahanol lefelau y gellid pennu’r rhain arnynt.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £100 am werthu cynhyrchion tybaco, fêps (nicotin a heb nicotin) i bobl dan oed, eu gwerthu ar sail procsi a’u dosbarthu am ddim, ac yn rheoleiddio i ymestyn y darpariaethau hyn i gynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr. Bydd hyn yn galluogi swyddogion safonau masnach i gymryd camau gorfodi cyflymach a mwy cymesur yn erbyn y manwerthwyr anghyfrifol sy’n caniatáu gwerthiant i bobl dan oed.

Dylai safonau masnach lleol benderfynu pa unigolyn yn y busnes manwerthu sy’n atebol am y ddirwy.

Mae pennu’r ddirwy ar £100 yn cyd-fynd â dull Llywodraeth y DU o gyfyngu ar unrhyw feichiau newydd i fusnesau, gan ganiatáu i gamau gorfodi priodol gael eu cymryd. Mae’n rhaid i safonau masnach lleol gydymffurfio â Chod Rheoleiddwyr y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion a mabwysiadu dull cymesur o gymryd camau gorfodi ar werthu i bobl dan oed sy’n adlewyrchu lefel y drosedd a gyflawnwyd.

Mae pennu’r ddirwy ar £100 yn golygu ei bod ar lefel debyg i’r hysbysiad cosb benodedig presennol ar gyfer nifer o droseddau, gan gynnwys:

  • gwerthu alcohol i’r rhai sydd dan oed (hysbysiad cosb benodedig o £90)
  • lladrad o siop, pan fo’r nwyddau werth llai na £200 (hysbysiad cosb benodedig o £90)
  • troseddau gyrru fel methu â chydymffurfio ag arwydd traffig (hysbysiad cosb benodedig o £100)

Ni fyddai cyflwyno dirwyon sy’n amrywio gyda chynnydd ar gyfer troseddau ailadroddus yn cyd-fynd â throseddau tebyg, felly ni fyddant yn cael eu cynnwys yn ein deddfwriaeth.

Fodd bynnag, fel yr amlinellir uchod, byddai pwerau i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig yn ogystal â phwerau presennol sydd gan awdurdodau lleol i orfodi deddfwriaeth oedran gwerthu. Gallant gynyddu cosbau, gan ddechrau gyda rhybudd hyd at ddirwy sy’n uchafswm o £2,500. Neu yn achos y troseddau mwyaf difrifol neu ailadroddus, gallant wneud cais am orchymyn llys i atal y manwerthwr sy’n troseddu rhag agor am gyfnod. Mae hysbysiadau cosb benodedig wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer gorfodi personol. Maent yn galluogi swyddogion safonau masnach i gyflwyno dirwyon yn uniongyrchol i unigolion yn y fan a’r lle.

Mae Llywodraeth y DU yn archwilio sut y gallwn wella dilysu oed ar-lein ar wahân, i wneud yn siŵr na all pobl ifanc sy’n iau na’r oedran gwerthu cyfreithiol brynu cynhyrchion tybaco a fêps ar-lein.

Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg yn creu fframwaith o safonau a llywodraethu, wedi’i seilio ar ddeddfwriaeth, i alluogi’r defnydd eang o wasanaethau adnabod digidol yr ymddiriedir ynddynt. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i bobl brofi pethau am eu hunain mewn ffordd ddiogel heb ddefnyddio dogfennau papur. Gellid defnyddio gwasanaethau adnabod digidol i ddarparu dull cadarn o ddilysu oedran ar gyfer trafodiadau ar-lein, gan gynnwys gwerth cynhyrchion tybaco a fêps.

Fel cam cyntaf, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda manwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps i lunio canllawiau arfer da sy’n helpu manwerthwyr i fabwysiadu dilysu oed ar-lein i atal gwerthu i bobl dan oed.

Bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cwblhau asesiad beichiau newydd ar gyfer cyflwyno’r hysbysiadau cosb benodedig hyn ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu buddsoddiad ar gyfer ein hasiantaethau gorfodi o £30 miliwn y flwyddyn.

Crynodeb o’r camau nesaf

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i gyflwyno deddfwriaeth.

Bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i sicrhau cyn belled â phosibl bod argymhellion a chamau gweithredu yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyson ar draws y DU, i sicrhau cysondeb rheoleiddio. Bydd angen i Weithrediaeth a Chynulliad Gogledd Iwerddon sydd wedi’u hailgyflwyno wneud penderfyniadau am unrhyw bolisïau o fewn cymhwysedd datganoledig.

I greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf, bydd Llywodraeth y DU yn deddfu:

  • i’w gwneud yn drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
  • i wahardd gwerthiant procsi yn unol â’r newid i’r ddeddfwriaeth oedran gwerthu
  • i gynnwys pob cynnyrch tybaco, cynnyrch smygu llysieuol a phapurau sigaréts yn y cwmpas
  • i’w gwneud yn ofynnol i rybuddion mewn safleoedd manwerthu nodi “mae’n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009” pan ddaw’r ddeddfwriaeth ddi-fwg i rym

I fynd i’r afael â’r cynnydd i fepio ymhlith pobl ifanc, bydd Llywodraeth y DU yn cymryd pwerau i wneud rheoliadau i :

  • gyfyngu ar flasau fêps
  • cyfyngu ar sut y caiff fêps eu harddangos mewn siopau
  • cyfyngu ar becynnau a chyflwyniad cynnyrch ar gyfer fêps
  • gweithredu’r cyfyngiadau uchod i fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu i’r mesurau hyn gael eu datblygu mewn deddfwriaeth eilaidd a fydd yn destun ymgynghori pellach.

Mae Llywodraeth y DU yn meddwl bod dadl gref dros weithredu i leihau fforddiadwyedd fêps ac mae’n parhau i ystyried opsiynau, gan gynnwys toll newydd, i gyflawni hyn.

I gynorthwyo i orfodi, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer Cymru a Lloegr wedi’u pennu ar £100 am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu a dosbarthu tybaco a fêps (nicotin a heb nicotin) am ddim ac yn rheoleiddio i ymestyn y darpariaethau hyn i gynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i archwilio gwaharddiad ar fewnforion.

Atodiad 1: dadansoddiad o ymatebion fesul lleoliad

Nodiadau

Mae’r tablau yn yr atodiad hwn yn dangos y dadansoddiad o ymatebion i’r cwestiynau caeedig yn ôl lle dywedodd unigolion yr oeddent yn byw a lle dywedodd sefydliadau y maent yn gweithredu.

Pan fo llai na 5 o ymatebion i gwestiwn, labelwyd y rhain ‘c’ i atal y posibilrwydd o adnabod rhywun.

Gallai ymatebwyr o sefydliadau ddewis opsiynau lluosog, felly ar gyfer y dadansoddiad o ymatebion yn ôl lle mae’r sefydliad yn gweithredu, ni ddangosir pob cyfuniad o opsiynau.

Cwestiynau a dadansoddiad o ymatebion

Deddfu i greu cenhedlaeth ddi-fwg

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid newid yr oedran ar gyfer gwerthu cynnyrch tybaco fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny?

Tabl 7: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 61.6 51.4 65.5 79.0 62.5
Anghytuno 33.8 43.2 29.6 17.9 32.9
Ddim yn gwybod 4.6 5.4 4.9 3.1 4.6

Tabl 8: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 87.9 c 80.6 91.8 71.4 46.9
Anghytuno 8.3 c 19.4 8.2 20.9 31.2
Ddim yn gwybod 3.8 c 0 0 7.7 21.9

Ydych chi’n meddwl y dylid gwahardd gwerthiant procsi hefyd?

Tabl 9: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 72.6 64.6 76.8 82.5 73.3
Anghytuno 21.0 27.0 17.5 12.5 20.4
Ddim yn gwybod 6.4 8.4 5.7 5.1 6.3

Tabl 10: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 92.7 c 83.3 c 73.3 59.4
Anghytuno 4.0 c 0 c 18.9 c
Ddim yn gwybod 3.2 c 16.7 c 7.8 c

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai pob cynnyrch tybaco, papurau sigarét a chynhyrchion smygu llysieuol gael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth newydd?

Tabl 11: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 62.4 50.5 65.6 78.8 63.1
Anghytuno 32.1 42.6 29.1 17.4 31.4
Ddim yn gwybod 5.6 6.9 5.3 3.8 5.5

Tabl 12: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 90.3 c c c 70 53.1
Anghytuno 6.5 c c c 23.3 c
Ddim yn gwybod 3.2 c c c 6.7 c

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y bydd angen newid y rhybuddion sy’n cael eu harddangos mewn safleoedd manwerthu i ddarllen ‘mae’n anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009’ pan ddaw’r gyfraith i rym?

Tabl 13: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 70.8 60.7 73.4 82.2 71.3
Anghytuno 23.6 31.7 21.1 13.7 23.1
Ddim yn gwybod 5.6 7.6 5.5 4.1 5.6

Tabl 14: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 93.3 c 80 91.7 82.2 64.5
Anghytuno 4.8 c c c 12.2 c
Ddim yn gwybod 1.8 c c c 5.6 c

Mynd i’r afael â’r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu ar flasau fêps?

Tabl 15: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 44.5 30.1 49.6 75.6 46.0
Anghytuno 53.5 67.6 48.7 22.0 52.0
Ddim yn gwybod 1.9 2.3 1.7 2.4 1.9

Tabl 16: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 81.1 c c 90.5 64.8 c
Anghytuno 15.1 c c c c 58.6
Ddim yn gwybod 3.9 c c c c c

Pa opsiwn neu opsiynau ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig weithredu cyfyngiadau ar flasau?

Opsiwn 1: cyfyngu ar sut mae’r fêp yn cael ei ddisgrifio yn unig.

Opsiwn 2: cyfyngu ar y cynhwysion mewn fêps yn unig.

Opsiwn 3: cyfyngu ar flasau nodweddiadol ar gyfer fêps (blas ac arogl) yn unig.

Ar gyfer y cwestiwn hwn, gallai’r ymatebwyr ddewis opsiynau lluosog a ni ddangosir pob cyfuniad o opsiynau.

Tabl 17: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Opsiwn 1 31.6 38.1 28.1 13.9 30.6
Opsiwn 2 3.4 4.2 3.2 3.3 3.4
Opsiwn 3 9.7 7.6 11.5 17.0 10.2
Opsiwn 1, Opsiwn 2 ac Opsiwn 3 22.1 13.8 24.2 39.7 22.9
Ddim yn gwybod 19.9 25.9 20.1 10.4 19.7

Tabl 18: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Opsiwn 1 37.1 31.6 0 0 32.2 51.7
Opsiwn 2 c 0 0 0 0 0
Opsiwn 3 9.3 0 0 22.6 6.9 0
Opsiwn 1, Opsiwn 2 ac Opsiwn 3 27.5 36.8 50.0 51.6 23.0 24.1
Ddim yn gwybod 7.2 0 0 9.7 24.1 c

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu blasau fêps i blant a phobl ifanc?

Opsiwn A: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco yn unig.

Opsiwn B: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys a menthol yn unig.

Opsiwn C: blasau wedi’u cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwythau yn unig.

Tabl 19: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Opsiwn A 39.0 29.7 44.8 64.7 40.7
Opsiwn B 17.1 16.4 16.7 15.8 17.0
Opsiwn C 43.9 53.9 38.5 19.6 42.3

Tabl 20: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Opsiwn A 33.1 c 46.7 69.5 c c
Opsiwn B 15.0 c 30 8.5 c c
Opsiwn C 51.9 70.6 23.3 22.0 51.6 68.2

Ydych chi’n credu bod yna unrhyw opsiynau eraill, o ran blasau, y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu hystyried?

Tabl 21: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Ydw 18.6 23.7 15.8 10.1 18.1
Nac ydw 53.5 48.9 54.3 62.0 53.8
Ddim yn gwybod 27.9 27.4 29.8 27.9 28.1

Tabl 22: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 31.7 c c c 27.3 37.9
Nac ydw 45.6 73.7 47.2 74.2 35.2 34.5
Ddim yn gwybod 22.8 c c c 37.5 27.6

Ydych chi’n credu y dylid hefyd cynnwys e-hylif heb nicotin, er enghraifft e-hylifau llenwad byr (shortfills), mewn cyfyngiadau ar flasau fêps?

Tabl 23: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Ydw 38.7 26.9 42.5 63.7 39.9
Nac ydw 49.5 62.5 44.5 25.8 48.3
Ddim yn gwybod 11.8 10.6 13.1 10.5 11.9

Tabl 24: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 78.6 73.7 83.3 80.6 53.4 51.7
Nac ydw 12.9 c c c 28.4 c
Ddim yn gwybod 8.5 c c c 18.2 c

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o gyfyngu ar fêps i blant a phobl ifanc?

Opsiwn 1: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ac ni chaniateir eu harddangos, fel cynhyrchion tybaco.

Opsiwn 2: rhaid i fêps gael eu cadw y tu ôl i’r cownter ond caniateir eu harddangos.

Tabl 25: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Opsiwn 1 67.4 59.8 71.5 85.3 68.5
Opsiwn 2 32.6 40.2 28.5 14.7 31.5

Tabl 26: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Opsiwn 1 60.4 c 69.7 c 46.8 33.3
Opsiwn 2 39.6 c 30.3 c 53.2 66.7

Ydych chi’n meddwl y dylid gwneud eithriadau ar gyfer siopau fêps arbenigol?

Tabl 27: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Ydw 49.4 61.7 47.3 22.7 48.6
Nac ydw 45.4 31.4 46.9 66.4 46.1
Ddim yn gwybod 5.2 6.9 5.8 5.9 5.4

Tabl 28: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 48.2 c 47.1 20 44.4 67.9
Nac ydw 46.4 55.6 35.3 68.3 41.1 c
Ddim yn gwybod 5.3 c 17.6 11.7 14.4 c

Pa opsiwn ydych chi’n meddwl fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyfyngu’r ffordd y gellir pecynnu a chyflwyno fêps i leihau fepio ymhlith pobl ifanc?

Opsiwn 1: gwahardd y defnydd o gartwnau, cymeriadau, anifeiliaid, gwrthrychau difywyd a delweddau eraill sy’n atyniadol i blant, ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps. Byddai hyn yn dal i ganiatáu’r defnydd o liwiau a dyluniadau penodol i frand.

Opsiwn 2: gwahardd y defnydd o bob delwedd a lliw ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps ond dal i ganiatáu’r defnydd o frand fel logos ac enwau.

Opsiwn 3: gwahardd y defnydd o bob delwedd, lliw a brand (deunyddiau pecynnu safonol) ar ddeunyddiau pecynnu fêps a dyfeisiau fêps.

Tabl 29: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Opsiwn 1 37.2 45.3 34.4 21.8 36.4
Opsiwn 2 18.1 22.4 16.8 12.2 17.8
Opsiwn 3 44.8 32.3 48.8 66.0 45.8

Tabl 30: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Opsiwn 1 14.5 c c c 33.3 61.5
Opsiwn 2 36.1 c c c 21.8 c
Opsiwn 3 49.4 c 76.5 82 44.9 c

Oes gennych unrhyw dystiolaeth y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried o ran niwed cysylltiedig â fêps heb nicotin neu’r defnydd ohonynt?

Tabl 31: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Oes 16.3 14 16.7 20.3 16.5
Nac oes 64.2 68.4 61.9 54.0 63.6
Ddim yn gwybod 19.5 17.6 21.3 25.7 20.0

Tabl 32: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Oes 57.0 c 64.7 19.2 47.4 40.7
Nac oes 29.3 c 14.7 51.9 34.2 40.7
Ddim yn gwybod 13.7 c 20.6 28.8 18.4 18.5

Ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig reoleiddio fêps heb nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin?

Tabl 33: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Ydw 58.1 45.6 59.6 73.6 58.6
Nac ydw 34.4 46.3 30.3 19.1 33.6
Ddim yn gwybod 7.5 8.1 10.1 7.3 7.8

Tabl 34: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 87.6 c c 82.7 77.6 77.8
Nac ydw 6.5 c c c 10.5 c
Ddim yn gwybod 5.9 c c c 11.8 c

Oes gennych unrhyw dystiolaeth y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ei hystyried o ran niwed cysylltiedig â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin neu’r defnydd ohonynt?

Tabl 35: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Oes 18.4 16.2 20.3 21.8 18.7
Nac oes 60.2 62.9 56.2 51.2 59.4
Ddim yn gwybod 21.4 20.9 23.5 27.0 21.9

Tabl 36: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Oes 51.8 c 47.1 21.2 50 c
Nac oes 29.7 c 26.5 55.8 28.9 c
Ddim yn gwybod 18.5 c 26.5 23.1 21.1 c

Ydych chi’n meddwl y dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig reoleiddio cynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr fel bagiau bach nicotin o dan fframwaith rheoleiddio tebyg i’r un ar gyfer fêps nicotin?

Tabl 37: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Ydw 50.8 43.3 55.6 66.8 51.9
Nac ydw 31.2 38.5 26.4 17.8 30.2
Ddim yn gwybod 18.0 18.2 18.0 15.4 17.9

Tabl 38: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 81.8 c 76.5 80.8 71.4 74.1
Nac ydw 6.1 c 0 c 13.0 c
Ddim yn gwybod 12.2 c 23.5 c 15.6 c

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai fod cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi fêps tafladwy?

Tabl 39: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 78.6 71 82.2 90.4 79.3
Anghytuno 19.1 26 15.2 8.1 18.4
Ddim yn gwybod 2.4 3 2.6 1.5 2.4

Tabl 40: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 92.2 c c c 64.0 61.3
Anghytuno 5.6 c c c 24.0 19.4
Ddim yn gwybod 2.1 c c c 12.0 19.4

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai cyfyngiadau ar fêps tafladwy fod ar ffurf gwahardd eu gwerthu a’u cyflenwi?

Tabl 41: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 68.1 60.4 73.4 84.9 69.2
Anghytuno 27.2 35 21.7 11.7 26.2
Ddim yn gwybod 4.7 4.6 4.9 3.4 4.7

Tabl 42: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 61.6 c 83.8 88.1 53.0 32.3
Anghytuno 29.3 c c 11.9 32.0 41.9
Ddim yn gwybod 9.1 c c 0 15.0 25.8

Ydych chi’n cytuno ynteu’n anghytuno y dylai cyfnod gweithredu ar gyfer cyfyngiadau ar fêps tafladwy fod yn ddim llai na 6 mis ar ôl i’r gyfraith gael ei chyflwyno?

Tabl 43: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Cytuno 59.1 54 61.9 73.1 59.9
Anghytuno 26 29.9 23.1 16.1 25.4
Ddim yn gwybod 14.9 16.2 15 10.7 14.8

Tabl 44: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Cytuno 42.7 72.2 56.8 74.1 50 58.1
Anghytuno 46 27.8 24.3 c 30 19.4
Ddim yn gwybod 11.3 0 18.9 c 20 22.6

Ydych chi’n meddwl y byddai cynnydd ym mhris fêps yn lleihau nifer y bobl ifanc sy’n fepio?

Tabl 45: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Y DU
Ydw 40.2 28.8 42.7 60.8 41.1
Nac ydw 52.5 65.5 49.1 31.1 51.5
Ddim yn gwybod 7.3 5.7 8.2 8 7.4

Tabl 46: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Yr Alban yn unig Gogledd Iwerddon yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 78.5 c c 76.8 55.1 53.6
Nac ydw 15.7 c c c 29.5 c
Ddim yn gwybod 5.9 c c c 15.4 c

Gorfodi

Dangoswyd y cwestiynau canlynol i bobl a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr yn unig gan y bydd y polisi arfaethedig ddim ond yn berthnasol iddyn nhw.

Ydych chi’n credu y dylid rhoi hysbysiadau cosb benodedig am dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco a fêps?

Tabl 47: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru
Ydw 88.4 86.9
Nac ydw 9 9.8
Ddim yn gwybod 2.6 3.3

Tabl 48: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
Ydw 92.4 76.2 74.1 77.1
Nac ydw 2 0 7.4 c
Ddim yn gwybod 5.5 23.8 18.5 c

Pa lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei roi ar gyfer gwerthu tybaco i bobl o dan oed?

Tabl 49: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru
£0 5.1 5.7
Llai na £100 c c
£100 17.7 23.9
£101 - £200 c c
£200 44.1 39.4
£201 - £500 6.6 4.8
Mwy na £500 24.8 23.6

Tabl 50: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
£0 c c 18.8 c
Llai na £100 c c c c
£100 13.5 c 10.1 c
£101 - £200 c c c c
£200 49.6 54.5 34.8 26.3
£201 - £500 9.2 c c c
Mwy na £500 25.1 c 29 42.1

Pa lefel o hysbysiad cosb benodedig y dylid ei roi ar gyfer gwerthu fêps i bobl o dan oed?

Tabl 51: canran y rhai a ymatebodd fel unigolion yn ôl lle maent yn byw yn y DU

Ymateb Lloegr Cymru
£0 5.0 5.8
Llai na £100 c c
£100 18.9 24.3
£101 - £200 c c
£200 42.8 38.3
£201 - £500 6.6 5.9
Mwy na £500 24.9 22.6

Tabl 52: canran y sefydliadau yn ôl lle mae’r sefydliadau yn gweithredu

Ymateb Lloegr yn unig Cymru yn unig Ar draws y DU gyfan Ar draws y DU gyfan ac yn ehangach
£0 c c 18.2 c
Llai na £100 c c c c
£100 13.9 c c c
£101 - £200 c c c c
£200 48.3 50 30.3 33.3
£201 - £500 9.5 c c c
Mwy na £500 25.1 c 30.3 33.3

Atodiad 2: cymhariaeth ryngwladol o gyfyngiadau ar fepio

Mae’r tablau canlynol yn nodi’r gwahaniaethau rhwng cyfyngiadau ar fêps nicotin rhwng y DU a phartneriaid rhyngwladol eraill.

Yn UDA a Chanada, caiff cyfreithiau eu pennu ar lefel talaith yn bennaf. Mae’r tablau yn adlewyrchu lle mae gan UDA a Chanada gyfreithiau naill ai ar lefel ffederal neu dalaith.

I werthu fêps yn yr Alban, mae Llywodraeth y Alban yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr gofrestru ar gofrestr gyhoeddus. Mae gan Lywodraeth Cymru yr un pwerau, ond nid yw wedi eu rhoi ar waith eto.

Tabl 53a: cymhariaeth o gyfyngiadau fepio rhyngwladol

Polisi Y DU UDA Seland Newydd Awstralia Canada
Oedran gwerthu ar gyfer fêps 18 21 18 Amherthnasol 18, 19, 21
Cyfyngiadau ar fusnesau a all werthu fêps Nac oes Oes Oes Oes Oes
Cyfyngiadau ar le mae fepio yn gyfreithlon Nac oes Oes Oes Oes Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith
Labeli rhybudd ar becynnau fêps Oes Oes Oes Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Oes
Gofynion eraill o ran pecynnau i rwystro defnydd ymhlith pobl ifanc Oes Oes Oes Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Oes
Cyfyngiadau ar gryfder nicotin mewn fêps Oes Nac oes Oes Yn yr arfaeth, ond nid ar waith Oes
Cyfyngiadau ar hysbysebu a hyrwyddo fêps Oes Nac oes Oes Oes Oes
Cyfyngiadau ar flasau fêps Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Oes Oes Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith
Gwaharddiad ar fêps tafladwy Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Nac oes Oes Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Nac oes
Cyfyngiadau ar arddangos yn y man gwerthu Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Oes Nac oes Oes Oes
Pecynnau plaen yn ofynnol Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Ydy Nac ydy Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Nac ydy

Tabl 53b: cymhariaeth o gyfyngiadau fepio rhyngwladol parhad

Polisi Ffrainc Yr Almaen Yr Eidal Iwerddon
Oedran gwerthu ar gyfer fêps 18 18 18 18
Cyfyngiadau ar fusnesau a all werthu fêps Nac oes Nac oes Nac oes Ddim ar waith eto
Cyfyngiadau ar le mae fepio yn gyfreithlon Oes Nac oes Oes Nac oes
Labeli rhybudd ar becynnau fêps Oes Oes Oes Oes
Gofynion eraill o ran pecynnau i rwystro defnydd ymhlith pobl ifanc Oes Oes Oes Oes
Cyfyngiadau ar gryfder nicotin mewn fêps Oes Oes Oes Oes
Cyfyngiadau ar hysbysebu a hyrwyddo fêps Oes Oes Oes Oes
Cyfyngiadau ar flasau fêps Nac oes Nac oes Nac oes Nac oes
Gwaharddiad ar fêps tafladwy Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Yn yr arfaeth, ond ddim ar waith Nac oes Nac oes
Cyfyngiadau ar arddangos yn y man gwerthu Nac oes Nac oes Nac oes Nac oes
Pecynnau plaen yn ofynnol Nac ydy Nac ydy Nac ydy Nac ydy