Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Neidio i gynnwys y canllaw

Os ydych yn cael yr elfen Gwarant Credyd o Gredyd Pensiwn

Rydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad os oedd y cyfan o’r canlynol yn gymwys ar 13 Awst 2023:

Yr enw ar hyn yw ‘grŵp craidd 1’ yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, dyma’r ‘grŵp craidd’.

Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys os ydych chi:

Sut i gael y gostyngiad

Fe gewch chi lythyr rhwng mis Hydref 2023 a dechrau mis Ionawr 2024:

  • os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun
  • os gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond bod angen ichi roi mwy o wybodaeth

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, bydd eich llythyr yn cadarnhau nad oes angen ichi wneud dim byd. Fe gewch chi’r gostyngiad yn awtomatig.

Os oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth, bydd eich llythyr yn dweud wrthoch chi am ffonio’r llinell gymorth erbyn 29 Chwefror 2024 i gadarnhau eich manylion.

Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2024.

Os na chewch chi lythyr

Cysylltwch â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes os na chewch chi’r llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2024 a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys.

Rhaid ichi gysylltu â nhw cyn 29 Chwefror 2024.

Llinell gymorth Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Ffôn: 0800 030 9322
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gostau galwadau\

110552 Warm Home Discount Scheme
PO Box 26965
Glasgow
G1 9BW