Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Os ydych chi'n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn
Rydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 24 Awst 2025:
-
bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
-
bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
-
eich bod chi neu’ch partner yn cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych chi’n cael Credyd Cynilo hefyd)
Yr enw ar hyn yw’r ‘grŵp craidd 1’ yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, dyma’r ‘grŵp craidd’.
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn, efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys os ydych chi:
Sut i gael y gostyngiad
Fe gewch chi lythyr rhwng Hydref 2025 a dechrau Ionawr 2026:
- os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun
- os gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond bod angen ichi roi rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes na fyddwch chi’n cael llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2026.
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, bydd eich llythyr yn cadarnhau nad oes angen ichi wneud dim. Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2026.
Os oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth, bydd eich llythyr yn dweud wrthoch chi am ffonio’r llinell gymorth erbyn 28 Chwefror 2026 i gadarnhau’ch manylion.