Os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban

Does dim angen ichi wneud cais os ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn. Fe gewch chi lythyr yn awtomatig yn dweud wrthoch chi am y gostyngiad os ydych chi’n gymwys.

Fel arall, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.

Efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
  • eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sydd â phrawf moddion
  • bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan

Efallai y bydd gan eich cyflenwr trydan feini prawf cymhwystra ychwanegol. Byddan nhw hefyd yn dweud wrthoch chi pa fudd-daliadau sy’n golygu eich bod chi’n gymwys.

Yr enw ar hyn yw y ‘grŵp ehangach’.

Sut i gael y gostyngiad

Allwch chi ddim gwneud cais am y gostyngiad drwy gysylltu â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan i wirio a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais.

Dylech gysylltu â nhw cyn gynted â phosibl. Cysylltwch â nhw hyd yn oed os oeddech chi’n gymwys i gael gostyngiad y llynedd. Nhw sy’n penderfynu pwy sy’n cael y gostyngiad yn yr Alban. Mae nifer y gostyngiadau y gall cyflenwyr eu rhoi yn gyfyngedig.

Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2026. Bydd angen ichi aros gyda’ch cyflenwr nes ei fod wedi’i dalu.