Os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026

Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan os yw’r ddau beth canlynol yn gymwys:

  • eich bod chi heb gael eich gostyngiad erbyn 31 Mawrth 2026
  • bod gennych chi gadarnhad eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun ar gyfer gaeaf 2025 i 2026

Fe fydd gennych chi gadarnhad eich bod yn gymwys:

  • os cawsoch chi lythyr gan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn dweud eich bod yn gymwys
  • os dywedodd llinell gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wrthoch chi eich bod yn gymwys
  • os dywedodd rhywun wrthoch chi eich bod yn gymwys pan wnaethoch chi gais i’ch cyflenwr trydan (os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban)

Os na all eich cyflenwr trydan helpu

Ysgrifennwch at y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes os oes gennych chi gadarnhad eich bod yn gymwys ond bod eich cyflenwr wedi methu rhoi’r gostyngiad i chi.

Dylech chi gynnwys:

  • eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
  • y rhif cyfeirnod ar eich llythyr cadarnhau, os oes un gennych
  • enw’ch cyflenwr trydan a’ch rhif cyfrif
  • enw’r person ar y bil trydan ar 11 Awst 2024 (os yw’n wahanol i’ch enw chi)

Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
PO Box 970
Preston
PR2 0FX