Os ydych chi ar incwm isel yng Nghymru a Lloegr

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2026.

Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026.

Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn, efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys i gael y Gostyngiad Cartref Cynnes.

Efallai y byddwch chi’n gymwys os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 24 Awst 2025:

  • bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
  • eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sydd â phrawf moddion
  • bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan

Yr enw ar hyn yw ‘grŵp craidd 2’.

Budd-daliadau cymwys

Y budd-daliadau cymwys sy’n seiliedig ar brawf modd yw:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm (JSA)
  • Cymorth Incwm
  • y rhan ‘Credyd Cynilion’ o Gredyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n gymwys

Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dydy’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.