Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi wneud cais byddwch yn cael penderfyniad ar eich cais. Mae angen i chi dderbyn y penderfyniad cyn i chi gael eich arian.

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch weld a ydych wedi cael cynnig benthyciad o fewn:

  • 7 diwrnod os cewch y penderfyniad trwy neges destun neu e-bost
  • 21 diwrnod os cewch y penderfyniad trwy lythyr

Os byddwch yn gwneud cais trwy’r post, cewch lythyr yn dweud wrthych a ydych wedi cael cynnig benthyciad o fewn 21 diwrnod.

Derbyn y benthyciad

Mae sut rydych yn derbyn y benthyciad yn dibynnu ar sut gwnaethoch gais.

Derbyn ar-lein

Gallwch dderbyn y cynnig benthyciad ar-lein trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y testun neu’r e-bost.

Derbyn trwy’r post

Gallwch ei dderbyn trwy lofnodi tudalen 4 o’r llythyr derbyn a’i ddychwelyd yn yr amlen ragdaledig a ddarperir. Sicrhewch fod y slip ateb wedi’i blygu fel bod y cyfeiriad dychwelyd yn gwbl weladwy yn ffenestr yr amlen.

Dychwelwch i’r cyfeiriad ar y llythyr. Peidiwch â’i anfon i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol oherwydd gallai hyn oedi cyn cael eich benthyciad.

Cael eich arian

Byddwch yn cael eich arian o fewn:

  • 7 diwrnod o dderbyn y cynnig benthyciad ar-lein
  • 21 diwrnod o’ch derbyniad benthyciad yn cael ei dderbyn trwy’r post

Os wnaethoch gais ar-lein, caiff yr arian ei dalu i’r un cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd y mae’ch budd-dal yn cael ei dalu iddo.

Os wnaethoch gais trwy’r post, caiff yr arian ei dalu i’r cyfrif wnaethoch nodi ar y ffurflen.

Byddwch yn cael neges destun yn cadarnhau bod hwn wedi cael ei wneud.

Cwestiynau am eich cais

Ffoniwch y Gronfa Gymdeithasol os oes gennych gwestiwn am gynnydd eich cais.

Dylech aros:

  • 14 diwrnod cyn ffonio os gwnaethoch gais ar-lein
  • 21 diwrnod cyn ffonio os gwnaethoch gais trwy’r post

Efallai na fydd eich cais wedi’i brosesu cyn hynny.

Y Gronfa Gymdeithasol
Ffôn: 0800 169 0240
Ffôn testun: 0800 169 286
Saesneg: 0800 169 0140
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0140
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn anghytuno a phenderfyniad

Gallwch ofyn am benderfyniad Benthyciad Trefnu gael ei edrych arno eto os:

  • oedd eich cais yn aflwyddiannus, ac rydych yn credu bod hynny’n anghywir
  • rydych wedi cael Benthyciad Trefnu, ond rydych yn anghytuno â’r swm

Ysgrifennwch at y cyfeiriad ar frig eich llythyr penderfyniad. Os nad oes gennych eich llythyr penderfyniad, cysylltwch â Llinell Gymorth y gronfa Gymdeithasol am fanylion.

Dylech gynnwys:

  • eich enw llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad a rhif ffôn
  • y rhesymau rydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Rhaid i’ch cais gyrraedd o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael llythyr yn eich hysbysu os yw eich penderfyniad wedi newid ai peidio, ac yn egluro’r rhesymau.

Os ydych yn anhapus â’r ymateb gallwch ofyn i swyddfa’r Archwilydd Achosion Annibynnol am adolygiad.

Rhaid i’ch cais gyrraedd o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad ar eich ail lythyr penderfyniad.