Talu’r benthyciad yn ôl

Mae Benthyciad Trefnu yn ddi-log, felly rydych ond yn talu’n ôl beth rydych wedi’i fenthyg.

Bydd yr ad-daliadau yn cael eu tynnu allan o’ch budd-dal yn awtomatig. Mae faint y byddwch yn ei ad-dalu yn seiliedig ar faint o fudd-dal rydych yn ei gael a faint fedrwch chi ei fforddio.

Ar ôl i chi wneud cais am Fenthyciad Trefnu, cewch e-bost, neges destun neu lythyr yn dweud wrthych a ydych wedi cael cynnig benthyciad. Mae hyn yn esbonio faint fydd eich ad-daliadau wythnosol os derbyniwch y benthyciad.

Fel arfer mae rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad o fewn 2 flynedd (104 wythnos).

Os ydych yn stopio cael budd-daliadau

Byddwch yn cael llythyr gan Rheoli Dyled DWP yn egluro sut i ad-dalu a rheoli yr arian budd-dal sy’n ddyledus gennych. Gallwch dalu y benthyciad nôl yn gyflawn neu greu taliadau misol rheolaidd.