Amcangyfrif eich Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i amcangyfrif faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol y dylech ei dalu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2026 i 5 Ebrill 2027).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r gwasanaeth hwn i gyflogeion sy’n talu treth ac Yswiriant Gwladol bob mis drwy eu cyflogwr.

Mae’n rhoi gwybod i chi faint fydd eich cyflog clir ar ôl:

  • talu treth
  • talu unrhyw arian i’ch pensiwn
  • ad-dalu unrhyw fenthyciadau myfyrwyr

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gall y gyfrifiannell treth Hunanasesiad eich helpu gydag amcangyfrif eich bil treth.

Efallai y bydd modd i chi hawlio ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Os oes gennych fwy nag un swydd, defnyddiwch y gyfrifiannell unwaith ar gyfer pob swydd.

Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i amcangyfrif faint o Dreth Incwm y dylech ei thalu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.

Ni allwch gael amcangyfrif o’r gwasanaeth hwn os budd-daliadau’r Wladwriaeth, er enghraifft Pensiwn y Wladwriaeth, yw eich unig incwm.

Os yw’ch incwm yn uwch na £35,000 a’ch bod chi’n cael y Taliad Tanwydd Gaeaf (neu’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn yn yr Alban), bydd angen i chi dalu hyn yn ôl. Byddwch yn gwneud hyn drwy dalu mwy o dreth yn ystod y flwyddyn ganlynol. Ni fydd y gwasanaeth hwn yn dangos y swm ychwanegol hwn o Dreth Incwm. Gallwch ddarllen rhagor am dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl.

Mae gwahanol ddulliau o wneud y canlynol:

Gallwch wirio eich bod wedi talu’r dreth gywir drwy gysylltu â CThEF neu drwy gael cymorth gan gyfrifydd.