Hawlio ad-daliad ffi dirprwyaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Pwy sy'n cael hawlio

Gallwch wneud hawliad os:

  • oedd gennych chi ddirprwy o’r blaen
  • ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun a oedd â dirprwy ac sydd wedi marw

Mae’n rhaid i’r ddirprwyaeth fod wedi bod yn weithredol rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

Os ydych chi’n dal i weithredu fel dirprwy, nid oes angen i chi wneud cais. Bydd unrhyw ffioedd gormodol a godwyd yn cael eu had-dalu’n awtomatig.

Os oedd gennych chi ddirprwy o’r blaen

Os oedd gennych chi ddirprwy ond eich bod erbyn hyn yn gwneud penderfyniadau dros eich hun, gallwch wneud cais am ad-daliad.

Gallwch chi hefyd ofyn i’ch atwrnai eiddo a materion ariannol wneud hawliad ar eich rhan.

Os ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun sydd wedi marw

Os ydy’r sawl a oedd yn arfer bod â dirprwyaeth (y ‘cleient’) wedi marw, rhaid i ysgutor yr ewyllys hawlio’r ad-daliad.

Os nad oes ysgutor, gall gweinyddwr yr ystad wneud cais.

Os nad oes gweinyddwr i’r ystad, gall aelod o’r teulu wneud cais.

Beth fyddwch chi’n ei wneud â’r ad-daliad

Dylai unrhyw ad-daliad a dderbynnir gael ei rannu rhwng buddiolwyr ystad y cleient.

Os ydy ystad y cleient eisoes wedi cael ei setlo, gallwch gael help gan Cyngor ar Bopeth neu gyfreithiwr i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.