Trosolwg

Efallai eich bod yn gymwys i gael ad-daliad os yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr wedi codi gormod arnoch am ffioedd dirprwyaeth.

Ni wneir ad-daliadau ond yn achos asesiadau a goruchwyliaeth flynyddol dirprwyaeth a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

I gael gwybod a oes arian yn ddyledus i chi a faint fyddwch chi’n ei gael, bydd angen i chi gyflwyno hawliad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Os ydych chi’n ddirprwy yn gweithredu o dan orchymyn llys cyfredol, nid oes angen i chi wneud cais am ad-daliad. Bydd unrhyw ffioedd gormodol a godwyd yn cael eu had-dalu’n awtomatig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliadau am ad-daliadau ydy 4 Hydref 2022.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Faint gewch chi

Bydd faint gewch chi’n dibynnu ar:

  • faint o arian yr ydych chi wedi ei dalu a’r gyfradd
  • ers pryd ydych chi wedi bod yn talu
  • oes gennych chi unrhyw ffioedd heb eu talu

Bydd y rhan fwyaf o ad-daliadau’n llai na £200. Byddwch chi hefyd yn cael 0.5% o log.