Penodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan

Sgipio cynnwys

Rhoi pŵer atwrnai i rywun dros eich materion treth

Gallwch roi pŵer atwrnai i rywun ar gyfer eich materion treth, er enghraifft drwy sefydlu pŵer atwrnai arhosol (LPA).

Yn dibynnu ar sut rydych yn penderfynu sefydlu’r pŵer atwrnai, efallai y bydd y person yn gallu:

  • gwneud penderfyniadau treth ar eich rhan
  • eich helpu i wneud penderfyniadau treth

Os daw adeg yn y dyfodol pan na allwch wneud eich penderfyniadau eich hun ond nad ydych wedi rhoi pŵer atwrnai i neb, gall person arall sefydlu dirprwyaeth ar gyfer eiddo a materion ariannol yn lle hynny. Yna, bydd y person hwnnw yn gallu rheoli’ch materion treth.

Ar ôl i’r pŵer atwrnai cofrestredig ddod i law’r person sy’n eich helpu, bydd angen i’r person hwnnw roi gwybod i CThEF, fel bod CThEF yn gallu diweddaru ei gofnodion.

Rhoi gwybod i CThEF am y pŵer atwrnai dros y ffôn

Mae’r person sy’n eich helpu yn gallu rhoi gwybod i CThEF dros y ffôn, os yw pob un o’r canlynol yn wir: 

Bydd angen i’r person sy’n eich helpu gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, gan ddefnyddio’r llinell gymorth berthnasol.

Pan fydd y person sy’n eich helpu yn ffonio CThEF, bydd angen iddo ddarparu cod mynediad, fel bod CThEF yn gallu gwirio bod y pŵer atwrnai arhosol yn ddilys.

Er mwyn cael cod mynediad, bydd angen i’r person sy’n eich helpu fewngofnodi i’w gyfrif ar-lein ar gyfer pŵer atwrnai arhosol. Mae cod mynediad yn 13 o gymeriadau ac yn dechrau gyda ‘V’, er enghraifft V-AB12-CD34-EF56.

Rhoddir codau mynediad dros y ffôn yn unig – ni ellir eu hanfon drwy’r post. 

Ar ôl cadarnhau bod y pŵer atwrnai arhosol yn ddilys, bydd CThEF yn gallu diweddaru ei gofnodion treth a thrafod ymholiadau treth â’r person sy’n eich helpu.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i CThEF weld naill ai copi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o’r pŵer atwrnai arhosol. Bydd yn rhoi gwybod i chi os dyma’r achos. 

Rhoi gwybod i CThEF am y pŵer atwrnai drwy’r post

Mae’r person sy’n eich helpu yn gallu rhoi gwybod i CThEF drwy anfon y naill neu’r llall o’r canlynol: 

  • copi gwreiddiol o’r pŵer atwrnai arhosol
  • copi ardystiedig o’r pŵer atwrnai arhosol

Os yw’r person yn y DU a’ch bod am iddo reoli unrhyw faterion treth, gall anfon y copi gwreiddiol neu’r copi ardystiedig i:

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Os yw’r person y tu allan i’r DU a’ch bod am iddo reoli unrhyw faterion treth, gall anfon y copi gwreiddiol neu’r copi ardystiedig i:

HM Revenue and Customs
Benton Park View
Newcastle Upon Tyne
NE98 1ZZ

Caiff y copi ei ddychwelyd iddo. Ar ôl hynny, os gwnaeth anfon llythyr ynghyd â’r copi, dylai gael llythyr oddi wrth CThEF mewn ymateb. Ni ddylai fod angen iddo anfon copi eto, oni bai bod manylion y pŵer atwrnai yn newid.