Penodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan
Awdurdodi asiant i reoli eich materion treth
Gall asiant sy’n cael ei dalu fod yn un o’r canlynol:
- cyfrifydd proffesiynol
- ymgynghorydd treth
Mae’n rhaid iddo fodloni safonau CThEF ar gyfer asiantau. Dysgwch am yr hyn y mae angen i chi ei ystyried wrth ddewis asiant treth.
Mae’n rhaid i chi awdurdodi’ch asiant cyn iddo allu delio â CThEF ar eich rhan. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi awdurdodi’ch asiant i’w wneud ar eich rhan, bydd eich asiant yn gallu delio â’ch materion treth, er enghraifft cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os ydych yn asiant, gallwch gael gwybod sut i gael awdurdodiad gan eich cleient.
Gall ymgynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr (yn agor tudalen Saesneg) hefyd eich helpu gyda materion fel Treth Etifeddiant a threthi sy’n gysylltiedig â phrynu a gwerthu eiddo.