Awdurdodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan

Gallwch drefnu cael ‘cyfryngwr’ i ddelio â CThEF ar eich rhan. Gallai fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol.

Efallai y byddwch am wneud hyn os ydych yn sâl, os ydych wedi’ch anablu, neu os na allwch siarad Cymraeg na Saesneg.

Gall cyfryngwr wneud y canlynol:

  • siarad â CThEF ac ateb unrhyw gwestiynau ar eich rhan
  • eich helpu i lenwi ffurflenni

Ni fydd gan gyfryngwr fynediad at eich treth ar-lein.

Bydd yn rhaid i chi ysgrifennu at CThEF er mwyn awdurdodi cyfryngwr i’ch helpu i ddelio â’ch treth.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Mae’n rhaid i’r llythyr gynnwys y canlynol:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich cyfeirnod treth, er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • enw a chyfeiriad y person neu’r sefydliad yr hoffech ei awdurdodi
  • eich llofnod

Os na allwch lofnodi’r llythyr, bydd angen i chi gysylltu â CThEF neu gael rhywun arall i wneud hynny ar eich rhan.