Penodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan
Gofyn i ffrind neu berthynas reoli eich treth ar-lein
Gallwch ofyn i ffrind neu aelod o’ch teulu gofrestru er mwyn rheoli eich treth ar-lein – yr enw ar hyn yw ‘cynorthwyydd dibynadwy’.
Gall eich cynorthwyydd dibynadwy wneud y canlynol:
- gwirio eich bod yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm
- gwirio neu ddiweddaru eich cyfrif treth personol
- gwirio neu ddiweddaru eich buddiannau trethadwy (ceir cwmni neu yswiriant meddygol yn unig)
- gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- bwrw golwg dros eich cofnod Yswiriant Gwladol
Ni all eich cynorthwyydd dibynadwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i’ch helpu chi gyda’ch Hunanasesiad.
Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eich treth eich hun.