Y dreth ddim ar fin dod i ben

Defnyddiwch ffurflen V70W i newid dosbarth treth eich cerbyd os nad yw’r dreth ar fin dod i ben.

Rydych yn gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi wedi cael llythyr atgoffa neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’.

Beth i’w hanfon

Anfonwch y ffurflen i DVLA gyda:

  • thystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log) gydag unrhyw newidiadau wedi’u nodi arni
  • siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’ am unrhyw dreth cerbyd ychwanegol y mae’n rhaid ichi dalu - ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi neu sydd wedi’u newid
  • prawf o MOT gyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
  • prawf ysgrifenedig os ydych wedi lleihau maint yr injan neu wedi newid y math o danwydd, er enghraifft derbynneb injan newydd neu lythyr gan y garej a wnaeth y newid

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, mae hefyd angen ichi anfon:

  • tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn sicrwydd

Os nad yw’r V5CW gennych, lawrlwythwch a llenwch ffurflen V62W. Anfonwch i DVLA gyda’r ffi o £25.

DVLA
Abertawe
SA99 1BF

Lorïau a bysiau

Mae angen ichi hefyd anfon y canlynol os oes eu hangen ar gyfer eich cerbyd:

Beth sy’n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cadarnhad gan DVLA bod y newid wedi cael ei wneud.

  2. Bydd DVLA yn anfon V5CW sydd wedi’i diweddaru atoch.

  3. Byddwch yn derbyn ad-daliad os oes un yn ddyledus ichi.

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.