Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Neidio i gynnwys y canllaw

Beth yw Mynediad at Waith

Gall Mynediad at Waith eich helpu chi i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol.

Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Drwy Mynediad at Waith, fe allwch wneud cais am:

  • grant i’ch helpu dalu am gymorth ymarferol gyda’ch gwaith
  • cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith
  • arian i dalu ar gyfer cefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliadau gwaith

Cymorth ymarferol gyda’ch gwaith

Gallai Mynediad at Waith roi grant i’ch helpu dalu am bethau fel:

  • offer arbenigol a meddalwedd cynorthwyol
  • gweithwyr cefnogi, fel cyfieithwyr BSL, anogwr gwaith neu ffrind i deithio â nhw
  • costau teithio i’r gwaith, os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • addasiadau i’ch cerbyd fel eich bod yn gallu cyrraedd eich gwaith
  • newidiadau corfforol i’ch gweithle

Gall eich gweithle gynnwys eich cartref os ydych yn gweithio o adref rywfaint neu’r cyfan o’r amser.

Nid yw o bwys faint ydych yn ennill. Os ydych yn cael grant Mynediad at Waith, ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn ei gael a ni fydd rhaid i chi ei dalu nôl.

Efallai bydd rhaid i chi neu’ch cyflogwr dalu rhai costau o flaen llaw a’u hawlio nôl nes ymlaen.

Sut i wneud cais

Gwiriwch eich bod yn gymwys ac yna gwnewch gais am grant Mynediad at Waith.

Cefnogaeth iechyd meddwl

Gallwch gael cymorth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith, a allai gynnwys:

  • cynllun wedi’i deilwra i’ch helpu cael neu aros mewn gwaith
  • sesiynau un i un gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol

Sut i wneud cais

Gwiriwch os ydych yn gymwys ac yna gallwch gwneud cais yn uniongyrchol i un ai Able Futures neu Remploy.

Cefnogaeth cyfathrebu ar gyfer cyfweliadau swydd

Gall Mynediad at Waith helpu i dalu am gefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd os:

  • ydych yn fyddar dreu drwm eich clyw ac angen cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu siaradwr gwefus
  • os oes gennych gyflwr iechyd neu anhawster dysgu corfforol neu feddyliol ac angen cefnogaeth cyfathrebu

Darganfyddwch fwy a gwneud cais am gefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd.

Yr hyn ni all Mynediad at Waith dalu amdano

Ni all Mynediad at Waith dalu am addasiadau rhesymol. Mae rhain yn newidiadau mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud i’ch cefnogi chi i wneud eich swydd.

Bydd Mynediad at Waith yn cynghori eich cyflogwr os ddylai newidiadau gael eu gwneud fel addasiadau rhesymol.