Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Sgipio cynnwys

Cymhwyster

Fel rhan o Mynediad at Waith, fe allwch fod yn gymwys ar gyfer:

  • grant i helpu dalu am gefnogaeth ymarferol â’ch gwaith
  • cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith

Ar gyfer y mathau hyn o gefnogaeth, rhaid i chi:

  • fod â chyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu iechyd meddwl sy’n golygu eich bod angen cefnogaeth i wneud eich swydd neu gael i ac o’r gwaith
  • fod yn 16 oed neu drosodd
  • fod mewn gwaith cyflogedig (neu fod ar fin cychwyn neu ddychwelyd i waith cyflogedig yn y 12 wythnos nesaf)
  • byw a gweithio (neu ar fin cychwyn neu ddychwelyd i waith) yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban – mae system wahanol yng Ngogledd Iwerddon

Ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gallwch ond wneud cais am Fynediad at Waith unwaith. Os ydych wedi’i dderbyn yn flaenorol, ni allwch wneud cais eto.

Ni allwch gael Mynediad at Waith os ydych yn byw yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Eich anabledd, salwch neu gyflwr iechyd

Mae’n rhaid i chi fod ag anabledd, salwch neu gyflwr iechyd sy’n golygu eich bod angen cefnogaeth i wneud eich swydd.

Gall hyn gynnwys, er enghraifft:

  • anabledd corfforol, er enghraifft os ydych yn drwm eich clyw neu’n defnyddio cadair olwyn
  • anhawster dysgu neu gyflwr cysylltiedig, er enghraifft os oes gennych Syndrom Down’s
  • cyflwr datblygiadol, fel anhwylder sbectrwm awtistiaeth
  • cael ADHD neu dyslecsia
  • cyflwr megis diabetes neu epilepsy
  • cyflwr dros dro, fel coes wedi torri
  • cyflwr iechyd meddwl, er enghraifft pryder neu iselder

Nid oes rhaid eich bod wedi cael diagnosis i wneud cais.

Eich gwaith

Mae angen i chi gael swydd â thâl (neu fod ar fin dechrau neu ddychwelyd i un).

Gallai swydd â thâl fod yn llawn amser neu’n rhan amser a chynnwys:

  • cyflogaeth
  • hunangyflogaeth
  • prentisiaeth
  • treial gwaith neu brofiad gwaith
  • interniaeth
  • swydd breswyl

Ni allwch gael cefnogaeth Mynediad at Waith ar gyfer gwaith gwirfoddol.

Gallwch barhau i wneud cais am Fynediad at Waith os ydych chi’n gweithio gartref weithiau neu drwy’r amser.

Eich incwm a budd-daliadau

Gallwch gael Mynediad at Waith ar yr un amser â’r rhan fwyaf o fudd-daliadau, cyn belled eich bod yn gweithio mwy nag 1 awr yr wythnos.

Os ydych yn gyflogedig, gallwch gael cymorth ni waeth beth rydych yn ennill neu faint sydd gennych mewn cynilion.

Os ydych yn hunangyflogedig, rhaid bod gennych drosiant o leiaf £6,500.

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Fe allwch gael Mynediad at Waith a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yr un pryd os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos. Mae yna reolau am weithia tra’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am gyngor a chefnogaeth.

Os ydych yn was sifil

Bydd eich cyflogwr yn darparu cymorth yn lle Mynediad at Waith. Cysylltwch â’ch cyflogwr er mwyn iddynt allu asesu a threfnu’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Cael cyngor ar eich cymhwysedd

Os ydych yn ansicr os ydych yn gymwys, ffoniwch linell gymorth Mynediad at Waith.

Llinell gymorth Mynediad at Waith

Ffôn: 0800 121 7479
Ffôn Testun: 0800 121 7579
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau

Os yw galwadau ffôn yn anodd i chi (er enghraifft, oherwydd eich bod yn fyddar neu drwm eich clyw), fe allwch ofyn i holl gyfathrebu fod drwy gyfrwng e-bost yn lle.