Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Sgipio cynnwys

Hawlio arian o’ch grant

Gallwch hawlio arian o’ch grant ar-lein neu drwy’r post.

Beth sydd angen arnoch i hawlio

I hawlio arian o’ch grant bydd angen i chi ddarparu:

  • y dyddiadau wnaethoch gael cymorth
  • anfonebau neu dderbynebau’n dangos cost eich cymorth
  • manylion banc y person neu gwmni a fydd yn derbyn yr arian o’r grant

Efallai byddwch hefyd angen manylion cyswllt o’r gweithle a all gadarnhau’r cymorth rydych yn gwneud cais amdano.

Hawlio ar-lein

Bydd angen GOV.UK One Login arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Gallwch greu GOV.UK One Login os nad oes gennych un eisoes.

Byddwch yn cael gwybod pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen i chi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel. Fel arfer mae hwn yn cynnwys defnyddio ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru, ond mae yna ffyrdd eraill i brofi eich hunaniaeth os nad oes gennych ID gyda llun.

Bydd angen llythyr arnoch yn cadarnhau os yw’ch grant wedi’i gymeradwyo cyn i chi allu hawlio.

Hawlio ar-lein

Hawlio trwy’r post

Cwblhewch y ffurflen gais papur a anfonwyd gyda’ch Llythyr Penderfyniad Mynediad at Waith i hawlio arian o’ch grant trwy’r post.

Mae angen i chi gynnwys unrhyw anfonebau neu dderbynebau y gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais. Gallwch anfon copïau os nad oes gennych y rhai gwreiddiol.

Gallwch ffonio’r llinell gymorth Mynediad at Waith i gael ffurflen gais papur os oes angen un arnoch.

Os ydych angen help gyda’ch cais

Ffoniwch linell gymorth Mynediad at Waith os:

  • ydych angen help gyda’ch cais
  • nad oes gennych y wybodaeth sydd ei angen i wneud cais
  • ydych angen help i sefydlu eich cyfrif ar-lein
  • yw eich grant yn rhedeg allan ac rydych angen mwy o arian i dalu am rywbeth mae eich llythyr penderfyniad yn nodi sydd ei angen arnoch.

Llinell gymorth Mynediad at Waith

Ffôn: 0800 121 7479
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau

Os yw galwadau ffôn yn anodd i chi (er enghraifft, oherwydd eich bod yn fyddar neu drwm eich clyw), fe allwch ofyn i holl gyfathrebu fod drwy gyfrwng e-bost yn lle.