Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Neidio i gynnwys y canllaw

Ar ôl i chi wneud cais am y grant

Bydd rhywun o Mynediad at Waith yn cysylltu â chi i siarad am eich cais.

Os yw galwadau ffôn yn anodd i chi (er enghraifft, oherwydd eich bod yn fyddar neu drwm eich clyw), fe allwch ofyn i holl gyfathrebu fod drwy gyfrwng e-bost yn lle.

Efallai y bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi yn gofyn:

  • am fwy o wybodaeth am eich gwaith a’ch anabledd neu gyflwr iechyd
  • am ganiatâd i siarad a’ch cyflogwr
  • i drefnu asesydd i’ch ffonio neu alw yn eich gweithle drwy alwad fideo neu wyneb yn wyneb – i ddarganfod pa newidiadau all helpu

Byddwch yn derbyn llythyr â phenderfyniad ac eglurhad. Bydd y llythyr yn dweud wrthych faint fydd eich grant a be ddylai dalu amdano.

Os yw eich amgylchiadau yn newid

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Mynediad at Waith drwy ffonio’r linell gymorth os yw’ch amgylchiadau yn newid.

Gallai hyn fod, er enghraifft:

  • eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt neu gyfeiriad gweithle yn newid
  • eich bod yn newid swydd
  • eich anabledd, salwch neu gyflwr iechyd yn newid

Llinell gymorth Mynediad at Waith

Ffôn: 0800 121 7479
Ffôn testun: 0800 121 7579
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad neu eisiau cwyno

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad, ffoniwch linell gymorth Mynediad at Waith i ofyn rhywun i ailystyried eich cais.

Gallwch hefyd ffonio’r linell gymorth os ydych yn anhapus â sut cafodd eich cais ei drin neu y gwasanaeth rydych wedi’i gael.