Canllawiau

Gwneud cais am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd (Mynediad at Waith)

Gallwch wneud cais i Fynediad at Waith i gael arian ar gyfer cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad am swydd.

Trosolwg

Gallwch wneud cais i Fynediad at Waith i gael arian ar gyfer cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad am swydd.

Mae’r arian yn talu am weithiwr cymorth cyfathrebu i fynd i’ch cyfweliad swydd gyda chi.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • ydych yn Fyddar neu’n drwm eich clyw ac mae angen cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain neu wefuslefarydd arnoch
  • oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anhawster dysgu ac mae angen cymorth cyfathrebu arnoch

Mae angen i chi wneud cais cyn i’r cyfweliad ddigwydd a dweud wrthym gyfanswm cost y cymorth cyfathrebu y bydd ei angen arnoch. I gael help i ddod o hyd i gymorth cyfathrebu a chael costau, gallwch gysylltu â’ch ymgynghorydd cyflogaeth neu sefydliad sy’n arbenigo mewn cefnogi pobl gyda’ch anghenion.

Rydym yn talu’r costau ar ôl cynnal y cyfweliad swydd.

Nid oes yn rhaid ad-dalu’r arian ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae yna system wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Cymhwyster

I gael cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd, mae’n rhaid bod :

  • gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu bod angen cymorth cyfathrebu arnoch mewn cyfweliadau swydd
  • yn 16 oed neu’n hŷn
  • yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • gennych ddyddiad cyfweld ar gyfer swydd â thâl neu brentisiaeth yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, neu interniaeth â chymorth yr Adran Addysg

Pan na allwch wneud cais

Ni allwch wneud cais os:

  • rydych yn byw yn Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw
  • mae’ch cyfweliad swydd eisoes wedi digwydd
  • mae’r cyfweliad ar gyfer rôl gwirfoddolwr
  • rydych yn mynd i sesiwn ymsefydlu swydd neu adolygiad swydd

Sut i wneud cais

Gwiriwch eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.

Gallwch wneud cais am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ar-lein neu dros y ffôn.

Beth fydd angen i chi ei ddarparu

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • enw’r cwmni y mae eich cyfweliad swydd ag ef
  • dyddiad eich cyfweliad swydd
  • pa mor hir y disgwylir i’ch cyfweliad swydd bara
  • enw a manylion cyswllt rhywun yn y cwmni – byddwn ond yn cysylltu â’r person hwn ar ôl eich cyfweliad swydd i gadarnhau ei fod wedi ei gynnal

Bydd angen i chi hefyd ddweud wrthym gyfanswm cost eich cymorth cyfathrebu yn y cyfweliad swydd. Gofynnwch i’r person sy’n darparu eich cymorth i gynnwys:

  • costau’r gweithwyr cymorth
  • costau teithio’r gweithwyr cymorth
  • costau gweinyddu
  • TAW

Gwnewch gais ar-lein

Gwneud cais dros y ffôn

Gallwch wneud cais drwy ffonio’r llinell gymorth Mynediad at Waith. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl fanylion angenrheidiol wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Llinell gymorth Mynediad at Waith
Ffôn: 0800 121 7479
Ffôn testun: 0800 121 7579
RelayUK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi:

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30 pm

Fformatau eraill

Ffoniwch y rhif Mynediad at Waith i ofyn am fformatau eraill, fel braille, print bras neu CD sain.

Cwynion

Gallwch gysylltu â Mynediad at Waith i gwyno os nad ydych yn hapus â sut gwnaethom ymdrin â’ch achos.

Ar ôl i chi wneud cais

  1. Bydd ymgynghorydd yn dweud wrthych y penderfyniad, gan ddefnyddio’ch dull cyswllt dewisol, o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwn yn postio cadarnhad a ffurflen gais atoch.
  2. Unwaith y byddwn wedi cytuno i dalu am eich cymorth cyfathrebu, gallwch drefnu eich gweithiwr cymorth ar gyfer y cyfweliad swydd, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
  3. Ar ôl cynnal eich cyfweliad swydd, gellir hawlio’r taliad. Mae angen i hyn gynnwys yr anfoneb. Bydd angen i chi lofnodi’r ffurflen gais i gadarnhau ei bod yn iawn.
  4. Bydd Mynediad at Waith yn talu’r cais os yw cost yr anfoneb yn cyfateb i’r gost y dywedasoch wrthym pan wnaethoch gais.
Cyhoeddwyd ar 3 July 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 May 2021 + show all updates
  1. Added a link to the British Sign Language (BSL) version of the guide.

  2. Added translation