Lwfans Priodasol

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut mae’n gweithio

Mae’r Lwfans Priodasol yn caniatáu i chi drosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch priod neu bartner sifil.

Gall hyn ostwng treth eich priod neu bartner sifil hyd at £252 yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

I elwa fel pâr, fel arfer mae’n rhaid i chi (fel yr unigolyn â’r cyflog isaf) gael incwm llai na’ch Lwfans Personol - £12,570 yw hyn fel arfer.

Gallwch gyfrifo faint o dreth y gallech ei chadw fel cwpl. Dylech ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM yn lle hynny os ydych yn cael incwm arall fel difidendau, cynilion neu fuddiannau o’ch swydd. Gallwch hefyd ffonio os nad ydych yn gwybod beth yw’ch incwm trethadwy.

Pan fyddwch yn trosglwyddo rhywfaint o’ch Lwfans Personol i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth eich hun, ond gallech ddal i dalu llai fel cwpl.

Enghraifft

Eich incwm yw £11,500 a’ch Lwfans Personol yw £12,570, felly nid ydych yn talu treth.

Incwm eich partner yw £20,000 a’i Lwfans Personol yw £12,570, felly mae’n talu treth ar £7,430 (ei ‘incwm trethadwy’). Mae hyn yn golygu fel cwpl eich bod yn talu Treth Incwm ar £7,430.

Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Priodasol, byddwch yn trosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch partner. Mae’ch Lwfans Personol yn dod i £11,310 ac mae’ch partner yn cael ‘credyd treth’ ar £1,260 o’i incwm trethadwy.

Mae hyn yn golygu y byddwch nawr yn talu treth ar £190, ond dim ond ar £6,170 y bydd eich partner yn talu treth. Fel cwpl rydych yn elwa, gan yr ydych ond yn talu Treth Incwm ar £6,360 yn hytrach na £7,430, sy’n arbed £214 mewn treth i chi.

Pwy all wneud cais

Gallwch elwa o’r Lwfans Priodasol os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • nid ydych yn talu Treth Incwm neu mae’ch incwm o dan eich Lwfans Personol (fel arfer £12,570)
  • mae’ch partner yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol, sydd fel arfer yn golygu bod incwm eich partner rhwng £12,571 a £50,270 cyn iddo gael Lwfans Priodasau

Ni allwch hawlio Lwfans Priodasol os ydych yn byw gyda’ch gilydd ond nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os ydych yn yr Alban, mae’n rhaid i’ch partner dalu’r gyfradd gychwynnol, sylfaenol neu ganolradd, sydd fel arfer yn golygu bod ei incwm rhwng £12,571 a £43,662.

Ni fydd yn effeithio ar eich cais am Lwfans Priodas os ydych chi neu’ch partner:

Os cawsoch chi neu’ch partner eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai y byddwch yn elwa mwy fel cwpl drwy wneud cais am y Lwfans Pâr Priod (yn Saesneg) yn lle hynny.

Ni allwch gael y Lwfans Priodasol a’r Lwfans Pâr Priod ar yr un pryd.

Ôl-ddyddio’ch hawliad

Gallwch ôl-ddyddio’ch hawliad i gynnwys unrhyw flwyddyn dreth ers 5 Ebrill 2020 pan oeddech yn gymwys i gael y Lwfans Priodasol.

Bydd bil treth eich partner yn cael ei ostwng yn dibynnu ar gyfradd y Lwfans Personol am y blynyddoedd rydych yn eu hôl-ddyddio.

Os bu farw eich partner ers 5 Ebrill 2020, gallwch hawlio o hyd - ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM. Os mai’ch partner oedd yn ennill yr incwm lleiaf, y person oedd yn gyfrifol am reoli ei faterion treth ddylai ffonio.

Dod â’r Lwfans Priodasol i ben

Bydd eich Lwfans Personol yn trosglwyddo’n awtomatig i’ch partner bob blwyddyn nes i chi ganslo’r Lwfans Priodasol - er enghraifft os bydd eich incwm yn newid neu os daw’ch perthynas i ben.