Helpu rhywun gyda’i gais am fudd-dal
Cael cyngor a gwybodaeth am gais rhywun
Mae sut y gallwch gael cyngor a gwybodaeth yn dibynnu ar y budd-daliadau sy’n cael eu hawlio. Am:
- Gredyd Cynhwysol – rhaid i’r person sydd yn hawlio ddilyn y broses ganiatâd benodol
- Budd-dal Plant – defnyddiwch y gwasanaeth awdurdodi Budd-dal Plant
- credyd treth – defnyddiwch y gwasanaeth awdurdodi credyd treth
- unrhyw fudd-dal arall – defnyddiwch y gwasanaeth ‘ymholiadau eraill’
Yr hyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ymholiadau eraill ar ei gyfer:
Gallwch ddarganfod wybodaeth benodol am fudd-dal rhywun arall, fel:
- pa gam y mae’r cais wedi’i gyrraedd
- sut a pham y mae penderfyniad wedi’i wneud am gais
- sut y cyfrifwyd gwerth cais
- pa gamau a gymerir yn y dyfodol ynghylch y cais
- beth yw’r camau nesaf i’r person sydd wedi gwneud y cais
Gallwch hefyd roi gwybod i’r llinell gymorth am newidiadau i amgylchiadau byw’r person, er enghraifft os ydynt yn mynd i mewn i’r ysbyty. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio unrhyw newidiadau cyn diweddaru cais.
Yr hyn na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar ei gyfer
Ni allwch gael gwybodaeth bersonol am y person sydd yn hawlio budd-daliadau, fel:
- cyfeiriad
- Dyddiad geni
- manylion banc neu gymdeithas adeiladu
- rhif Yswiriant Gwladol
- rhif ffôn
Ni allwch ychwaith ddefnyddio’r gwasanaeth i reoli cais budd-dal rhywun, fel apelio yn erbyn penderfyniad ar ei ran neu ddod â’i gais i ben.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth
Gall unrhyw un sydd â chysylltiad gwirioneddol â’r person sy’n hawlio budd-daliadau ddefnyddio’r gwasanaeth ymholiadau eraill.
Mae hynny’n cynnwys os ydych yn ffonio:
- ar ran aelod o’r teulu neu ffrind
- fel rhan o’ch swydd, er enghraifft os ydych yn weithiwr cymdeithasol, nyrs neu feddyg neu os ydych yn gweithio i sefydliad cyngor neu hawliau lles
Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth
Mae pwy rydych yn ei ffonio yn dibynnu ar y budd-dal. Am:
- Lwfans Gweini – cysylltwch â llinell gymorth Lwfans Gweini yn y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd
- Lwfans Byw i’r Anabl – cysylltwch â llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl yn y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd
- Pensiwn y Wladwriaeth – cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) – cysylltwch â llinell ymholiad PIP
- unrhyw fudd-dal arall (heblaw am Gredyd Cynhwysol, Budd-dal Plant a Chredyd Treth) – cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith
Dywedwch eich bod yn edrych am ymholiad arall i gais budd-dal rhywun arall.
Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn gwirio bod gennych gysylltiad gwirioneddol â’r person sy’n hawlio budd-daliadau. Gall hynny olygu gofyn cwestiynau am:
- fanylion personol y person hwnnw
- manylion personol cais budd-dal y person hwnnw
- eich rhif ffôn neu’ch cyfeiriad e-bost, os ydych yn ffonio fel rhan o’ch swydd neu ar ran sefydliad.
Efallai y byddant hefyd yn cysylltu â’r person sy’n hawlio’r budd-daliadau er mwyn gwirio a ydynt yn hapus i chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Os ydych yn gallu profi eich cysylltiad go iawn
Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn gallu eich helpu. Os ydych am ddefnyddio’r gwasanaeth eto ar alwad arall, efallai bydd angen i chi ailadrodd y gwiriadau.
Os na allwch brofi eich cysylltiad go iawn
Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Gall y sawl sy’n delio â’r alwad awgrymu ffyrdd eraill y gallwch helpu’r person gyda’i gais.