Canllawiau

Credyd Cynhwysol: caniatâd a datgelu gwybodaeth

Sut y gall hawlwyr Credyd Cynhwysol roi caniatâd i’w gwybodaeth gael ei rannu gyda pherson neu sefydliad i’w helpu hwy i ddelio â’u cais.

Mae’r canllaw hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall rhywun weithredu fel penodai ar gyfer hawlydd Credyd Cynhwysol neu gael pŵer atwrnai arhosol.

Caniatâd a chynrychiolwyr

Gallwch ofyn person neu sefydliad arall i ddelio â’ch cais os ydych yn teimlo na allwch:

  • dod o hyd i’r wybodaeth rydych ei angen
  • deall pethau am eich cais

Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod eich cais.

Rhaid i chi roi eich caniatâd i ganiatáu i berson neu sefydliad arall:

  • gweithredu ar eich rhan
  • cael mynediad i wybodaeth berthnasol amdanoch

Gelwir y caniatâd hwn yn ganiatâd penodol.

Rydym yn galw rhywun sy’n delio â gwybodaeth ar eich rhan yn ‘gynrychiolydd’. Mae cynrychiolydd yn wahanol i benodai – nid yw’n benodiad gyda sail gyfreithiol.

Gall cynrychiolydd fod yn unrhyw berson neu sefydliad sy’n gweithredu ar eich rhan neu’n gwneud ymholiadau ar eich rhan. Rhaid i chi roi caniatâd penodol cyn y gellir datgelu gwybodaeth i gynrychiolydd.

Gallwch roi caniatâd penodol yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod eich cais Credyd Cynhwysol.

Mae’n rhaid i chi:

  • rhoi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu gyda’r cynrychiolydd
  • amlinellu pa wybodaeth rydych am gael ei datgelu
  • egluro pam mae angen y wybodaeth
  • egluro perthynas y cynrychiolydd â chi ble mae’r cynrychiolydd yn aelod o’ch teulu neu ffrind
  • rhoi enw’r cynrychiolydd a’r sefydliad, gan gynnwys y gangen lle y bo hynny’n berthnasol. Os na allwch ddarparu enw’r cynrychiolydd, mae angen i chi fod mor benodol â phosibl, er enghraifft dylech ddarparu manylion swydd y cynrychiolydd neu enw’r tîm o fewn y sefydliad

Nid yw caniatâd penodol yn para am byth, mae fel arfer yn para tan naill mae’r cais penodol wedi cael ei gwblhau neu ar ddiwedd y cyfnod asesu, ar ôl yr un y rhoddwyd caniatâd.

Cyfnod asesu yw’r cyfnod misol mae eich Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo a’i dalu.

Gallwch dynnu’n ôl caniatâd ar gyfer cynrychiolydd unrhyw bryd:

  • drwy roi nodyn yn eich dyddlyfr ar-lein
  • yn bersonol, mewn cyfweliad yn y ganolfan gwaith

Unwaith y byddwch wedi rhoi caniatâd penodol, bydd angen i’r cynrychiolydd gadarnhau’r manylion canlynol i dderbyn gwybodaeth berthnasol amdanoch chi a’ch cais Credyd Cynhwysol:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad neu ddyddiad geni
  • pa wybodaeth rydych wedi cytuno i’w rhannu
  • y diben i’r wybodaeth sydd yn cael ei rhannu
  • eu henw neu’r sefydliad maent yn perthyn iddo (ble y bo’n berthnasol)

Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch pwy yw’r cynrychiolydd sy’n gwneud y cais, ni ddatgelir unrhyw wybodaeth.

Gwybodaeth na fydd byth yn cael ei ddatgelu gan DWP

Ni fydd y wybodaeth ganlynol byth yn cael ei rhoi i gynrychiolydd, hyd yn oed os ydych wedi rhoi caniatâd penodol:

  • eich cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich manylion banc (cod didoli, rhif y cyfrif, enw deilydd cyfrif)
  • eich rhifau ffôn
  • enwau aelodau eich cartref
  • enwau eich cyflogwyr neu gyn-gyflogwyr

Datgelu gwybodaeth i landlordiaid cymdeithasol

Mae landlordiaid cymdeithasol yn ddarparwyr cartrefi cymdeithasol. Fel arfer maent yn gynghorau neu gymdeithasau tai ‘dim er elw’.

Os ydych yn methu â rheoli’ch arian neu os ydych wedi syrthio i ôl-ddyledion rhent, gallwch drefnu i’ch costau tai gael eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord. O fewn Credyd Cynhwysol gelwir hyn yn ‘drefniadau talu amgen’.

Gellir rhannu’r wybodaeth ganlynol gyda landlordiaid cymdeithasol heb fod angen rhoi caniatâd penodol:

  • gwybodaeth am drefniadau talu amgen yr hawlydd
  • unrhyw hanes o droseddau perthnasol y gallai fod gennych, er enghraifft ymddygiad gwrth cymdeithasol neu ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar yr ardal leol

Ni fydd gan landlordiaid cymdeithasol hawl i gael unrhyw ddata personol amdanoch chi. Bydd bob cais am wybodaeth yn cael ei ystyried o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Gall landlordiaid cymdeithasol dderbyn y wybodaeth ganlynol:

  • dyddiad dechrau’r taliadau tai i’r landlord
  • pryd gall y landlord ddisgwyl gael y taliad cyntaf
  • swm y taliad nesaf o daliad tai Credyd Cynhwysol tuag at eich rhent
  • os oes unrhyw newidiadau wedi bod i’r swm o gostau tau i’w talu (ni ddarperir na drafodir y rhesymau dros y newidiadau)

Datgan gwybodaeth i landlordiaid preifat

Mae landlordiaid preifat fel arfer yn landlordiaid sy’n berchen ar yr eiddo maent yn ei rentu allan.

Gall landlordiaid preifat fod yn:

  • cwmni sy’n berchen ar lawer o eiddo
  • person neu deulu sy’n berchen ar un neu fwy o eiddo

Gall landlordiaid preifat ofyn i gostau tai Credyd Cynhwysol eu tenant gael eu talu yn uniongyrchol iddynt hwy heb ganiatâd penodol.

Byddwch yn cael gwybod bod y landlordiaid preifat wedi gofyn i gostau tai Credyd Cynhwysol gael eu talu yn uniongyrchol iddynt hwy.

Os ydych yn hapus i’ch costau tai Credyd Cynhwysol gael eu talu yn uniongyrchol i’r landlord, nid oes angen i chi ateb i roi eich caniatâd.

Yna, bydd y costau tai Credyd Cynhwysol yn cael eu talu’n awtomatig i’r landlord bob mis. Os nad ydych eisiau i’r rhent gael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord, gallwch ddadlau yn erbyn hyn.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth nad ydych mewn ôl-ddyledion rhent er mwyn dadlau yn erbyn y trefniadau talu amgen.

Unwaith mae’r taliad uniongyrchol i’r landlord preifat (y trefniadau talu amgen) wedi cael ei sefydlu, gellir datgelu’r wybodaeth ganlynol i’r landlord:

  • dyddiad dechrau eich taliadau tai i’r landlord
  • pryd gall y landlord ddisgwyl derbyn eu taliad cyntaf
  • swm taliad nesaf eich costau tai Credyd Cynhwysol
  • os oes unrhyw newidiadau wedi bod i’r swm o gostau tau i’w talu (ni ddarperir na drafodir y rhesymau dros y newidiadau)

Gall landlord preifat weithredu fel cynrychiolydd i hawlydd ond byddant bob amser angen eich caniatâd penodol i wneud hynny, oni bai ei fod i’r diben penodol o wneud cais am drefniadau talu amgen.

Pryd gall DWP rannu eich gwybodaeth heb ganiatâd

Mae amgylchiadau pryd gall DWP rannu eich gwybodaeth heb ganiatâd penodol. Y rhain yw:

  • gorchmynion llys
  • pyrth cyfreithiol
  • AS yn ymgysylltu â Chredyd Cynhwysol ar ran eu hetholwyr
  • diddordeb cyhoeddus

Gorchmynion llys

Os oes gorchymyn llys mewn lle, nid oes angen i DWP gael eich caniatâd i ddatgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdano.

Pyrth cyfreithiol

Mae yna gyfraith sy’n caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â sefydliad os ydynt yn gweithredu mewn swyddogaeth les.

Er enghraifft, gall DWP rannu gwybodaeth hawlydd ag awdurdod lleol (a’u cynrychiolydd hawliau lles) os yw’n helpu’r hawlydd gyda Chymorth Cyllidebu Personol a Chymorth Cynhwysol.

AS yn ymgysylltu â Chredyd Cynhwysol ar ran eu hetholwyr

Bydd unrhyw ohebiaeth, (ymholiadau llythyr, e-bost neu ffôn) sy’n ymwneud â Chredyd Cynhwysol yn cael eu hateb yn uniongyrchol i’r AS heb fod angen eich caniatâd. Fodd bynnag, mae’n arfer cyffredin i AS gynnwys caniatâd penodol gennych wrth gysylltu â’r adran yn ysgrifenedig.

Diddordeb cyhoeddus

Pan fydd er budd gorau’r cyhoedd, gellir datgelu heb eich caniatâd. Er enghraifft, hawlwyr ag anghenion cymhleth. Bydd y ceisiadau hyn am ddatgeliad fel arfer yn dod gan yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

Penodai

Gall unigolyn neu sefydliad arall wneud cais am yr hawl i ddelio â chais Credyd Cynhwysol rhywun sy’n methu â rheoli eu materion eu hunain oherwydd, er enghraifft, efallai eu bod yn feddyliol analluog neu’n ddifrifol anabl.

Yn wahanol i gynrychiolydd mae hwn yn benodiad ar sail y gyfraith.

Gall penodai fod yn:

  • unigolyn, fel ffrind neu berthynas - gelwir y rhain yn benodai unigol
  • sefydliad neu gynrychiolydd sefydliad, fel cyfreithiwr neu gyngor lleol - gelwir y rhain yn benodai corfforaethol

Efallai byddai’n well gan rhai hawlwyr Credyd Cynhwysol gael penodai corfforaethol yn lle penodai unigol. Elusennau neu awdurdodau lleol yw’r rhain fel rheol. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw aelod o staff y sefydliad hwnnw weithredu ar eich rhan.

Cyfrifoldebau penodai

Fel penodai rydych yn gweithredu ar ran yr hawlydd at bob dibenion budd-dal.

Os cewch eich penodi i wneud y cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch wedyn yn cael y grym cyfreithiol i weithredu ar ran yr hawlydd ac yn gyfrifol am gynnal y cais ar eu rhan.

Disgwylir i chi ateb cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych chi, ond nid oes angen caniatâd penodol i ddatgelu gwybodaeth (gweler yr adran Caniatâd a chynrychiolwyr y dudalen hon).

Mae’n rhaid i chi:

  • dweud wrth DWP am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol mae’r hawlydd yn ei gael
  • gwario’r taliad Credyd Cynhwysol (a delir yn uniongyrchol i chi) er budd gorau’r hawlydd
  • dweud wrth DWP os nad oes angen i chi fod yn benodai mwyach, er enghraifft os gall yr hawlydd nawr reoli eu materion eu hun
  • dweud wrth DWP am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau eich hun a all effeithio ar eich gallu i fod yn benodai

Os yw Credyd Cynhwysol yn cael ei ordalu oherwydd, er enghraifft, na wnaethoch ddweud wrthym am newid yn amgylchiadau’r hawlydd, gallech gael eich dal yn gyfrifol.

Gwneud cais i fod yn benodai Credyd Cynhwysol

I siarad â rhywun am ddod yn benodai, dylech ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 1744
Relay UK – os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Mae hefyd gwybodaeth am ddod yn benodai ar gyfer rhywun sydd ar fudd-daliadau oni bai am Gredyd Cynhwysol.

Pŵer atwrnai

Mae pŵer atwrnai arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n gadael i chi benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn ‘atwrnai’) i’ch helpu i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros yr hyn sy’n digwydd i chi os cewch ddamwain neu salwch ac na allwch wneud eich penderfyniadau eich hun (efallai oherwydd eich bod yn ‘brin o alluedd meddyliol’).

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd a bod a galluedd meddyliol (y gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun) pan fyddwch yn gwneud eich LPA.

Nid oes angen i atwrnai fyw yn y DU na bod yn ddinasyddion Prydeinig. Mae 2 fath o LPA:

  • iechyd a lles
  • eiddo a materion ariannol

Gallwch ddewis i wneud un math neu’r ddau.

Mae proses wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

I wneud pŵer atwrnai arhosol:

  1. dewiswch eich atwrnai (gallwch gael mwy nag un)
  2. llenwch y ffurflenni i’w penodi fel eich atwrnai
  3. cofrestrwch eich LPA gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (gall hyn gymryd hyd at 10 wythnos)

Mae’n costio £82 i gofrestru LPA oni bai eich bod yn cael gostyngiad neu eithriad.

Gallwch ganslo eich LPA os nad ydych ei angen mwyach neu rydych eisiau gwneud un newydd.

Pŵer atwrnai arhosol iechyd a lles

Gallwch ddefnyddio LPA iechyd a lles i roi’r pŵer i atwrnai gwneud penderfyniad am bethau fel:

  • trefniadau dyddiol, er enghraifft ymolchi, gwisgo, bwyta
  • gofal meddygol
  • symud i gartref gofal
  • triniaeth cynnal bywyd

Gall ond cael ei ddefnyddio pan rydych yn methu â gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Pŵer atwrnai arhosol eiddo a materion ariannol

Gallwch ddefnyddio LPA eiddo a materion ariannol i roi’r pŵer i atwrnai gwneud penderfyniad am arian ac eiddo i chi, er enghraifft:

  • rheoli cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • talu biliau
  • casglu budd-daliadau neu bensiwn
  • gwerthu eich cartref

Gellir ei ddefnyddio cyn gynted â’i fod wedi’i gofrestru, gyda’ch caniatâd chi.

Help i benderfynu os dylech wneud pŵer atwrnai arhosol

Cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os ydych angen help.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

E-bost: customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk

Ffôn: 0300 456 0300
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, Mawrth, Iau, Gwener, 9am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau.

Cyhoeddwyd ar 5 March 2018