Budd-daliadau salwch ac anaf

Tâl salwch statudol (SSP)

Gallwch gael SSP os ydych yn gymwys ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio am gyflogwr DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir
  • rydych yn gweithio y tu allan i’r AEE ac mae’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich cyfer

Cysylltwch â’ch cyflogwr i hawlio SSP.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Gallwch gael ESA am hyd at 4 wythnos os ydych yn mynd dramor. Siaradwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol cyn i chi fynd.

Mynd dramor am fwy na 4 wythnos ond llai na blwyddyn

Rhowch wybod i’ch Canolfan Byd Gwaith lleol os ydych yn mynd dramor am fwy na 4 wythnos.

Gallwch barhau i dderbyn ESA yn Seiliedig ar Gyfraniadau am hyd at 26 wythnos os ydych yn mynd dramor am driniaeth feddygol am eich hun neu’ch plentyn.

Nid oes ots i ba wlad rydych chi’n mynd.

Mynd dramor am fwy na blwyddyn

Efallai cewch ESA yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn yr AEE neu’r Swistir os ydych:

  • yn gymwys
  • wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael

Darganfyddwch a allwch gael ESA yn seiliedig ar Gyfraniadau yn yr AEE neu’r Swistir.

Help a chyngor ar ESA

Canolfan Bensiwn Ryngwladol Ffôn +44 (0) 191 206 9390 Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth cyfnewid video os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)

Os ydych yn cael Budd-dal Anafiadau Diwydiannol ar gyfer salwch a damweiniau sy’n gysylltiedig â gwaith, gallwch barhau i gael hwn dramor.

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-dal os ydych yn y DU o hyd, neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.

Help a chyngor ar IIDB

Canolfan Pensiwn Rhyngwladol Ffôn +44 (0) 191 206 9390 Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth cyfnewid video os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn