Trosolwg

Efallai gallwch barhau i hawlio rhai budd-daliadau os ydych yn teithio neu’n symud dramor, neu os ydych yn barod yn byw dramor. Mae’r hyn y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar ble rydych yn mynd ac am faint o amser.

Gyda phwy i gysylltu os ydych yn mynd dramor

Dywedwch wrth eich Canolfan Byd Gwaith neu wrth y swyddfa sy’n talu eich budd-dal os ydych yn mynd dramor. Os mai symudiad dros dro ydyw, dywedwch wrthynt pan fyddwch yn dychwelyd.

Bydd hefyd rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn gadael y DU

Hawlio pan ydych dramor

Os ydych yn mynd i (neu yn barod yn byw mewn) gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu gwlad gyda threfniadau arbennig gyda’r DU, efallai gallwch hawlio:

  • budd-daliadau yn y DU
  • budd-daliadau sydd wedi’i ddarparu gan y wlad yr ydych yn symud i

Gallwch hefyd hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth tramor.

Hawlio budd-daliadau mewn gwlad AEE neu’r Swistir

Os ydych yn byw neu’n bwriadu mynd i wlad AEE neu’r Swistir efallai gallwch hawlio rhai budd-daliadau’r DU.

Darganfyddwch os gallwch gael budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir

Pryd fyddwch yn cael eich taliad

Mae’r dyddiad yr ydych yn cael eich taliad yn dibynnu ar ba fudd-dal rydych yn ei hawlio.

Os ydych yn byw dramor ac yn disgwyl eich taliad yn yr un wythnos â gŵyl banc yr UD, gallai gyrraedd diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o’r UD yn prosesu’r taliadau hyn.

Twyll budd-daliadau

Rydych yn cyflawni twyll budd-dal os:

  • nad ydych yn rhoi gwybod i’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal eich bod yn mynd dramor, hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer ymweliad ydyw
  • nad ydych yn rhoi gwybod yn fwriadol am newid yn eich amgylchiadau tra byddwch dramor, fel prynu eiddo, gweithio, neu hawlio pensiwn neu fudd-dal o wlad arall
  • ydych yn anonest er mwyn cael budd-daliadau, fel parhau i hawlio pensiwn neu fudd-dal rhywun sydd wedi marw dramor