Skip to main content

Tâl Salwch Statudol (SSP)

Sgipio cynnwys

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • cael eich ystyried i fod yn gyflogai
  • wedi gwneud rhywfaint o waith dros eich cyflogwr
  • wedi bod yn sâl am o leiaf un diwrnod gwaith llawn

Gall gweithwyr asiantaeth fod â hawl i Dâl Salwch Statudol.

Rhoi gwybod i’ch cyflogwr

Mae’n rhaid i chi fel arfer roi gwybod i’ch cyflogwr na allwch weithio cyn y dyddiad cau a osodir ganddo (neu cyn pen 7 diwrnod os na osodir un).

Gallech golli peth o’ch SSP os na rowch wybod i’ch cyflogwr mewn pryd.

Eithriadau

Ni fyddwch yn gymwys os ydych:

  • wedi cael uchafswm yr SSP (28 wythnos)
  • yn cael Tâl Mamolaeth Statudol

Gallwch fod yn gymwys o hyd os gwnaethoch ddechrau’ch swydd yn ddiweddar ac nid ydych wedi cael cyflog am 8 wythnos o waith hyd yma. I gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i’ch cyflogwr.

Cyfnodau cysylltiedig o salwch

Os oes gennych gyfnodau rheolaidd o salwch, gallent gael eu hystyried i fod ‘yn gysylltiedig’. I fod yn gysylltiedig, mae’n rhaid i’r cyfnodau:

  • para mwy nag un diwrnod gwaith llawn
  • bod 8 wythnos neu lai oddi wrth ei gilydd

Nid ydych yn gymwys mwyach i gael SSP os oes gennych gyfres barhaus o gyfnodau cysylltiedig sy’n para mwy na 3 blynedd.

Nodynnau ffitrwydd a gofyn am dystiolaeth

Mae’n rhaid i chi roi nodyn ffitrwydd i’ch cyflogwr os ydych i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad ydych yn gweithio).

Gallwch gael nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau’n nodyn salwch) gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • Meddyg Teulu neu ddoctor yn yr ysbyty
  • nyrs gofrestredig
  • therapydd galwedigaethol
  • fferyllydd
  • ffisiotherapydd

Gall y nodyn fod yn gopi wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.

Tystiolaeth arall o salwch

Os yw’ch cyflogwr yn cytuno, gallwch roi math priodol arall o dystiolaeth iddo yn lle nodyn ffit, fel:

  • Adroddiad Iechyd a Gwaith Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i iechyd (AHP) gan ffisiotherapydd neu therapydd galwedigaethol, er enghraifft
  • cynllun i gefnogi dychwelyd i’r gwaith

Os nad ydych yn gymwys neu os yw’ch SSP yn dod i ben

Efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Gallwch ddefnyddio ffurflen SSP1 i ategu’ch cais.

Os yw’ch SSP yn dod i ben, mae’n rhaid i’ch cyflogwr anfon ffurflen SSP1 atoch naill ai:

  • cyn pen 7 diwrnod i ddyddiad dod i ben eich SSP, os yw’n dod i ben yn annisgwyl tra’r ydych yn sâl
  • ar neu cyn dechrau y 23ain wythnos, os disgwylir bod eich SSP yn dod i ben cyn i’ch salwch ddod i ben

Os nad ydych yn gymwys i gael SSP, mae’n rhaid i’ch cyflogwr anfon ffurflen SSP1 atoch cyn pen 7 diwrnod i’r diwrnod cyntaf i chi fynd yn sâl.