Skip to main content

Tâl Salwch Statudol (SSP)

Sgipio cynnwys

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys, gallwch gael £123.25 o Dâl Salwch Statudol (SSP) yr wythnos neu 80% o’ch enillion wythnosol arferol - pa un bynnag sydd isaf. Mae’n cael ei dalu am hyd at 28 wythnos.

Cewch SSP wedi’i dalu i chi ar gyfer yr holl ddiwrnodau llawn rydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl y byddech wedi’u gweithio fel arfer.

Bydd eich cyflogwr yn defnyddio’ch enillion wythnosol cyfartalog dros gyfnod o 8 wythnos i gyfrifo faint a gewch. Rydych yn gymwys o hyd os gwnaethoch ddechrau’ch swydd yn ddiweddar ac nid ydych wedi cael cyflog am 8 wythnos o waith hyd yma. I gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i’ch cyflogwr.

Sut cewch eich talu

Telir SSP gan eich cyflogwr yn yr un ffordd ag y telir eich cyflog arferol, er enghraifft fesul wythnos neu fis.

Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y cewch SSP gan bob cyflogwr.

Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Os ydych o’r farn nad ydych yn cael y swm cywir o SSP, dylech gael gair gyda’ch cyflogwr. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.