Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif
Cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch gael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael anawsterau.
Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar goll
Os ydych wedi anghofio’r Dynodydd Defnyddiwr neu’r cyfrinair rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi, gallwch wneud y canlynol:
Os gofynnwyd i chi am god cychwyn
Efallai y bydd angen i chi nodi cod cychwyn, sy’n 12 digid, pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth CThEF am y tro cyntaf.
Byddwch wedi cael gwybod p’un a oes angen cod cychwyn arnoch pan fyddwch yn ymrestru ar gyfer y gwasanaeth. Bydd cod cychwyn yn eich cyrraedd drwy’r post cyn pen 10 diwrnod (neu 21 diwrnod os ydych yn byw dramor).
Os bydd angen cod cychwyn newydd arnoch
Os na allwch ddod o hyd i’ch cod cychwyn neu os yw’ch cod cychwyn wedi dod i ben, gallwch wneud cais am un newydd.
-
Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio’ch cyfrif Porth y Llywodraeth.
-
Dewiswch ‘gwasanaethau gallwch eu hychwanegu’.
-
Dewiswch ‘gwneud cais am god cychwyn newydd’ ac ymrestru ar gyfer y gwasanaeth eto.
Byddwch yn cael cod cychwyn newydd cyn pen 28 diwrnod i ymrestru.
Os ydych wedi’ch cloi allan o’ch cyfrif
Os ydych yn nodi’r Dynodydd Defnyddiwr neu’r cyfrinair anghywir 5 gwaith, byddwch yn cael eich cloi allan o’ch cyfrif.
Caiff eich cyfrif ei ddatgloi ar ôl 2 awr. Ni all ymgynghorwyr y ddesg gymorth ddatgloi’ch cyfrif.
Argaeledd y gwasanaeth a phroblemau
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Cael help gyda phroblemau eraill
Gallwch ofyn cynorthwyydd digidol CThEF (yn agor tudalen Saesneg) am help wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF.
Os na all y cynorthwyydd digidol helpu, gallwch ofyn i gael eich trosglwyddo i sgwrs dros y we ag ymgynghorydd CThEF, os yw’r ymgynghorydd ar gael.
Gallwch hefyd gael help gyda’r canlynol: