Gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM yn y Gymraeg

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau canlynol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) ar-lein yn y Gymraeg:

  • Hunanasesiad
  • TAW
  • Treth Gorfforaeth
  • Talu Wrth Ennill Ar-lein i gyflogwyr
  • Elusennau Ar-lein
  • Toll Peiriannau Hapchwarae
  • Y Crynodeb Treth Blynyddol
  • Gwasanaeth Car Cwmni TWE
  • Gwneud Cais am Lwfans Priodasol
  • Gwasanaeth Talu
  • Gwasanaeth Cynorthwywyr y Gellir Ymddiried Ynddynt
  • Gwasanaeth Buddiannau drwy’r Gyflogres
  • Cael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth
  • Diogelu’ch lwfans oes
  • Gwnewch gais am gydnabyddiaeth fel elusen at ddibenion treth
  • Cyfrif treth personol
  • Cyfrif treth busines
  • Rhowch wybod i CThEM os ydych wedi tandalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn y sector gofal cymdeithasol
  • Rheoli’ch credydau treth
  • Gofynnwch am gopi o’ch UTR Treth Gorfforaeth

Cofrestru ar gyfer trethi

Rhaid i chi gofrestru ar gyfer trethi cyn i chi gofrestru ar gyfer:

  • Treth Gorfforaeth
  • Hunanasesiad
  • TAW
  • Talu Wrth Ennill Ar-lein i gyflogwyr

Peidiwch â defnyddio acenion ar lafariaid pan fyddwch yn llenwi’r ffurflenni ar-lein.

Bydd CThEM yn anfon y canlynol atoch:

  • Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth
  • Rhif cofrestru ar gyfer TAW

Bydd angen y rhain arnoch pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth

Byd angen ID Defnyddiwr a chyfrinair arnoch cyn y byddwch yn gallu mewngofnodi a defnyddio’r gwasanaeth.

  1. Ewch i wasanaethau ar-lein CThEM a chlicio ‘Cofrestru’.

  2. Dilynwch y camau i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth sydd ei angen arnoch.

  3. Byddwch yn cael ID Defnyddiwr a bydd yn rhaid i chi ddewis cyfrinair.

Dechrau defnyddio’r gwasanaeth

Bydd angen cod cychwyn arnoch i ddechrau defnyddio’r holl wasanaethau hyn, ac eithrio TAW. Anfonir hwn atoch cyn pen saith diwrnod gwaith ar ôl i chi gofrestru. Os ydych chi’n byw dramor, gall gymryd hyd at 21 diwrnod i gyrraedd.

Rhowch eich cyfrif ar waith drwy fewngofnodi cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad a nodir ar y llythyr. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd y cod yn dod i ben a bydd yn rhaid i chi ofyn am un newydd.

Cysylltwch â llinellau cymorth Cymraeg CThEM os oes angen help arnoch i ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau.

Talu Wrth Ennill Ar-lein

Os ydych chi’n gyflogwr newydd, bydd angen i chi ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol neu feddalwedd cyflogres arall i gyflwyno gwybodaeth am y gyflogres i CThEM.

Negeseuon e-bost gwe-rwydo a sgamiau treth

Ni fydd CThEM byth yn defnyddio negeseuon testun na negeseuon e-bost i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i chi am ddirwy neu ad-daliad treth
  • gofyn am wybodaeth am daliadau personol

Anfonwch unrhyw negeseuon e-bost amheus at gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu tarwch olwg ar arweiniad ar adnabod sgamiau CThEM os nad ydych chi’n siŵr.