Canllawiau

Gweithio allan a fyddwch yn talu Treth Incwm Cymru

Cael gwybod a fyddwch yn drethdalwr Cymreig os ydych yn symud i Gymru neu oddi yno, os oes gennych fwy nag un cartref neu os nad oes gennych gartref.

Rhagarweiniad

Os ydych yn byw mewn un lle yn ystod blwyddyn treth ac mae yng Nghymru, fe fyddwch yn drethdalwr Cymreig a byddwch yn talu cyfraddau Treth Incwm Cymru o 6 Ebrill 2019 ymlaen. Mae’n cael ei dalu i Lywodraeth Cymru.

Os ydych yn byw unrhyw le arall yn y DU ni fyddwch yn drethdalwr Cymreig.

Mae’n bosibl y bydd eich sefyllfa’n wahanol os:

  • ydych yn symud i Gymru neu oddi yno yn ystod y flwyddyn
  • oes gennych fwy nag un gartref ar yr un pryd
  • nad oes gennych unman y gallwch nodi’n glir fel eich cartref

Gallwch ond fod yn drethdalwr Cymreig os ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth.

Os byddwch yn symud i gyfeiriad newydd, bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEM fel y gallant wneud yn siŵr bod gennych y cod treth cywir. Ni all eich cyflogwr wneud hyn.

Os nad ydych yn byw yng Nghymru

Os ydych yn byw y tu allan i Gymru, ni fyddwch yn drethdalwr Cymreig ac ni fydd yr un o’r canlynol yn eich gwneud yn drethdalwr Cymreig:

  • hunaniaeth genedlaethol - rydych yn ystyried eich hun yn Gymry
  • lleoliad gwaith – rydych yn gweithio yng Nghymru
  • rydych yn cael cyflog neu bensiwn gan gyflogwr neu ddarparwr pensiwn Cymraeg
  • rydych yn teithio yng Nghymru - er enghraifft, yn gyrru lorri yng Nghymru, neu’n ymweld yn aml â’r wlad fel rhan o’ch gwaith.

Bydd holl Seneddwyr Cymru yn drethdalwyr Cymreig, waeth ble maent yn byw.

Os ydych yn symud i Gymru neu oddi yno

Byddwch ond yn drethdalwr Cymreig os ydych yn byw yng Nghymru am gyfnod hwy nag unrhyw le arall yn y DU yn ystod blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).

Os ydych yn drethdalwr Cymreig, byddwch yn talu cyfraddau treth incwm Cymru drwy gydol y flwyddyn dreth.

O 6 Ebrill 2019 ymlaen, bydd eich cod treth yn dechrau gydag ‘C‘ os ydych yn drethdalwr Cymreig.

Enghraifft: rydych yn symud i Gymru

Rydych wedi rhentu a byw mewn tŷ yn Birmingham ers sawl blwyddyn. Ar 30 Mehefin mae’ch rhent ar yr eiddo yn Birmingham yn dod i ben ac rydych yn symud yn syth i fflat yn Llandudno. Roedd yr amser a dreuliwyd yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn dreth (rhwng 1 Gorffennaf a 5 Ebrill) yn hirach na’r amser oeddech yn byw yn Lloegr (rhwng 6 Ebrill a 30 Mehefin). Mae hyn yn golygu eich bod yn drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan.

Enghraifft: rydych yn symud i ffwrdd o Gymru

Rydych wedi byw yn Abertawe ers sawl blwyddyn. Yn ystod y flwyddyn dreth rydych yn gwerthu’ch tŷ yn Abertawe ac yn symud i fflat ym Manceinion lle rydych yn aros cyn symud i dŷ newydd ym Mryste. Yn ystod y flwyddyn dreth y gwnaethoch dreulio:

125 diwrnod yn Abertawe 120 diwrnod ym Manceinion 120 diwrnod ym Mryste

Nid ydych yn drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan gan eich bod wedi byw yng Nghymru am lai o amser nag oeddech yn byw yn Lloegr (Cymru 125 diwrnod, Lloegr 240 diwrnod).

Os oes gennych fwy nag un gartref ar yr un pryd

Os oes gennych fwy nag un lle yr ydych yn ystyried fel cartref, un yng Nghymru ac un yn rhywle arall yn y DU, byddwch yn drethdalwr Cymreig os yw’ch prif gartref yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEM p’un yw’ch prif gartref.

Beth sy’n cyfrif fel eich prif gartref

Fel arfer, eich prif gartref yw’r man lle’r ydych yn byw ac yn treulio’ch amser yn bennaf. Nid oes ots os ydych yn berchen arno, yn ei rentu neu’n byw ynddo yn rhad ac am ddim.

Mae’n bosibl mai’ch prif gartref yw’r cartref lle’r ydych yn treulio llai o amser, os dyna ble:

  • mae’r rhan fwyaf o’ch eiddo
  • mae’ch teulu’n byw, er enghraifft, os ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu berthynas hirdymor
  • rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer pethau fel eich cyfrif banc, meddyg teulu neu yswiriant car
  • rydych yn aelod o glybiau neu gymdeithasau

Enghraifft

Mae gennych gartref teuluol yng Nghaerdydd gyda’ch gŵr a’ch plant ond yn gweithio yn Kilmarnock. Er mwyn osgoi cymudo, rydych yn rhentu fflat yn Kilmarnock lle rydych yn aros yn ystod yr wythnos ac yn cadw rhai o’ch eiddo. Rydych yn dychwelyd i gartref y teulu yng Nghaerdydd bob penwythnos. Mae’r holl ffrindiau yr ydych yn gweld yn gymdeithasol yn byw yng Nghaerdydd neu o’i hamgylch. Rydych hefyd yn aelod o sawl grŵp chwaraeon a chymdeithasol lleol yng Nghaerdydd ac mae’ch meddyg a’ch deintydd yng Nghaerdydd.

Er gwaethaf treulio mwy o amser o ran dyddiau yn Kilmarnock drwy’r flwyddyn dreth, Caerdydd yw’ch prif gartref oherwydd y cysylltiadau teuluol, cymdeithasol a chysylltiadau eraill sydd gennych yno. Rydych felly’n drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan.

Ni allwch nodi’n glir unrhyw le fel eich cartref

Mae’n bosibl bod eich sefyllfa naill ai:

  • nid oes unman yn ystod blwyddyn dreth yr ydych wedi aros am gyfnodau rheolaidd y byddech yn ei ystyried yn gartref i chi
  • mae gennych fwy nag un lle rydych yn byw ynddo ac nid yw’n bosibl nodi’n glir p’un yw’ch prif gartref

Bydd a ydych yn drethdalwr Cymreig yn cael ei benderfynu drwy gyfrif nifer y diwrnodau yr ydych yn eu treulio yng Nghymru a’i gymharu â nifer y diwrnodau yr ydych yn eu treulio mewn mannau eraill yn y DU yn ystod blwyddyn dreth.

Os ydych yn treulio mwy o ddiwrnodau yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, rydych yn drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan.

Yr hyn sy’n cyfrif fel diwrnod

Mae lle y gwnaethoch dreulio diwrnod yn dibynnu ar ble’r oeddech am hanner nos ar ddiwedd y dydd. Er enghraifft, os oeddech yn byw yng Nghymru o 10:00 Dydd Llun i 17:00 Dydd Gwener yr un wythnos, gwnaethoch dreulio 4 diwrnod yno.

Os ydych yn gweithio alltraeth, rydych wedi treulio diwrnod yng Nghymru os ydych hyd at 12 milltir fôr o Gymru.

Enghraifft: nid oes gennych gartref

Rydych yn ddinesydd y DU ond nid oes gennych fan preswylio sefydlog yn ystod blwyddyn dreth, nad ydych yn berchen ar eiddo nac yn ei rentu. Rydych yn teithio o gwmpas y DU am waith, ac yn aros mewn gwestai. Yn ystod y flwyddyn dreth rydych yn treulio 120 diwrnod yng Nghymru, 100 diwrnod yn Lloegr, 50 diwrnod yn yr Alban a 10 diwrnod yng Ngogledd Iwerddon.

Gan nad oes gennych fan preswylio yn ystod y flwyddyn dreth, rydych yn cymharu’r diwrnodau yr ydych yn treulio yng Nghymru â’r dyddiau yr ydych yn eu treulio mewn rhannau eraill o’r DU. Gan fod y 120 o ddiwrnodau yr ydych yn treulio yng Nghymru yn fwy na phob un o’r diwrnodau yr ydych yn treulio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydych yn drethdalwr Cymreig.

Teithio drwy’r DU

Efallai yr ydych yn ‘teithio’ trwy’r DU. Mae hyn yn golygu ar y ffordd o wlad y tu allan i’r DU i wlad arall y tu allan i’r DU. Nid yw’n cyfrif fel diwrnod, hyd yn oed os ydych yn y DU am hanner nos, oni bai’ch bod yn gwneud un o’r canlynol:

  • peidio â gadael y DU y diwrnod wedyn
  • cynnal gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig â theithio, er enghraifft, rydych yn ymweld â ffrindiau, neu’n mynd i gyfarfod gwaith

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i arweiniad technegol ynghylch pwy sy’n drethdalwr Cymreig.

Mae Deddf Cymru 2017 yn cynnwys diffiniad llawn o drethdalwr Cymreig.

Os oes angen help neu arweiniad pellach arnoch, cysylltwch â CThEM.

Cyhoeddwyd ar 27 March 2020