Treth Incwm yng Nghymru

Rydych yn talu cyfraddau Treth Incwm Cymru os ydych yn byw yng Nghymru. Mae’r cyfraddau hyn wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyfraddau a haenau ar gyfer 2024 i 2025

Mae’r tabl yn dangos y cyfraddau treth y byddwch yn eu talu ym mhob haen os oes gennych Lwfans Personol safonol o £12,570.

Haen Incwm trethadwy Cyfradd dreth
Lwfans Personol Hyd at £12,570 0%
Cyfradd sylfaenol £12,571 i £50,270 20%
Cyfradd uwch £50,271 i £125,140 40%
Cyfradd ychwanegol dros £125,140 45%

Byddwch yn talu’r un dreth â gweddill y DU ar ddifidendau a llog ar gynilion.

Pwy sy’n talu cyfraddau Cymru

Byddwch yn talu cyfraddau Cymru os ydych yn byw yng Nghymru.

Rhaid i chi ddiweddaru’ch cyfeiriad gyda CThEM os yw’ch prif gartref yng Nghymru ond nid ydych yn credu bod gan CThEM eich cyfeiriad cywir.

Os ydych yn symud i Gymru neu oddi yno

Byddwch ond yn talu cyfraddau Cymru os ydych yn byw yng Nghymru am gyfnod hwy nag unrhyw le arall yn y DU yn ystod blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).

Caiff y cyfraddau newydd a dalwch eu hôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn dreth y gwnaethoch symud ynddi. Bydd y dreth a dynnir o’ch cyflog neu bensiwn yn cael ei haddasu’n awtomatig fel eich bod yn talu’r swm cywir ar hyd y flwyddyn dreth gyfan.

Diweddarwch eich cyfeiriad gyda CThEM os ydych yn symud i Gymru neu oddi yno.

Os ydych yn byw mewn mwy nag un cartref

Os oes gennych gartref yng Nghymru ac un mewn man arall yn y DU, rhowch wybod i CThEM pa un yw’ch prif gartref.

Fel arfer, eich prif gartref yw’r man lle’r ydych yn byw ac yn treulio’ch amser yn bennaf. Nid oes ots os ydych yn berchen arno, yn ei rentu neu’n byw ynddo yn rhad ac am ddim.

Mae’n bosibl mai’ch prif gartref yw’r man lle’r ydych yn treulio llai o amser, os dyna ble:

  • mae’r rhan fwyaf o’ch meddiannau
  • mae’ch teulu yn byw, os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer pethau fel eich cyfrif banc, meddyg teulu neu yswiriant car
  • rydych yn aelod o glybiau neu gymdeithasau

Gallai hyn fod yn berthnasol i chi os ydych yn byw oddi cartref oherwydd eich gwaith, er enghraifft rydych yn yrrwr lori, yn weithiwr alltraeth neu yn y lluoedd arfog.

Sut rydych yn talu

Byddwch yn talu treth ar gyfraddau Cymru drwy’r system TWE os ydych yn gyflogedig neu, fel arall, bydd yn cael ei didynnu gan eich darparwr os ydych yn cael pensiwn. Bydd CThEM yn ychwanegu’r llythyren ‘C’ at ddechrau’ch cod treth er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r cyfraddau cywir.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, bydd blwch ar gael i chi roi gwybod i CThEM eich bod yn talu cyfraddau Cymru.