Chwythu'r chwiban i'r CMA
Gallwch adrodd am ddrwgweithred wrthym ni yn gyfrinachol. Dysgwch beth i'w ddisgwyl pan rydych yn cysylltu â ni.
Ydych chi wedi gweld rhywbeth yn y gwaith sy’n achosi pryder i chi?
Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn ‘berson rhagnodedig’, sy’n golygu y gallech fod yn gymwys i dderbyn amddiffyniad chwythu’r chwiban os ydych yn dweud wrthym am eich cyflogwr (neu gyn-gyflogwr) o bosib yn torri cyfraith cystadlu neu ddefnyddiwr.
Gallwch gysylltu â ni ar-lein, dros y ffôn neu dros e-bost. Os ydych yn cysylltu â ni, byddwn yn gwrando’n ofalus arnoch ac yn trin eich gwybodaeth yn sensitif, fel ein bod yn amddiffyn eich hunaniaeth rhag iddi gael ei datgelu.
Does dim rhaid i chi wybod popeth neu fod yn sicr bod yr ymddygiad yn anghyfreithlon. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw dweud wrthym am yr hyn rydych chi eisoes yn ei wybod. Gallai’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu ein harwain at ymchwilio a chymryd camau gweithredu gorfodaeth.
Os ydych chi’n meddwl am chwythu’r chwiban wrthym ni, mae’n bosib y bydd gennych gwestiynau ynghylch yr hyn sydd angen i chi ei wneud.
Pwy sy’n gallu gwneud adroddiad chwythu’r chwiban
Gallwch adrodd wrth y CMA fel rhywun sy’n chwythu’r chwiban os ydych:
-
wedi dysgu am yr amheuaeth o ddrwgweithred drwy eich gwaith presennol neu eich gwaith blaenorol
-
yn credu’n rhesymol bod pryderon am ddrwgweithredu neu’r gyfraith amddiffyn cystadleuaeth neu ddefnyddwyr a’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn sylweddol gywir
-
yn credu’n rhesymol bod rhoi gwybod am y ddrwgweithred er budd y cyhoedd, er enghraifft oherwydd ei bod yn effeithio ar bobl eraill
Os ydych yn weithiwr ac yn gwneud adroddiad chwythu’r chwiban, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael eich amddiffyn yn gyfreithlon o dan y gyfraith chwythu’r chwiban. O dan yr amddiffyniadau hyn, ni ddylech gael eich trin yn wael gan eich cyflogwr na cholli eich swydd dim ond oherwydd eich bod wedi codi’ch llais yn y ffordd yma, ac ni ellir defnyddio cytundeb peidio â datgelu (a elwir weithiau’n gymal cyfrinachedd neu ‘gau ceg’) ei ddefnyddio i’ch atal rhag gwneud adroddiad chwythu’r chwiban.
Ni all y CMA roi cyngor cyfreithiol i chi, ac ni allwn benderfynu p’un a yw chwythwr chwiban yn gymwys i dderbyn amddiffyniad. Cysylltwch gyda sefydliad arall (megis Protect neu Gyngor ar Bopeth) er mwyn deall eich sefyllfa, neu ystyried dod o hyd i gyngor cyfreithiol annibynnol.
Os nad ydych yn chwythwr chwiban ond eich bod yn parhau i fod eisiau dweud wrth y CMA am rywbeth, mae yna ffyrdd eraill o adrodd am broblem.
Beth ydych chi’n gallu ei adrodd fel chwythwr chwiban
Gallwch ddweud wrth y CMA am eich cyflogwr neu gyn-gyflogwr:
- sy’n mynd i drefniadau gwrth-gystadleuol gyda busnesau eraill; megis cytuno ar brisiau, neu rannu gwybodaeth gyfrinachol, sy’n sensitif yn fasnachol
- yn cam-drin safle amlwg yn y farchnad
- sy’n methu â dilyn gofynion cyfreithiol a roddwyd ar waith gan y CMA
- sy’n torri cyfraith amddiffyn defnyddwyr
- sy’n cuddio tystiolaeth ynghylch yr ymddygiad hwn
Gallwch adrodd am ddrwgweithred sy’n gysylltiedig gydag unrhyw faes o fewn eich gwaith, megis cyfuniadau, amddiffyn defnyddwyr, gorfodi cystadleuaeth (megis cartelau a mathau eraill o ymddygiad gwrth-gystadleuol), a marchnadoedd digidol.
Nid ydym yn delio gyda:
- chwynion unigol gan ddefnyddwyr, ynghylch pethau megis gwasanaeth cwsmer gwael neu nwyddau diffygiol
- materion twyll eraill (fel sgamiau) neu dwyll difrifol (megis llwgrwobrwyo neu lygredd)
- cyflogaeth bersonol neu broblemau yn y gweithle, gan gynnwys iechyd a diogelwch
- diogelwch cynnyrch, eitemau ffug ac anghyfreithlon, gwerthiannau’n gysylltiedig ag oedran, neu fasnachwyr twyllodrus
Os na allwn ddelio gyda’ch adroddiad, gwiriwch p’un a oes sefydliad arall sy’n gallu eich helpu.
Pryd i wneud adroddiad
Gallwch alw’r CMA cyn penderfynu p’un ai i wneud adroddiad llawn, os ydych chi eisiau trafod eich pryderon neu ddeall eich opsiynau.
Gallwch wneud adroddiad am rywbeth sy’n digwydd nawr, neu rywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol.
Gorau bo gyntaf y dywedwch wrthym am beth sydd o’i le yn eich barn chi, er mwyn i chi allu dwyn pethau i gof a chyflwyno gwybodaeth gywir.
Sut i wneud adroddiad
Cyn i chi wneud adroddiad
Os ydych chi’n ansicr ynghylch amddiffyniadau cyfreithiol, neu os ydych am drafod eich sefyllfa cyn i chi wneud adroddiad, ystyriwch ddod o hyd i gyngor cyfreithiol annibynnol, neu gysylltu gyda Protect neu Cyngor ar Bopeth.
Paratoi eich adroddiad
Peidiwch â cheisio ymchwilio a chasglu gwybodaeth nad oes gennych chi mohoni eisoes. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw dweud wrthym am yr hyn rydych chi eisoes yn ei wybod. Does dim rhaid i chi wybod popeth, ond ceisiwch ddweud wrthym:
- beth ddigwyddodd
- pryd a ble y digwyddodd
- pwy neu beth a effeithiwyd
- pa mor hir y bu iddo bara
- pwy oedd yn rhan ohono
- sut ydych chi’n gwybod amdano
Darparwch unrhyw wybodaeth sydd gennych eisoes a allai fod yn berthnasol (er enghraifft, sgrin luniau, ebyst neu ddogfennau).
Beth sy’n digwydd pan rydych chi’n cysylltu â ni
Pa bynnag ffordd y byddwch yn cysylltu â ni, byddwn:
- yn adolygu’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu’n ofalus, ac yn gofyn am ragor o wybodaeth os ydym ei hangen
- trafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch cyfrinachedd
Os ydych chi’n ein ffonio, byddwn yn gofyn i chi adael neges wedi’i recordio. Os ydych chi’n gadael eich manylion cyswllt, byddwn yn eich ffonio’n ôl i drafod eich pryderon ymhellach.
Os ydych y ein e-bostio, byddwch yn derbyn ymateb awtomatig cychwynnol yn cadarnhau bod y neges wedi’i derbyn. Byddwn yn adolygu eich gwybodaeth, ac os ydych chi wedi darparu manylion cyswllt, byddwn yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Aros yn ddienw
Gallwch adrodd wrthym ni’n ddienw. Os nad ydych chi’n darparu manylion cyswllt, byddwn yn parhau i adolygu’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu ond ni allwn drafod eich problemau neu eich camau nesaf gyda chi, a gall gyfyngu ar ein hargaeledd i weithredu ar eich gwybodaeth.
Wrth gwblhau ein ffurflen ar-lein, gallwch ddewis p’un ai i ddarparu manylion personol ai peidio.
Cysylltwch â ni
Ffoniwch: 020 3738 6556
Beth sy’n digwydd wedi i chi wneud adroddiad
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel, ac ni fydd eich hunaniaeth ond yn hysbys i nifer fach o staff hanfodol CMA. Byddwn yn trin eich manylion a’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn sensitif ac yn gyfrinachol. Yn benodol, byddwn yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn eich hunaniaeth.
Byddwn yn dilyn cyfraith diogelu data’n ofalus wrth drin eich gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein siarter gwybodaeth bersonol i ddysgu mwy yma.
Unwaith rydych wedi gwneud adroddiad, byddwn yn cynnal unrhyw waith ymchwil angenrheidiol ac yn asesu’r wybodaeth ochr yn ochr â gwybodaeth sy’n bodoli eisoes y gallai’r CMA fod yn ei dal am y busnes neu’r sector. Yna byddwn yn penderfynu beth i’w wneud nesaf.
Rhaid i’r CMA wneud defnydd effeithlon ac effeithiol o’i adnoddau. Wrth benderfynu beth i’w ymchwilio, rydym yn ystyried ein hegwyddorion blaenoriaethu.
Gallem benderfynu:
- archwilio busnesau neu bobl rydym ni’n eu hamau eu bod wedi torri cyfraith cystadleuaeth neu gyfraith diogelu defnyddwyr
- rhybuddio busnesau y gallai eu hymddygiad fod yn torri cyfraith cystadleuaeth neu ddiogelu defnyddwyr, a gofyn iddynt adolygu eu harferion
- archwilio neu astudio marchnad lle gall fod pryderon ynghylch cystadleuaeth neu ddefnyddwyr
Fel arall, mae’n bosib na fyddem yn penderfynu gwneud unrhyw beth neu awgrymu eich bod yn cysylltu gydag asiantaeth gorfodi arall yn lle hynny.
Ni allwn wastad eich diweddaru ynghylch yr hyn rydym ni’n cynllunio i’w wneud, yn arbennig felly ble byddai gwneud hynny’n peryglu archwiliad presennol neu yn y dyfodol.
Pwy arall allwch chi adrodd wrthynt
Os nad yw’r CMA yn gallu eich helpu, gallwch adrodd wrth ‘berson rhagnodedig’ arall yn lle hynny. Er enghraifft, cysylltwch gydag:
- Acas ar gyfer problemau cyflogaeth bersonol neu broblemau yn y gweithle, megis bwlio, gwahaniaethu, tâl neu gytundebau
- Action Fraud ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â sgamiau a thwyll
- Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) am gamarwain o ran hysbysebu
- Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer materion sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch unigolion yn y gwaith, neu’r cyhoedd yn ehangach
- Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) ar gyfer materion sy’n gysylltiedig gyda gweinyddu trethu neu bensiynau
- Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) ar gyfer materion sy’n ymwneud â thwyll difrifol neu gymhleth, gan gynnwys llwgrwobrwyo a llygredd
- Safonau Masnach (Cymru a Lloegr), Advice Direct Scotland (yr Alban) neu Advice NI (Gogledd Iwerddon), ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â diogelwch cynnyrch, eitemau ffug ac anghyfreithlon, gwerthiannau gyda chyfyngiad oedran, neu fasnachwyr twyllodrus
Gwiriwch y rhestr lawn o bobl eraill a chyrff eraill y gallwch adrodd iddynt.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth
Gwyliwch Tony O’Sullivan, Cyfarwyddwr Gwybodaeth ac Ymchwiliadau CMA, ac Elizabeth Gardiner, Cyd-Brif Weithredwr Protect, yn siarad am sut mae’r CMA yn gweithio gyda chwythwyr chwiban ac yn trin eu gwybodaeth yn gyfrinachol.
Dewch o hyd i ddata ar y nifer o ddatgeliadau chwythu’r chwiban a wnaed i’r CMA ym mhob blwyddyn ariannol.