Canllawiau

Taliadau TAW ar gyfrif

Dysgwch am bwy sydd angen talu taliadau TAW ar gyfrif, sut mae CThEF yn cyfrifo eich taliadau, opsiynau eraill a sut a phryd i dalu.

Trefniadau ar gyfer taliadau ar gyfrif

Taliadau a wnaed ymlaen llaw tuag at eich bil TAW yw ‘taliadau ar gyfrif’.

Bydd CThEF yn dweud wrthoch chi am wneud taliadau ar gyfrif os ydych yn anfon Ffurflenni TAW yn chwarterol a bod arnoch fwy na £2.3 miliwn yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis neu lai.

Mae’r trothwy o £2.3 miliwn yn cynnwys TAW ar fewnforion a symud nwyddau i mewn ac allan o warysau ecséis.

Sut yr ydym yn cyfrifo’ch ‘taliadau ar gyfrif’

Yn gyntaf, byddwn yn cyfrifo’ch taliadau yn seiliedig ar eich rhwymedigaeth TAW flynyddol yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn mynd dros y trothwy.

Byddwn yn rhannu’ch rhwymedigaeth TAW flynyddol yn ystod y cyfnod hwnnw gan 24 i gyfrifo swm ar gyfer rhandaliad.

Os ydych wedi bod yn gweithredu fel busnes am lai na 12 mis, byddwn yn cyfrifo’r taliadau fel cyfran.

Ni fyddwn yn cynnwys y TAW ar fewnforion nac ar symud nwyddau i mewn ac allan o warysau ecséis, oni bai y rhoddwyd cyfrif amdanynt eisoes yn eich Ffurflen TAW a’u bod wedi cynnwys yn eich rhwymedigaeth TAW. Darllenwch ynghylch pryd y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Byddwn yn adolygu’ch rhwymedigaeth TAW bob chwarter a byddwn yn newid swm eich taliadau os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn cynyddu gan 20% neu fwy.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am newid swm eich taliadau os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn gostwng gan 20% neu fwy.

Busnesau wedi’u cofrestru mewn is-adrannau

Os ydych wedi cofrestru’ch busnes yn ôl enwau ei is-adrannau, byddwn yn edrych ar bob is-adran fel busnes ar wahân ar gyfer taliadau ar gyfrif.

Byddwn yn defnyddio rhwymedigaeth TAW pob is-adran i benderfynu’r canlynol:

  • p’un a ddylai wneud taliadau ar gyfrif
  • swm pob taliad ar gyfrif 

Busnesau sydd wedi’u cofrestru fel rhan o grŵp TAW

Byddwn yn edrych ar rwymedigaeth TAW y grŵp cyfan i benderfynu’r canlynol:

  • p’un a ddylai wneud taliadau ar gyfrif

  • swm pob taliad ar gyfrif

Bydd gan grŵp TAW aelod cynrychiadol a fydd yn gyfrifol am wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer y grŵp. Os na fyddwn yn cael y taliadau, mae holl aelodau’r grŵp yn gyfrifol, ar y cyd ac yn unigol, ar gyfer y taliadau ar gyfrif (mae hyn yn golygu bod aelodau’r grŵp yn gyfrifol gyda’i gilydd ac yn unigol am daliadau’r grŵp).

Dyddiad dechrau ar gyfer taliadau ar gyfrif a’r gylchred flynyddol

Mae cylchred taliadau ar gyfrif yn dechrau yn y chwarter cyntaf ar ôl i chi fynd dros y trothwy o £2.3 miliwn.

Bydd eich taliadau ar gyfrif yn cael eu cyfrifo ar sail eich rhwymedigaeth TAW flynyddol yn y cyfnod pan fyddwch yn mynd dros y trothwy, hyd at ddechrau’r gylchred flynyddol ar gyfer taliadau ar gyfrif, oni bai bod eich rhwymedigaeth TAW yn cynyddu gan 20% neu fwy cyn hynny.

Mae’r gylchred flynyddol yn dechrau ym mis Ebrill, Mai neu Fehefin, yn dibynnu ar ba gyfnod gwasgaredig (‘stagger’) rydych arni o ran eich Ffurflen TAW. Rydym yn seilio swm eich taliadau yn ystod y gylchred flynyddol ar eich rhwymedigaeth yn ystod y cyfnod, sef y ‘flwyddyn gyfeirio’. Byddwn yn gwneud y cyfrifiad cylchred flynyddol bob blwyddyn.

Blynyddoedd cyfeirio

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r flwyddyn gyfeirio ar gyfer pob cyfnod gwasgaredig mewn perthynas â’r Ffurflen TAW.

Cyfnod gwasgaredig Diwedd y chwarter Blwyddyn gyfeirio Dechrau’r gylchred flynyddol
1 Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr Y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Medi Mis Ebrill y flwyddyn ganlynol
2 Ebrill, Gorffennaf, Hydref, Ionawr Y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Hydref Mis Mai y flwyddyn ganlynol
3 Mai, Awst, Tachwedd, Chwefror Y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Tachwedd Mis Mehefin y flwyddyn ganlynol

Felly, os ydych yng nghyfnod gwasgaredig 1, bydd eich rhwymedigaeth TAW ar gyfer y flwyddyn gyfeirio sy’n dod i ben ym mis Medi yn pennu swm pob taliad ar gyfrif o fis Ebrill hyd at fis Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Cyfrifiadau yn ystod y flwyddyn yn ystod y gylchred flynyddol

Yn ogystal â’r cyfrifiad cylchred flynyddol, byddwn yn adolygu’ch rhwymedigaeth TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf bob chwarter. Os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn cynyddu gan 20% neu fwy, byddwn yn addasu swm eich taliadau ar gyfrif.

Dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau

Byddwn yn ysgrifennu atoch ag amserlen ar gyfer talu yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • y swm i’w dalu
  • pob un o’ch dyddiadau cau ar gyfer talu

Gallwch hefyd gael mynediad at amserlen eich taliadau ar gyfrif yn eich cyfrif TAW ar-lein.

Gwnewch yn siŵr bod arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn y dyddiad dyledus, neu efallai bydd y canlynol yn berthnasol:

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad glirio cyfrif banc CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny, oni bai eich bod yn talu drwy drosglwyddiad banc (Taliadau Cyflymach).

Dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau ar gyfrif

Y dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau ar gyfrif yw diwrnod gwaith olaf yr ail a’r trydydd mis ym mhob chwarter TAW, ni waeth beth yw’r dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod. Nid yw’r estyniad o 7 diwrnod am dalu’n electronig yn berthnasol i daliadau ar gyfrif.

Bydd taliadau ar gyfrif sydd heb gael eu talu mewn pryd yn agored i log am dalu’n hwyr.

Dyddiad dyledus ar gyfer taliadau mantoli chwarterol

Mae’r canlynol yn berthnasol am eich taliadau mantoli:

  • maent yn ddyledus gyda’ch Ffurflen TAW
  • mae’n rhaid iddynt fod wedi clirio i gyfrif banc CThEF erbyn diwrnod olaf y mis os oes gennych ddyddiadau diwedd cyfnod safonol

Cyflwynwch eich Ffurflenni chwarterol ar-lein yn ôl yr arfer. Peidiwch ag addasu unrhyw ffigurau ar eich Ffurflen TAW i gofnodi taliadau ar gyfrif rydych wedi’u gwneud eisoes. Yn hytrach, talwch y swm net a ddangosir yn eich Ffurflen TAW i CThEF, llai unrhyw daliadau ar gyfrif rydych wedi’u gwneud eisoes yn y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.

Bydd y canlynol yn berthnasol os nad yw’r taliadau mantoli wedi’u talu mewn pryd:

  • byddwch yn agored i log am dalu’n hwyr
  • efallai y bydd cosb am dalu’n hwyr yn cael ei chodi arnoch

Byddwn yn gwneud unrhyw ad-daliadau sydd arnom i chi. Os yw’ch Ffurflen TAW yn cael ei chyflwyno ar gyfer ad-daliad, byddwn yn ad-dalu’r taliadau ar gyfrif rydych wedi’u talu yn ystod y chwarter hwnnw.

Taliadau mantoli chwarterol ansafonol

Os ydych wedi cytuno â ni i ddefnyddio dyddiadau diwedd cyfnod ansafonol ar gyfer eich Ffurflenni TAW, yna mae’n rhaid i’ch taliadau glirio yn ein cyfrif banc erbyn y dyddiad dyledus ar gyfer y Ffurflenni TAW hynny.

Sut i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu’ch holl daliadau gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
  • bancio ar-lein neu dros y ffôn, CHAPS neu Bacs
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
  • yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
  • archeb sefydlog

I gael rhagor o fanylion ynghylch dulliau talu, darllenwch Talu’ch bil TAW.

Taliadau hwyr

Os na fyddwch yn gwneud taliadau ar gyfrif neu daliadau mantoli llawn ac mewn pryd, byddwn yn gwneud y canlynol:

Newidiadau yn eich rhwymedigaeth TAW

Mae’n bosibl y byddwn yn addasu swm eich taliadau ar gyfrif os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn codi neu’n disgyn gan 20% neu fwy. Mae’n bosibl y byddwn yn eich tynnu o’r trefniant os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn gostwng o dan y trothwy.

Taliadau ar gyfrif uwch

Yn ystod cylchred flynyddol, byddwn yn cynyddu eich taliadau ar gyfrif os bydd y rhwymedigaeth TAW ar gyfer unrhyw flwyddyn ar ôl y flwyddyn y seiliwyd ein cyfrifiadau arni yn cynyddu gan 20% neu fwy. Byddwn yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig lle bo cynnydd mewn taliadau. Byddwch yn gallu bwrw golwg dros y newidiadau hyn i’ch taliadau yn eich cyfrif TAW ar-lein.

Taliadau ar gyfrif is

Os bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn disgyn dan 80% o’r rhwymedigaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyfrifo eich taliadau presennol, gallwch ofyn i ni eu lleihau. Mae hyn yn berthnasol i’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • unrhyw flwyddyn gyflawn sy’n dod i ben ar ôl y flwyddyn y seiliwyd eich taliadau presennol arni (gan edrych yn ôl ar eich rhwymedigaeth TAW)
  • unrhyw flwyddyn sydd wedi dechrau ond nad yw wedi dod i ben eto (rhagolwg, ac mae’n rhaid i chi gynnwys amcangyfrif o’r Ffurflenni TAW y byddwch yn eu cyflwyno yn y dyfodol i gwblhau’r flwyddyn gyfan)

Yn y ddau achos, ysgrifennwch i’r tîm taliadau ar gyfrif.

Rhowch wybod i ni’r rhesymau pam y dylem leihau’ch taliadau. Os byddwn yn fodlon â’ch rhesymau, byddwn yn newid eich taliadau i ddangos eich rhwymedigaeth TAW wedi’i gostwng.

Tynnu o drefniant taliadau ar gyfrif

Os yw’ch rhwymedigaeth TAW yn disgyn o dan £2.3 miliwn yn ystod eich blwyddyn cyfeirio byddwn yn eich tynnu i o’r trefniant 6 mis yn ddiweddarach.

Er enghraifft, os yw’ch blwyddyn gyfeirio yn dod i ben ym mis Medi, a bod eich rhwymedigaeth o dan y trothwy ar yr adeg honno, bydd eich taliad ar gyfrif olaf ym mis Mawrth y flwyddyn ganlynol. Mae’n rhaid i chi barhau i wneud taliadau ar gyfrif tan hynny.

Fodd bynnag, ni fyddwch yn cael eich tynnu o’r trefniant os oedd eich rhwymedigaeth TAW dros y 12 mis diwethaf, sy’n dod i ben mewn chwarteri dilynol, yn mynd y tu hwnt i’r trothwy o £2.3 miliwn eto.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa ddyddiad y cewch eich tynnu’n ôl o’ch trefniant taliadau ar gyfrif (sef y dyddiad dod i rym).

Os, mewn unrhyw flwyddyn a gwblhawyd sy’n dod i ben ar ôl eich blwyddyn gyfeirio, bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW o dan £1.8 miliwn, gallwch ysgrifennu at y tîm taliadau ar gyfrif i egluro pam y dylem eich tynnu o’r trefniant.

Cysylltu â ni

Gallwch ysgrifennu at y tîm taliadau ar gyfrif yn y cyfeiriad canlynol:

Tîm Taliadau ar Gyfrif
BT VAT
CThEF
BX9 1WR

Mae’n rhaid i chi beidio ag addasu eich taliadau hyd nes bod un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydym yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig
  • rydych yn gweld newid i’ch amserlen ar gyfer talu yn eich cyfrif TAW ar-lein

Opsiynau amgen i daliadau ar gyfrif

Mae yna 2 opsiwn amgen i daliadau ar gyfrif. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Ffurflenni TAW Misol
  • rhwymedigaeth fisol gwirioneddol

Ffurflenni TAW Misol

Os nad yw gwneud taliadau ar gyfrif a chyflwyno Ffurflenni TAW chwarterol yn addas i’ch busnes, gallwch ddewis i anfon Ffurflenni TAW a thaliadau yn fisol. Er mwyn newid i Ffurflenni TAW misol, gallwch wneud cais ar-lein i newid eich manylion cofrestru

Mae’n bosibl y bydd angen i chi barhau i anfon Ffurflenni TAW yn fisol am o leiaf un flwyddyn.

Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau ar gyfrif hyd nes bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch cais i gyflwyno Ffurflenni TAW misol wedi’i gymeradwyo
  • mae’ch taliad misol cyntaf yn ddyledus

Mae’n bosibl y bydd hawl gennych gael hyd at 7 diwrnod ychwanegol i dalu a chyflwyno eich Ffurflen TAW misol, cyn belled â’ch bod yn defnyddio dull electronig o dalu.

Os byddwch yn dychwelyd i’r drefn o anfon Ffurflenni TAW yn chwarterol yn hytrach na’n fisol, ni fydd yr estyniad o 7 diwrnod yn berthnasol a bydd yn rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif o’r cyfnod cyfrifyddu chwarterol cyntaf.

Rhwymedigaeth fisol gwirioneddol

Yn hytrach na thalu’r symiau y gwnaethom ofyn i chi amdanynt, neu symud i gyflwyno ffurflenni misol, gallwch ddewis talu’r rhwymedigaeth wirioneddol ar gyfer y mis blaenorol heb gyflwyno ffurflen TAW fisol.

Er enghraifft, y taliad sy’n ddyledus erbyn diwedd mis Chwefror yw’r rhwymedigaeth wirioneddol ar gyfer mis Ionawr. Gall yr opsiwn hwn fod yn addas i chi os, yn ystod y flwyddyn, mae’ch trosiant yn amrywio. Os byddwch yn dewis talu’r rhwymedigaeth wirioneddol, mae’n rhaid i chi wneud hynny am o leiaf un flwyddyn.

Os byddwch yn dewis talu rhwymedigaethau misol gwirioneddol ond eich bod mewn credyd ar gyfer unrhyw fis, bydd y canlynol yn berthnasol:

  • ni fyddwch yn cael ad-daliad ar unwaith, ond dylech gario’r credyd ymlaen i’r Ffurflen TAW yn ôl yr arfer
  • ni fyddwch yn gallu gwrthbwyso’r credyd mewn un mis yn erbyn y rhwymedigaeth ar gyfer y mis nesaf i ostwng swm y taliad
  • dylech ystyried newid i Ffurflenni TAW misol os ydych mewn credyd yn aml ac os ydych am gael ad-daliadau credyd ar unwaith

Os ydych am ddefnyddio rhwymedigaethau misol gwirioneddol, cysylltwch â’r tîm taliadau ar gyfrif.

Tynnu’r opsiwn ar gyfer talu rhwymedigaethau misol gwirioneddol

Mae’n rhaid i chi wneud taliadau cywir ar gyfer eich rhwymedigaethau misol. Os nad ydym yn fodlon eich bod yn gwneud hynny, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • yn dweud wrthych na allwch dalu’r rhwymedigaeth fisol wirioneddol mwyach
  • mae’n bosibl y byddwn yn rhoi cyfarwyddyd i chi gyflwyno Ffurflenni TAW misol neu ddychwelyd at wneud y taliadau ar gyfrif a gyfrifwyd gennym ar eich cyfer

Anghydfodau

Os ydych yn anghytuno gyda’n penderfyniad i dynnu’r opsiwn i dalu rhwymedigaethau misol gwirioneddol, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • gofyn i’r tîm taliadau ar gyfrif am adolygiad yn ysgrifenedig

  • apelio ar y tribiwnlys treth cyn pen 30 diwrnod o’r llythyr yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Ebrill 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Information to support when you should send a VAT return has been added to the page.

  3. Information about making payments through an online bank account has been added to the page.

  4. Information on late payment interest charges has been added.

  5. The postal address for the payments on account team has been updated.

  6. The option to defer VAT payments during coronavirus has come to an end and businesses can no longer defer VAT.

  7. Information about deferring VAT payments because of coronavirus (COVID-19) has been updated. VAT payments due between 20 March 2020 and 30 June 2020 can be deferred. If you choose to defer a VAT payment, it must be paid on or before 31 March 2021.

  8. Information about deferring VAT payments because of coronavirus (COVID-19) has been updated. VAT payments due between 20 March 2020 and 20 June 2020 can be deferred. If you choose to defer a VAT payment, it must be paid on or before 31 March 2021.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon