Diweddaru'r gofrestr pan fydd perchennog eiddo yn marw
Pan fydd rhywun sy'n berchen ar dŷ neu dir yn marw, efallai bydd angen ichi ddiweddaru ei gofnodion eiddo.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae cofrestru tir yn gymhleth, wedi ei gynllunio i warchod buddion cyfreithiol ac ariannol mewn eiddo. Gall unrhyw wall arwain at ganlyniadau sylweddol. Dylech ystyried cael cynrychiolaeth gyfreithiol. Cyn gwneud cais heb gynrychiolaeth gyfreithiol, mae’n bwysig ystyried manteision defnyddio trawsgludwr.
Taflen galar
Gallwch lawrlwytho’n taflen galar.
Ystyried cymorth cyfreithiol
Gall delio â materion rhywun sydd wedi marw fod yn anodd, ond fel rheol, nid oes brys i roi trefn ar yr eiddo.
Sylwer: nid ydym yn cofrestru ewyllysiau nac yn delio â phrofiant. Ni allwn ddweud wrthych beth ddylech ei wneud neu’r hyn sydd angen ichi ei wneud ynghylch marwolaeth perchennog eiddo. Gallwn eich cynghori fodd bynnag ar ba ffurflenni ayb y bydd eu hangen arnoch ar ôl ichi benderfynu beth i’w wneud â’r eiddo.
Gweld a yw eiddo’n gofrestredig
Os ydych yn gwybod pa eiddo roedd y person yn berchen arno
Os ydych yn gwybod ei fod yn berchen ar eiddo, gallwch weld a yw’r eiddo hwnnw wedi ei gofrestru gyda ni, a gweld oedd yn berchen arno’n llwyr.
Defnyddiwch y gwasanaeth Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo i weld a yw’r eiddo wedi ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF. Os yw’n gofrestredig, gallwch gael crynodeb o fanylion yr eiddo neu brynu copi o’r gofrestr.
Os nad yw’r eiddo’n ymddangos yn y chwiliad, gallwch ofyn am chwiliad o’r map mynegai yn lle hynny, i ddod o hyd i’r rhifau teitl ar gyfer eiddo cofrestredig yn eich ardal chwilio.
Cydberchennog neu unig berchennog
Edrychwch ar gofrestr teitl yr eiddo i weld a oedd y person yn berchen arno ar ei ben ei hun (unig berchennog) neu gyda rhywun arall (cydberchennog). Gallwch brynu copi o’r gofrestr teitl gan ddefnyddio’r gwasanaeth Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo. Fe welwch y wybodaeth hon yn rhan B1 y gofrestr.
Os nad ydych yn siwr a oedd yn berchen ar eiddo
Os oes gennych brofiant neu lythyrau gweinyddu, gallwch wneud cais am Chwiliad o’r Mynegai Enwau Perchnogion i weld pa eiddo roedd yn berchen arno.
Sylwer: ni fydd eiddo digofrestredig yn ymddangos yn y canlyniadau.
Os nad yw’r eiddo’n gofrestredig
Rhaid cofrestru’r tir am y tro cyntaf unwaith bydd trosglwyddiad i berchennog newydd wedi digwydd, boed hyn yn werthiant, etifeddiaeth neu rodd.
Os yw’r person sydd wedi marw yn gyd-berchennog ac mae o leiaf un cyd-berchennog arall yn fyw, nid oes angen ichi gynnwys Cofrestrfa Tir EF, ond gallwch gofrestru’r eiddo yn wirfoddol os ydych am wneud hynny.
Cael caniatâd cyfreithiol i weithredu
Cyn ichi allu gwneud newidiadau i gofnodion yr eiddo, mae angen caniatâd cyfreithiol arnoch. “Profiant” yw’r enw am hyn os oes ewyllys, a “llythyrau gweinyddu” os nad oes ewyllys. Mae’r dogfennau hyn yn dangos bod gennych ganiatâd i ymdrin â materion y person.
Darllenwch ragor am wneud cais am brofiant.
Diweddaru cofnodion eiddo
Mae sut rydych yn diweddaru’r cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yn dibynnu a oedd yn unig berchennog neu’n gyd-berchennog yr eiddo. Gall amgylchiadau fod yn wahanol iawn, ac rydym yn argymell eich bod yn ystyried cael cyngor cyfreithiol ar gyfer sefyllfaoedd cymhleth.
Darllenwch am sut i ddiweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw wrth ddelio ag eiddo unig berchennog neu gyd-berchennog, a phan fydd yn cael ei drosglwyddo i fuddiolwr ewyllys neu’n cael ei werthu i drydydd parti.
Mae ein fideos YouTube isod yn esbonio’r hyn i’w wneud pan fydd unig berchennog eiddo yn marw a’r hyn i’w wneud pan fydd cyd-berchennog eiddo yn marw.
Yr hyn i’w wneud pan fydd unig berchennog eiddo yn marw
Yr hyn i’w wneud pan fydd unig berchennog eiddo yn marw
Yr hyn i’w wneud pan fydd cyd-berchennog yn marw
Yr hyn i’w wneud pan fydd cyd-berchennog yn marw
Os nad ydych yn barod i ddiweddaru’r cofnodion
Os nad ydych yn siwr o’r hyn i’w wneud, gallwch wneud cais i nodi marwolaeth y perchennog ar y gofrestr trwy anfon llythyr, ynghyd â thystiolaeth, er enghraifft tystysgrif marwolaeth, profiant neu lythyrau gweinyddu atom. Bydd ein fideo ar sut i nodi marwolaeth perchennog cofrestredig yn eich tywys trwy’r broses.
Fel arall, gallwch gofrestru cynrychiolydd personol yn berchennog wrth i benderfyniadau gael eu gwneud.