Trosolwg

Gallwch gael gwybodaeth am eiddo neu dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, hyd yn oed os nad ydych yn berchen arno.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Chwilio’r gofrestr tir ac eiddo

Mae copïau o’r gofrestr teitl, cynllun teitl a gwybodaeth am y risg o lifogydd ar gael trwy chwilio’r gofrestr.

Chwilio’r map mynegai tir ac eiddo

Gofynnwch am chwiliad o’r map mynegai os nad yw eiddo’n cael ei ganfod trwy chwilio’r gofrestr.

Cael copi o’r gweithredoedd

Efallai y cewch wybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, ee perchnogion blaenorol trwy wneud cais am gopi o’r gweithredoedd.

Chwilio prisiau eiddo

Mae gwybodaeth am brisiau eiddo ar gael trwy chwilio’r mynegai prisiau tai a’r gwasanaeth data pris a dalwyd.