Cael gwybodaeth am eiddo a thir

Neidio i gynnwys y canllaw

Cael copi o’r gweithredoedd

Efallai y gallwch gael gwybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, ee perchnogion blaenorol. Gall y gofrestr roi rhagor o fanylion am hawliau dros dir cyffiniol.

  1. Darganfod a yw’r eiddo neu’r tir yn gofrestredig.

  2. Llwytho i lawr gopi o’r gofrestr teitl – bydd angen hwn arnoch i gael rhif teitl yr eiddo ac i weld a oes copi o’r gweithredoedd gan Gofrestrfa Tir EF.

  3. Llenwi’r ffurflen gais am weithredoedd.

Gallai’r gweithredoedd gynnwys sawl dogfen. Codir £7 ar gyfer pob dogfen.

Efallai na fydd unrhyw ganlyniadau i’ch chwiliad os nad oes copi o’r gweithredoedd gan Gofrestrfa Tir EF.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi a’ch taliad i Gofrestrfa Tir EF.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Ni ellir defnyddio copïau o weithredoedd i brofi perchnogaeth, ee mewn achos llys. Dylech gael copïau swyddogol o’r gofrestr teitl yn lle hynny.

Os ydych yn fusnes

Cofrestrwch ar gyfer e-wasanaethau busnes os ydych yn fusnes sy’n gorfod rheoli chwiliadau lluosog a llwytho i lawr gopïau lluosog o ddogfennau.