Chwilio’r map mynegai

Mae’r map mynegai yn cynnwys gwybodaeth am yr holl dir ac eiddo sydd wedi’u cofrestru neu sy’n cael eu cofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF.

Defnyddiwch y wybodaeth hon i gael rhif teitl eiddo nad yw’n ymddangos mewn chwiliad o’r gofrestr.

Nid yw pob eiddo’n ymddangos mewn chwiliad o’r gofrestr oherwydd bod terfynau’r eiddo wedi newid ers ei gofrestru, neu am fod cyfeiriad yr eiddo wedi cael ei sillafu’n anghywir, er enghraifft.

Sut i chwilio

Ni allwch chwilio’r map eich hun.

Dylech ddarparu cyfeiriad y tir neu’r eiddo (os oes un). Os nad oes modd adnabod y tir neu’r eiddo yn ôl y cyfeiriad gallwch ddarparu:

Llwythwch i lawr a llenwch y ffurflen gais a’i hanfon i Gofrestrfa Tir EF.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon canlyniadau’r chwiliad atoch, gan gynnwys y rhif/rhifau teitl y mae’r tir neu’r eiddo wedi’i gofrestru oddi tano/tanynt. Gallwch eu defnyddio i chwilio’r gofrestr.

Bydd y chwiliad hefyd yn cadarnhau a yw’r eiddo neu’r tir yn ddigofrestredig.

Y gost

Codir ffi o £4 i chwilio ardal sy’n cwmpasu hyd at 5 teitl cofrestredig.

Os yw’ch chwiliad yn cwmpasu mwy na 5 teitl, bydd Cofrestrfa Tir EF yn cysylltu â chi gyda ffi wedi’i diweddaru. Codir £2 ar gyfer grwpiau o 10 teitl ychwanegol.

Pa mor hir bydd yn cymryd

Bydd canlyniadau eich chwiliad yn cyrraedd mewn llai nag wythnos.

Os ydych yn chwilio’r map mynegai i wneud cais am hawliau cartref

Rhaid ichi ysgrifennu ‘Mae’r chwiliad hwn yn cael ei wneud at ddiben Deddf Cyfraith Teulu 1996 yn unig’ ar ben y ffurflen gais.