Canllawiau

Sut i ddarllen cofrestr teitl

Cyhoeddwyd 4 November 2021

Applies to England and Wales

Mae gennych chi gopi o gynllun teitl a chofrestr teitl eich eiddo, ond beth hynny’n ei olygu?

Eich eiddo

Pan fyddwn yn cofrestru eiddo, rydym yn rhoi cyfeirnod unigryw a elwir yn rhif teitl iddo ac yn paratoi cofrestr ac, yn y rhan fwyaf o achosion, cynllun teitl.

Mae’r gofrestr yn dangos gwybodaeth bwysig am yr eiddo, megis enwau’r perchnogion cyfreithiol ac a oes unrhyw forgeisi, hawliau tramwy neu faterion cyfreithiol eraill yn effeithio arno.

Mae’n cynnwys disgrifiad o’r eiddo hefyd – y cyfeiriad post fel arfer – ac a yw’n cael ei ddal am gyfnod penodol o amser o dan brydles (prydlesol) neu’n cael ei berchnogi’n llwyr (rhydd-ddaliol).

Yn gyffredinol, mae angen ichi ddarllen y gofrestr teitl a’r cynllun teitl gyda’i gilydd, ond at ein dibenion ni yma, byddwn yn canolbwyntio ar y gofrestr.

Y gofrestr

Cyhyd â bod y tir neu eiddo yng Nghymru neu Loegr ac wedi ei gofrestru, gallwch:

P’un ai ydych yn lawrlwytho rhan o’r gofrestr neu’n gwneud cais am gopi swyddogol, gallwch ddibynnu ar y copi i ddangos sefyllfa’r gofrestr ar y dyddiad a’r amser a ddangosir. Os oes newidiadau yn aros i’w gwneud i’r gofrestr, caiff eich copi ei ôl-ddyddio i’r amser yn union cyn y gwnaed cais am y newid cyntaf.

Gweler enghraifft o gopi swyddogol o gofrestr teitl.

An example of a downloaded title register.

Tair rhan

Caiff y rhan fwyaf o gofrestri teitl eu rhannu yn 3 rhan:

  • A – eiddo
  • B – perchnogaeth
  • C – arwystlon

Mae gan rai atodlenni hefyd, lle mae rhagor o fanylion am rai o’r cofnodion wedi eu nodi. Mae’r union fanylion yn amrywio ar gyfer pob eiddo.

Dylech ymgynghori â’ch cynghorydd cyfreithiol os nad ydych yn siwr am unrhyw beth yn y gofrestr. Cofiwch, ni allwn roi cyngor cyfreithiol ichi.

Y gofrestr eiddo (A)

Mae cofrestr A yn darparu:

  • disgrifiad byr o’r eiddo, gan gynnwys a yw’n rhydd-ddaliol neu’n brydlesol a’i fod wedi ei ddangos ar ei gynllun teitl cysylltiedig

  • unrhyw hawliau y gallai elwa arnynt, megis hawl tramwy preifat

Os yw’r eiddo’n brydlesol, bydd y gofrestr hefyd yn dangos manylion cryno’r brydles, megis y dyddiad, y partïon o dan sylw ac am ba mor hir ydyw.

Gallai cofrestr A gynnwys cofnodion eraill fel:

Cyfeiriad at eiddo arall nad yw’n rhan o’r teitl cofrestredig, er enghraifft y mwynfeydd a mwynau sydd oddi tano:

(13.10.2003) Mae’r mwynfeydd a mwynau wedi eu heithrio.

Cyfeiriad at olau neu aer a/neu strwythurau terfyn:

(13.10.2003) Mae’r Trawsgludiad dyddiedig 19 Hydref 1959 y cyfeirir ato yn y Gofrestr Arwystlon yn cynnwys y gosodiad canlynol:

CYTUNDEB A DATGANIAD na ddylai’r Prynwr gael hawl i unrhyw hawl i olau nac aer i’r tir o dan sylw a drosglwyddir trwy hynny. Yn ogystal, bod y ffensys terfyn yn cael eu cynnal ar y cyd gan y partïon.

Cyfeiriad at dir nad yw bellach wedi ei gynnwys yn y teitl:

(13.10.2003) Mae’r tir wedi ei amlinellu a’i rifo mewn gwyrdd ar y cynllun teitl wedi ei dynnu ymaith o’r teitl hwn a’i gofrestru o dan y rhif teitl neu’r rhifau a ddangosir mewn gwyrdd ar y cynllun dywededig.

Y gofrestr perchnogaeth (B)

Mae cofrestr B yn dangos:

  • dosbarth y teitl
  • enwau’r perchnogion cofrestredig presennol a’r cyfeiriadau a ddefnyddir gennym i gysylltu â nhw
  • (weithiau) faint a dalwyd amdano neu arwydd o’i werth ar ddyddiad a nodir
  • unrhyw gyfyngiadau – cofnodion yw’r rhain sy’n cyfyngu ar bŵer y perchennog i ddelio â’r eiddo, er enghraifft, i’w atal rhag gwerthu neu sicrhau benthyciad heb ganiatâd rhoddwr benthyg y morgais

Dosbarthiadau teitl

Pan gawn gais i gofrestru tir am y tro cyntaf, byddwn yn ymchwilio i’r gweithredoedd teitl a gwybodaeth arall mae’r ceisydd yn ei darparu. Os yw’r dystiolaeth hon yn sefydlu perchnogaeth y ceisydd, byddwn yn eu cofrestru gyda dosbarth teitl, yn dibynnu a yw’r eiddo’n rhydd-ddaliol neu’n brydlesol.

Y dosbarthiadau gorau a mwyaf cyffredin yw teitl rhydd-ddaliol llwyr a phrydlesol llwyr, ond mewn rhai achosion byddwn yn rhoi dosbarth teitl mwy cyfyngedig. Os ydych yn ansicr ynghylch dosbarth y teitl a nodir yn eich cofrestr neu beth mae’n ei olygu, dylech ymgynghori â’ch cynghorydd cyfreithiol.

Cyfyngiadau

Mae cyfyngiadau yn atal Cofrestrfa Tir EF rhag cwblhau cofrestriad trafodion penodol, megis trosglwyddiadau, prydlesi neu forgeisi, oni bai bod yr amodau a nodir yn y cyfyngiad yn cael eu bodloni.

Eu pwrpas fel arfer yw sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyfreithiol penodol.

Er enghraifft, efallai bydd cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif cydymffurfio â thelerau trosglwyddiad blaenorol neu ddogfen arall, neu gydsyniad rhywun heblaw’r perchennog cofrestredig.

Cyfyngiadau cyffredin

Dyma rai cyfyngiadau cyffredin y gallech eu gweld yn eich cofrestr:

(13.02.2019) Cyfyngiad: Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y llys.

Dyma’r cyfyngiad mwyaf cyffredin, a gofnodir pan fo’r perchnogion yn ymddiriedolwyr. Mae’n cyfyngu ar yr hyn y gall un perchennog ei wneud ar ei ben ei hun.

(20.02.2002) Cyfyngiad: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr yn nodi bod y trawsgludwr hwnnw’n fodlon mai’r person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un person â’r perchennog.

Mae’r cyfyngiad hwn yn helpu i warchod rhag twyll.

(17.10.2018) Cyfyngiad: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru heb dystysgrif a lofnodwyd gan Gwmni a Enwyd CCC y cydymffurfiwyd â darpariaethau cymal 22 o Bedwaredd Atodlen y Brydles gofrestredig.

Fe welwch hyn yn aml pan fydd cwmni rheoli yn cael ei benodi i ddarparu rhai gwasanaethau a rennir.

(05.11.2012) Cyfyngiad: Nid oes trosglwyddiad yr ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan UN Arall of 14 Rhywle, Unman AN1 1 AA neu ei drawsgludwr.

Bydd angen caniatâd ysgrifenedig y person neu’r cwmni a enwir arnoch yma i gofrestru trosglwyddiad. Nid oes angen y caniatâd arnoch i gofrestru prydles neu forgais.

Y gofrestr arwystlon (C)

Dyma lle byddwch fel arfer yn dod o hyd i fanylion rhai ‘beichiau’ sy’n effeithio ar y tir. Nid oes gan bob cofrestr gofrestr C.

Gallai gwybodaeth yn y gofrestr arwystlon gynnwys:

  • morgeisi (cyfeirir atynt weithiau fel arwystlon cofrestredig) ac arwystlon ariannol eraill gaiff eu sicrhau ar yr eiddo. Ni fydd y gofrestr yn dangos y swm o arian o dan sylw fwy na thebyg
  • hawliau neu fuddion eraill sy’n cyfyngu ar sut y gellir defnyddio’r tir neu’r eiddo, megis hawliau tramwy i eraill groesi’r eiddo neu gyfamodau cyfyngu
  • tenantiaethau sy’n effeithio ar yr eiddo cyfan neu ran ohono. Gellir rhestru’r rhain yn unigol neu fel rhan o atodlen o brydlesi

Cael gwybodaeth am dir ac eiddo

Darllenwch ein canllaw ar sut i gael gwybodaeth am eiddo a thir.