Rhowch wybod am broblem i'r CMA
Dywedwch wrth y CMA am faterion cystadleuaeth a defnyddwyr.
Ni all y CMA ymyrryd na chynghori ar gwynion unigol.
I gael cymorth gyda’ch achos neu broblem unigol, cysylltwch â’r sefydliad cyngor defnyddwyr perthnasol yn eich ardal (in English).
Rhowch wybod am broblem i’r CMA
Ni all y CMA ymyrryd na chynghori ar gwynion unigol.
Rhowch wybod am broblemau cystadleuaeth, defnyddwyr neu farchnad i’r CMA:
- ar-lein: Rhowch wybod am broblem i’r CMA (in English)
- dros y ffôn: 020 3738 6000
- drwy e-bost: general.enquiries@cma.gov.uk
Rhowch wybod am gartel i’r CMA
Rhowch wybod am gartel:
- ar-lein: Gwnewch adroddiad ar-lein (in English)
- dros y ffôn: 020 3738 6888
- drwy e-bost: cartelshotline@cma.gov.uk
Dysgwch fwy am gartelau a sut i’w hosgoi (in English).
Os ydych chi neu’ch busnes wedi bod yn rhan o gartel, cysylltwch â’n rhaglen drugaredd:
- ar-lein: Cartelau: cyflwynwch eich enw a gwnewch gais am drugaredd (in English)
- dros y ffôn: 020 3738 6833
Chwythu’r Chwiban
Chwythwyr chwiban yw gweithwyr, neu gyn-weithwyr, sy’n rhoi gwybod am weithgareddau anghyfreithlon gan y busnes neu’r sefydliad maen nhw’n cael eu cyflogi ganddo.
Os yw’r gweithgaredd anghyfreithlon yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion, cyflenwi gwasanaethau neu gystadleuaeth sy’n effeithio ar farchnadoedd yn y DU, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r CMA.
Gallwch roi gwybod am bryderon ynghylch chwythu’r chwiban i’r CMA:
- ar-lein: Gwnewch adroddiad chwythwr chwiban (in English)
- dros y ffôn: 020 3738 6556
- drwy e-bost: whistleblower@cma.gov.uk
Dysgwch fwy am chwythu’r (in English) chwiban, gan gynnwys eich hawliau a sut y bydd y CMA yn diogelu eich hunaniaeth.
Beth sy’n digwydd nesaf
Ar ôl i chi anfon eich cwyn atom, byddwch yn derbyn ymateb awtomataidd drwy e-bost a byddwn yn adolygu’r holl wybodaeth a ddarparwch.
Ni allwn ymateb yn fanwl i gwynion unigol, ond gan ddefnyddio eich gwybodaeth efallai y byddwn yn:
- cysylltu â busnesau sy’n ymwneud â’ch cyflwyniad
- ymchwilio a chymryd camau cyfreithiol yn erbyn busnesau
- cynnal astudiaethau neu ymchwiliadau i farchnadoedd
- erlyn pobl sy’n ymwneud â chartelau
Os penderfynwn agor achos gorfodi ffurfiol, efallai y byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi cyfle i chi wneud sylwadau arno. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i ni ddibynnu ar y wybodaeth rydych chi wedi’i darparu i agor yr achos. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni yn general.enquiries@cma.gov.uk.
Pan fydd y CMA yn cymryd rhan mewn gwaith gorfodi troseddol, mae’n gweithredu yn unol â’r dyletswyddau a nodir ym mhennod 5 o’r cod ymarfer ar gyfer dioddefwyr troseddau (cod dioddefwyr).
I gael gwybod mwy, darllenwch ein canllaw ar beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am dorri cyfraith cystadleuaeth neu ddefnyddwyr posibl (in English).
Rhowch wybod am broblem i reoleiddiwr arall
Mewn rhai achosion, efallai yr hoffech roi gwybod am eich pryderon i reoleiddiwr diwydiant:
- meysydd awyr a gwasanaethau traffig awyr: Awdurdod Hedfan Sifil (in English)
- gwasanaethau ariannol: Awdurdod Ymddygiad Ariannol (in English)
- nwy a thrydan yng Nghymru, Lloegr a’r Alban: Ofgem (in English)
- nwy, trydan, dŵr a charthffosiaeth yng Ngogledd Iwerddon: Rheoleiddiwr Cyfleustodau (in English)
- systemau talu: Rheoleiddiwr Systemau Talu (in English)
- rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban: Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (in English)
- gwasanaethau teledu, radio, ffôn, post a rhyngrwyd: Ofcom (in English)
- gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr: Ofwat (in English)
- os ydych chi’n credu bod rheolau hysbysebu wedi’u torri: yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (in English)
Updates to this page
-
More guidance on making a competition or consumer law complaint published.
-
First published.