Rhoi gwybod i CThEF am asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth (IHT418)
Defnyddiwch y ffurflen hon ynghyd â ffurflen IHT400 os oedd gan yr ymadawedig hawl i elwa o ymddiriedolaeth.
Defnyddiwch ffurflen IHT418 ynghyd â ffurflen IHT400 os oedd gan yr ymadawedig hawl i elwa o ymddiriedolaeth.
Dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol y dylech lenwi’r ffurflen hon:
- mae gan yr ymadawedig yr hawl i elwa o ymddiriedolaeth
- rydych yn gweithredu fel ysgutor neu fel ysgutor a hefyd fel ymddiriedolwr
Dylech lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob ymddiriedolaeth.
Gallwch ddod o hyd i fersiynau blaenorol o’r ffurflen hon ar yr Archifau Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen fersiynau hŷn arnoch at ddibenion hanesyddol neu at ddibenion cydymffurfio.
Sut i lenwi’r ffurflen
Mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
- Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim (yn agor tudalen Saesneg).
- Llenwi’r ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Cyn i chi ddechrau
Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl arweiniad perthnasol cyn i chi ddechrau i lenwi’r ffurflen.
Gellid cynnwys rhai mathau o asedion mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, fel stociau a chyfranddaliadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu rhoi yn yr adran gywir. Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran.
Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc sy’n dangos y balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen – efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen. Dod o hyd i ba gofnodion y bydd angen i chi eu cadw.
Adran A: ynglŷn â’r ymddiriedolaeth
Mae’n rhaid i chi gynnwys enw’r ymddiriedolaeth a manylion eraill amdani.
Os ydych yn llenwi’r ffurflen hon fel ymddiriedolwr, dylech gynnwys copi o’r weithred ymddiriedolaeth.
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
Rhif 10 digid yw hwn. Bydd UTR yn cael ei anfon atoch pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer treth incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig.
Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch rhif UTR.
Os nad oes gan yr ymddiriedolaeth UTR, gadewch flwch A3 yn wag.
Adran B: ynglŷn â’r ymddiriedolwyr
Dylech gynnwys y canlynol:
- enwau a chyfeiriadau holl ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth
- enw a manylion cyswllt y cyfreithiwr neu’r asiant sy’n gweithredu ar ran yr ymddiriedolaeth
Adran C: Eich capasiti
Mae yna adrannau gwahanol i chi eu llenwi os ydych yn gweithredu:
- dim ond fel ysgutor neu weinyddwr yr ystâd — llenwch adrannau D ac I
- dim ond fel ymddiriedolwr yr ymddiriedolaeth — llenwch adrannau E, F, G, H, I a’r datganiad
Mewn rhai achosion, bydd yr ymddiriedolwyr yn talu treth ar yr un pryd ag y bydd cynrychiolwyr personol cyfreithiol yr ystâd yn gwneud cais am grant. Gall hyn ddigwydd os mai’r un bobl yw’r ymddiriedolwyr a’r cynrychiolwyr personol.
Os ydych yn gweithredu fel ysgutor neu weinyddwr yr ystâd a hefyd fel ymddiriedolwr yr ymddiriedolaeth, dylech lenwi adrannau E, F, G, H, I a’r datganiad.
Adran D: Dim ond gweithredu fel ysgutor neu weinyddwr yr ystâd
Dim ond os yw’r ddau beth canlynol yn wir amdanoch y dylech lenwi’r adran hon:
- dim ond fel ysgutor neu weinyddwr yr ystâd yr ydych yn gweithredu
- rydych yn ymwybodol o unrhyw asedion a oedd wedi’u dal yn yr ymddiriedolaeth er budd yr ymadawedig
Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen gyflawn hon at CThEF ynghyd â ffurflen IHT400 ac unrhyw atodlenni perthnasol.
Buddiant yr ymadawedig mewn meddiant
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a oedd gan yr ymadawedig unrhyw un o’r buddiannau canlynol.
Buddiant mewn meddiant a ddechreuodd cyn 22 Mawrth 2006
Ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant yw ymddiriedolaeth sy’n dal eiddo i berson (neu gwmni) sydd â ‘hawl’ i’r incwm neu i fwynhau’r eiddo a ddelir. Cyn 22 Mawrth 2006, gelwir hyn yn ‘ymddiriedolaeth buddiant cymhwysol mewn meddiant (QIIP)’.
Ar ôl y dyddiad hwn, dim ond os yw’n un o’r canlynol y gall ymddiriedolaeth buddiant cymhwysol mewn meddiant ffurfio:
- buddiant ar gael yn syth ar ôl y farwolaeth
- buddiant person anabl
- buddiant cyfresol trosiannol
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y mathau o fuddiannau mewn meddiant (yn agor tudalen Saesneg).
Roedd yn fuddiant yn union ar ôl y farwolaeth
Mae hyn yn codi pan fo buddiolwr yn cael buddiant o ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant. Mae’n cael ei greu gan ewyllys neu o dan reolau diewyllysedd. Nid yw’n gymhwysol fel ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth na buddiant person anabl.
Buddiant person anabl
Dyma ymddiriedolaeth i berson anabl sy’n bodloni gofynion penodol am sut y mae’n bosibl defnyddio incwm a chyfalaf yr ymddiriedolaeth yn ystod ei oes. Caiff ei drin fel buddiant cymhwysol mewn meddiant ac yn ffurfio rhan o ystâd y buddiolwr ar adeg ei farwolaeth.
Buddiant cyfresol trosiannol
Dyma ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant nad yw’n ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth nac yn fuddiant person anabl. Gall hwn godi mewn 3 ffordd.
Y cyntaf yw ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant a ddechreuodd rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Hydref 2008. Mae’n rhaid iddi ddilyn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant flaenorol a oedd yn ei lle cyn 22 Mawrth 2006.
Yr ail yw ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant sy’n trosglwyddo i briod neu bartner sifil y buddiolwr ar ôl ei farwolaeth. Dim ond i ymddiriedolaethau sydd wedi’u trosglwyddo ar ôl 5 Hydref 2008 y mae hyn yn berthnasol.
Y trydydd yw pan fo eiddo’r ymddiriedolaeth yn bolisi yswiriant bywyd a bod cadwyn ddi-dor o fuddiannau mewn meddiant yn dod i ben ar adeg y farwolaeth.
Buddiant mewn meddiant a brynwyd
Dyma fuddiant mewn meddiant a ddelir mewn ymddiriedolaeth a oedd wedi’i brynu gan y buddiolwr:
- drwy drafodyn hyd braich
- ar neu ar ôl 09 Rhagfyr 2009
- pan oedd y buddiolwr yn ddomisil yn y DU
Asedion yn yr ymddiriedolaeth
Mae’n rhaid i chi gynnwys disgrifiad o’r asedion yn yr ymddiriedolaeth a’u gwerthoedd. Mae’r asedion hyn yn gymhwysol i gael talu Treth Etifeddiant fesul rhandaliad.
Asedion eraill yn yr ymddiriedolaeth
Mae’n rhaid i chi gynnwys disgrifiad o’r holl asedion eraill yn yr ymddiriedolaeth a’u gwerthoedd. Nid yw’r asedion hyn yn gymhwysol i gael talu Treth Etifeddiant fesul rhandaliad.
Hawl yn y dyfodol i asedion yn yr ymddiriedolaeth
Efallai yr oedd gan yr ymadawedig hawl i rai asedion mewn ymddiriedolaeth ond bod rhywun arall yn cael buddiant ohonynt yn ystod bywyd y person hwnnw. Ni fydd ystâd yr ymadawedig yn cael yr asedion hyd nes ar ôl i’r person arall farw. Gelwir hyn yn fuddiant refersiynol (yn agor tudalen Saesneg) neu fuddiant disgwyliad.
Os ydych wedi ateb ‘Iawn’ i gwestiwn D4 neu D5, dylech gynnwys:
- amcangyfrif o werth yr asedion ar ddyddiad y farwolaeth
- enw ac oedran y person sy’n cael y buddiant
Adran E: Naill ai gweithredu dim ond fel ymddiriedolwr yr ystâd, neu weithredu fel ysgutor neu weinyddwr yr ystâd a hefyd fel ymddiriedolwr yr ymddiriedolaeth
Dim ond os ydych yn gweithredu fel y naill neu’r llall o’r canlynol y dylech lenwi’r adran hon:
- dim ond fel yr ymddiriedolwr
- fel ysgutor neu weinyddwr yr ystâd a hefyd fel yr ymddiriedolwr
Ynglŷn â’r person sydd nawr wedi marw
Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion am fuddiolwr yr ymddiriedolaeth sydd nawr wedi marw.
Os yw marwolaeth person ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025, darllenwch Treth Etifeddiaeth os ydych yn breswylydd hirdymor yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Enw a chyfeiriad y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad
Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r ymddiriedolaeth. Efallai y bydd y rhain yn wahanol i’r manylion a roddoch yn adran B.
Dylech hefyd gynnwys manylion y cyfrif yr ydych am i unrhyw ad-daliad gael ei dalu iddo.
Ynglŷn â’r setlwr
Dylech gynnwys enw a manylion personol y person wnaeth sefydlu’r ymddiriedolaeth (y setlwr).
Anwybyddwch gwestiynau E24 ac E25 os nad oedd y setlwr wedi marw cyn y digwyddiad.
Ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025, nid yw Treth Etifeddiant yn ddyledus ar asedion tramor a ddelir mewn ymddiriedolaeth os nad yw’r buddiolwr na’r setlwr yn breswylydd tymor hir yn y DU ar ddyddiad y digwyddiad. Gelwir yr asedion hyn yn ‘eiddo eithriedig’.
Mae yna eithriadau i hyn ar gyfer buddiannau anuniongyrchol mewn eiddo preswyl yn y DU.
Atebwch ‘Iawn’ i gwestiwn E28 os nad yw Treth Etifeddiant yn ddyledus oherwydd darpariaethau trosiannol. Mae hyn yn golygu na fydd asedion nad ydynt yn y DU yn agored i dâl pan fydd y buddiant cymhwysol mewn meddiant yn dod i ben neu fod y buddiolwr yn marw, os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol. Mae’r asedion:
- yn cael eu peryglu mewn setliad o fuddiant cymhwysol mewn meddiant yn union cyn 30 Hydref 2024
- yn cael eu cynnwys fel eiddo eithriedig yn union cyn 30 Hydref 2024
Os nad oedd domisil y setlwr yn y DU
Atebwch y cwestiynau o E29 ymlaen lle bo’r setlwr neu’r buddiolwr wedi marw cyn 6 Ebrill 2025.
Gwiriwch y nodiadau arweiniad ar gyfer D31 i gael help ar y rheolau domisil a domisil tybiedig.
Adran F: manylion tudalennau’r atodlen
Mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi adrannau ychwanegol, a elwir yn ‘atodlenni’, os ydych yn rhoi gwybod i CThEF am y mathau canlynol o incwm.
Os yw stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd yr asedau’n cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau.
Os oes unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r ymddiriedolaeth
Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, morgais neu fenthyciad personol nad yw wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.
Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant yn gysylltiedig
Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wediʼu cynnwys yn y digwyddiad.
Os yw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os ywʼr asedauʼn cynnwys unrhyw nwyddau cartref a phersonol.
Os yw tir ac adeiladau wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedau’n cynnwys tir, adeiladau, coed, neu dangoed yn y DU.
Os ydych yn hawlio Rhyddhad Amaethyddol
Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol.
Os ydych yn hawlio Rhyddhad Busnes
Dylech lenwi atodlen D38 os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes.
Os yw asedion tramor wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os yw unrhyw un o’r asedion y tu allan i’r DU.
Adran G: Asedion yn y DU a ddelir mewn ymddiriedolaeth
Mae’n rhaid i chi lenwi adran G gan roi manylion yr holl asedion sy’n rhan o’r ymddiriedolaeth hon.
Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’i gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn yn ‘gwerth marchnad agored’.
Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf.
Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, dylai blwch G2 ddangos cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.
Asedion lle gellir talu treth fesul rhandaliad
Gellir talu asedion a gynhwysir yng ngholofn B mewn rhandaliadau blynyddol dros 10 mlynedd.
Gwiriwch pa asedau y gellir eu talu mewn rhandaliadau.
Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion yn gymwys i gael rhyddhad rhag llog (yn agor tudalen Saesneg). Dim ond os yw’r rhandaliad wedi’i dalu cyn y dyddiad dyledus y mae’r rhandaliadau hyn yn rhydd o log.
G1 Tai, adeiladau a thir
Yma, mae’n rhaid i chi gynnwys yr holl eiddo rhydd-ddaliol, prydlesol, etifeddadwy ac eiddo ansymudol eraill yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Peidiwch â chynnwys ffermdai a thir fferm.
Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon.
Bydd angen i chi lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi manylion pob eitem o dir.
G2 Cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill
Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyfrif a ddelir gan y canlynol:
- banciau
- cymdeithasau adeiladu
- cymdeithas gilyddol, gyfeillgar neu gydweithredol
- archfarchnadoedd
- cwmnïau yswiriant
Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.
G3 Arian parod
Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a wneir i’r trosglwyddai.
G4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.
Cysylltwch â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad. Gallwch ddarganfod sut ar gwefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
G5 Nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol
Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir. Mae hefyd angen i chi lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).
G6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisi
Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Os oedd y trafodyn yn cynnwys polisi aswiriant bywyd, ond nad oeddent mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a gynhwysir yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, mae angen i ni wybod am y trefniadau.
Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.
G7 Gwarantau Llywodraeth y DU a gwarantau bwrdeisiol
Dylech gynnwys:
- Stoc y Trysorlys
- Stoc y Siecr
- Stoc Drosadwy
- stoc a benthyciadau cyfunol
- Stoc Ariannu
- Bondiau Cynilo
- Bondiau Buddugoliaeth
- Benthyciadau Rhyfel
- stoc y Llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc Lloegr
- bondiau a gyhoeddwyd gan endidau trefol (awdurdodau llywodraeth leol)
Dylech hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod i ni amdanynt.
G8 Stociau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau a restrwyd
Dylech gynnwys:
- pob stoc, cyfranddaliad, dyledeb a gwarantau a restrwyd ar Restr Ddyddiol Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc
- ymddiriedolaethau unedol
- ymddiriedolaethau buddsoddi
- cwmnïau buddsoddi pen agored
- cyfranddaliadau a restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA)
- cyfranddaliadau tramor a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
Peidiwch â chynnwys cyfranddaliadau a restrwyd a oedd yn rhoi rheolaeth dros gwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch G12.
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg). Copïwch y ffigur o flwch 2 yn yr atodlen, a’i nodi ym mlwch F8 ar y ffurflen hon.
G9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau
Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau G7, G8, G10, G11 ac G12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto.
G10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth
Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc a gydnabyddir tramor neu farchnad amgen, mae ei gyfranddaliadau a’i warantau yn cael eu dosbarthu fel heb eu rhestru.
Dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a’r cyfranddaliadau canlynol os nad oedd gan y setlwr reolaeth dros y cwmni:
- stociau a chyfranddaliadau anrhestredig mewn cwmnïau cyfyngedig preifat
- cyfranddaliadau a fasnachwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys y cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA
- cyfranddaliadau a ddelir mewn Cynllun Buddsoddiad Menter (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS)
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).
G11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, gallwch dalu mewn rhandaliadau ar unrhyw gyfranddaliadau neu warantau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad busnes, boed wedi’u rhestru neu heb eu rhestru.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu treth mewn rhandaliadau ar gyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad busnes, os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- gallwch ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol
- mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu mewn rhandaliadau
- mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy nag £20,000 ac yn ffurfio:
- o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a gyhoeddwyd gan y cwmni
- o leiaf 10% o werth cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni
Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymhwysol i’w talu fesul rhandaliad, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch G11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn atodlen D32.
G12 Daliannau sy’n rhoi rheolaeth ar gyfer cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau rhestredig
Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth dros y cwmni, dylech gynnwys cyfranddaliadau — gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA a fasnachir ar farchnad nad yw’n bodloni’r diffiniad o ‘wedi’i rhestru’ at ddibenion CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a’r cyfranddaliadau.
G13 Ffermydd, ffermdai a thir ffermio
Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion rydych yn didynnu rhyddhad amaethyddol oddi wrthynt.
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a’r cyfranddaliadau.
G14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed
Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.
Os gwnaeth y setlwr gymryd rhan mewn mwy nag un busnes, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch G14.
G15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir
Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad ydynt wedi’u cynnwys mewn unrhyw flychau eraill ar y ffurflen hon. Gall hyn gynnwys:
- eiddo sydd wedi eu gosod
- garejys cloi
- tir segur
- eiddo diffaith
- chwareli
- meysydd awyr
- hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gyda manylion y tir neu’r eiddo.
G16 Dyledion sy’n ddyledus i’r Ymddiriedolaeth
Dylech nodiʼr ffigur o flwch 3 pan fyddwch yn llenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg). Dylech gynnwys arian:
- yr oedd wedi’i roi’n fenthyg ond nad oedd wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y trosglwyddiad
- yr oedd y trosglwyddwr wedi’i roi’n fenthyg i ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â pholisi yswiriant bywyd a ddelir mewn ymddiriedolaeth
- yr oedd y trosglwyddwr yn dal nodyn addewidiol ar ei gyfer
- yr oedd y trosglwyddwr yn dal cyfrif ‘IOU’ (benthyciad cyfarwyddwr) â chwmni ar ei gyfer
G17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf
Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech nodi amcangyfrif rhesymol.
G18 Asedion eraill
Dylech nodi cyfanswm gwerth unrhyw asedion eraill nad ydynt eisoes wedi’u cynnwys.
Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.
Adran H: rhwymedigaethau, esemptiadau a rhyddhadau
Dylech dim ond cynnwys dyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymddiriedolaeth ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.
Peidiwch â chynnwys y canlynol:
- ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gynhelir ar ôl dyddiad y digwyddiad
- unrhyw ffioedd a godwyd gan gyfreithiwr, asiant eiddo neu wasanaeth prisio wrth ddelio â’r digwyddiad
Rhwymedigaethau
Ar gyfer blwch H1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gall gael eu didynnu o’r asedion sydd wedi’u cynnwys yn Adran G, colofn A.
Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddo ac esbonio’n fras pam mae’r arian yn ddyledus. Os byddwch yn cynnwys didyniadau am ffioedd cyfreithwyr neu gyfrifwyr, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan wnaed y gwaith.
Ar gyfer blwch H2, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran G, colofn B, y dylech eu cynnwys.
Esemptiadau a rhyddhadau
Mae nifer o ryddhadau sy’n lleihau gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.
Gallwch ddod o hyd i ragor o arweiniad yn adran IHTM11000 o’r Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).
Er mwyn didynnu rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir ym mlychau G1 i G18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm rydych am ei ddidynnu yn y blwch a ddarperir.
Ar gyfer blwch H3, dim ond rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran G, colofn A, y dylech eu cynnwys. Adiwch y rhyddhadau at ei gilydd ac ysgrifennu’r canlyniad yn y blwch ar gyfer y cyfanswm.
Ar gyfer blwch H4, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran G, colofn B, y dylech eu cynnwys.
Ar gyfer marwolaethau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026, mae rhyddhad ar gyfradd o 100% ar werth cyfunol eiddo amaethyddol cymhwysol ac eiddo busnes cymhwysol wedi’i gyfyngu i £2.5 miliwn. Pan fo cyfanswm gwerth yr eiddo cymhwysol yn fwy na £2.5 miliwn, bydd y swm sydd dros ben yn gymwys i gael rhyddhad ar gyfradd o 50%. Dysgwch ragor o wybodaeth am lwfans rhyddhad amaethyddol neu fusnes yn adran ‘IHTM25500 — Rhyddhad busnes a busnesau’ o’r Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad yw marchnad yn cael ei chyfrif fel un ‘rhestredig’ at ddibenion CThEF (megis AIM), dim ond ar gyfradd o 50% y gall cyfranddaliadau a ddelir mewn cwmnïau sydd wedi’u rhestru ar y marchnadoedd hyn gymhwyso erbyn hyn.
Gellir trosglwyddo’r lwfans o £2.5 miliwn sydd heb ei ddefnyddio gan briod neu bartner sifil a fu farw i ystâd y person a fu farw, ar yr amod bod yr hawliad yn cael ei wneud o fewn pedair blynedd i farwolaeth y goroeswr neu o fewn chwe mis cyntaf y cynrychiolydd yn ei rôl.
Mae sut mae’r lwfans rhyddhad yn gweithio yn dibynnu ar y math o rodd neu ymddiriedolaeth. Gwirio beth mae angen i chi ei wneud pan fyddwch yn gwneud y canlynol:
-
hawlio Rhyddhad Amaethyddol ar asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth (D37) (yn agor tudalen Saesneg)
-
hawlio Rhyddhad Busnes ar gyfer asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth (D38)
Adran I: datgelu cynlluniau arbed treth
Dylech gynnwys y ddau beth canlynol:
- cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun, os ydych wedi cael un
- y flwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth
Dysgwch am y rheolau ar gyfer datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).
Datganiad
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl ymddiriedolwyr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol yn gywir.
Bydd CThEF yn derbyn ffurflen IHT418 heb lofnod gwlyb, ar yr amod bod enwau a manylion personol yr holl ymddiriedolwyr yn cael eu dangos yn adran datganiad y ffurflen.
Os ydych yn asiant
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol:
‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl y mae eu henwau’n ymddangos ar adran datganiad ffurflen IHT418 wedi gweld yr IHT418 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad sydd wedi’i gynnwys yn y ffurflen IHT418.’
Os ydych yn ymddiriedolwr
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol:
‘Fel ymddiriedolwr sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau mai’r holl bobl y mae eu henwau’n ymddangos ar adran datganiad ffurflen IHT418 yw’r ymddiriedolwyr ac wedi gweld yr IHT418 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad sydd wedi’i gynnwys yn y ffurflen IHT418.’
Anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom
Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:
- copïau o unrhyw ddogfen yr ydym wedi gofyn amdani
- unrhyw atodlenni cyflawn (darllenwch adran F)
Dysgwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen gyflawn atom.
Cael help
Cysylltwch â’r llinell gymorth Treth Etifeddiant os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.